Ewch i’r prif gynnwys

Beth all plant ei ddysgu i ni am niwrowyddoniaeth chwilfrydedd?

31 Gorffennaf 2024

Plant yn chwarae yn Techniquest

Mae plant ysgol yn helpu niwrowyddonwyr i ddeall y wyddoniaeth sy’n sail i chwilfrydedd, a sut y gall effeithio ar ddysgu a’r cof.

Mae ymchwilwyr ac addysgwyr gwyddoniaeth o Brifysgol Caerdydd wedi paru â phum ysgol gynradd ar draws y ddinas i ymchwilio i natur chwilfrydig plant a beth y gall hyn ei ddangos i ni am ddysgu a sut y gall lywio dysgu a arweinir gan chwilfrydedd mewn ysgolion.

Bu plant 7-10 oed o bob rhan o Gaerdydd yn gweithio gyda gwyddonwyr o Ysgol Seicoleg y Brifysgol a Science Made Simple - menter gymdeithasol sy'n helpu i wneud gwyddoniaeth yn brofiad gwerthfawr, cyffrous a hygyrch i bawb - i benderfynu beth sy'n eu gwneud nhw’n fwyaf chwilfrydig. Gwnaethon nhw ddatblygu eu prosiectau ymchwil eu hunain o amgylch yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw a'u cyflwyno mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Wyddoniaeth Techniquest ar 9 Gorffennaf.

Dan arweiniad Dr Matthias Gruber o’r Ysgol Seicoleg, mae’r prosiect yn adeiladu ar ymchwil flaenorol a amlygodd y gwahaniaethau arwyddocaol rhwng chwilfrydedd plant a chwilfrydedd pobl ifanc ac oedolion.

Plant yn cyflwyno prosiectau ymchwil yn Techniquest
Dewiswyd myfyrwyr o Ysgol Gynradd Albany, a gyflwynodd brosiectau am losgfynyddoedd, fel yr enillwyr yn nigwyddiad Techniquest

Mae chwilfrydedd yn sgil gynhenid sydd gan blant, ac yn sgil y dylem gael ein hannog i’w meithrin a’i datblygu drwy gydol ein bywydau. Dangosodd fy ymchwil flaenorol fod chwilfrydedd plant yn dra gwahanol i chwilfrydedd pobl ifanc ac oedolion.
Dr Matthias Gruber Principal Research Fellow

“Oherwydd y chwilfrydedd unigryw sydd gan blant, canolbwyntiodd y prosiect ar chwilfrydedd ymhlith plant 7 i 10 oed, gan archwilio sut y gellir defnyddio chwilfrydedd i wella dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

“Rydyn ni wedi dod â chyfathrebwyr gwyddoniaeth, niwrowyddonwyr, athrawon a’u disgyblion ynghyd, gan gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd,” meddai Dr Gruber.

Ariannwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Wellcome a bydd yn gwneud argymhellion ynghylch ffyrdd o integreiddio dysgu a arweinir gan chwilfrydedd i’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae gweledigaeth y Cwricwlwm newydd i Gymru yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu a arweinir gan y myfyriwr – neu a arweinir gan chwilfrydedd – ac roeddem am weithio ar y prosiect hwn i ddeall yn fanylach sut y gallai ysgolion ddefnyddio hynny’n ymarferol, yn enwedig wrth siarad am wyddoniaeth ac ymchwil.
Wendy Sadler Lecturer, Schools' Liaison Officer

Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd canfyddiadau’r prosiect hwn yn ychwanegu at wybodaeth ym maes addysg ac yn cefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd y deunyddiau a ddatblygwyd yn ystod y prosiect ar gael i’w defnyddio yn y dyfodol wrth weithredu dysgu sy’n seiliedig ar chwilfrydedd yn yr ystafell ddosbarth.

Plant yn chwarae yn Techniquest

Dywedodd Dr Ellen O'Donoghue, Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd:  “Fe ddysgais i lawer o’r prosiect, ac roedd yn arbennig o ddefnyddiol meddwl am y gwahanol ffyrdd y mae chwilfrydedd yn cael ei brofi yn y labordy ac yn yr ystafell ddosbarth. Yn y labordy, gallwn brofi bod chwilfrydedd yn cyfoethogi dysgu - ond, mae trosi hynny i'r byd go iawn yn llawer anoddach. Roedd yn ddefnyddiol iawn gweld yn uniongyrchol sut mae chwilfrydedd yn llywio dysgu yn yr ystafell ddosbarth, a pha heriau y mae myfyrwyr ac athrawon yn eu hwynebu."

Dywedodd Dr Tamas Foldes, Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gwneud PhD mewn gwyddoniaeth fel arfer yn golygu canolbwyntio ar faes cul sydd o ddiddordeb i lond llaw o bobl yn unig, ond gwnaeth siarad â’r plant fel rhan o’r prosiect Ymennydd Chwilfrydig fy atgoffa i o’r math o gwestiynau a daniodd fy niddordeb mewn astudio dysgu dynol a’r cof yn y lle cyntaf. Ni allaf ond gobeithio bod y plant wedi elwa cymaint o'r profiad ag y gwnes i."

Rhannu’r stori hon