Arbenigwyr yn rhannu eu harbenigedd ar ystod eang o bynciau yn yr Eisteddfod Genedlaethol
31 Gorffennaf 2024
Bydd ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael y cyfle i wrando ar academyddion o Brifysgol Caerdydd yn trafod eu hymchwil a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol.
Cynhelir yr ŵyl wythnos o hyd ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf (RhCT) eleni, rhwng 3 a 10 Awst.
Bydd nifer o gyflwyniadau a digwyddiadau rhyngweithiol yn stondin Prifysgol Caerdydd yn ystod yr wythnos. Bydd academyddion yng Nghwt Pentref Gwyddoniaeth y Brifysgol hefyd lle bydd ystod o weithgareddau’n cael eu cynnal.
Mae’r uchafbwyntiau ar y Maes yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru. Bydd yn trin a thrafod y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng Plaid Cymru, ar drothwy ei phen-blwydd yn 100 oed, a’r mudiad cenedlaethol a’i rhagflaenodd, Cymru Fydd. Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn podlediad byw gyda Vaughan Roderick ar gyfer BBC Radio Cymru.
Bydd yr Athro Laura McAllister yn trafod canfyddiadau’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Hi oedd cyd-gadeirydd y comisiwn hwn gyda Dr Rowan Williams. (I’W GADARNHAU)
Bydd Dr Dylan Foster Evans, pennaeth Ysgol y Gymraeg, yn traddodi darlith Bobi Jones, yn trafod hanes y Gymraeg yn RhCT. Bydd hefyd yn rhoi cyflwyniad am yr 'ysgolhaig coll' Margaret Enid Griffiths o Don Pentre, wrth edrych ar ddiwylliant Cymraeg y Rhondda.
Bydd Dr Sian Edwards o'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhabell y Cymdeithasau yn rhannu hanes y plant o Wlad y Basg a ddaeth i dde Cymru fel ffoaduriaid yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
Hefyd ym Mhabell y Cymdeithasau, bydd Cate Correia Hopkins o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, yn rhan o drafodaeth ynghylch Deallusrwydd Artiffisial a’r byd gwaith gyda TUC Cymru.
Yn eu cyflwyniad ar gyfer Canolfan Uwchefrydiau Cymry America Prifysgol Caerdydd, bydd yr Athrawon Emeritws E Wyn James a Bill Jones yn trin a thrafod bywydau a chyfraniadau Aaron Jenkins, ‘gwaredwr y Wladfa ym Mhatagonia’, a Margaret E. Roberts, ymgyrchydd dros hawliau merched.
Bydd Pabell y Cymdeithasau yn croesawu Dr Elen Ifan o Ysgol y Gymraeg a Dr Joe O’Connell o’r Ysgol Cerddoriaeth, a fydd yn cyflwyno canfyddiadau eu hymchwil sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth Gymraeg a sîn pync y Māori.
Yn stondin Prifysgol Caerdydd, bydd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn cynnal digwyddiadau panel yn ogystal â thrafodaethau gyda newyddiadurwyr o Gymru.
Bydd myfyrwyr meddygol wrth law i gymryd darlleniadau pwysedd gwaed o dan arweiniad clinigwyr, gan roi cyngor ar y canlyniadau. A gall darpar fyfyrwyr gael gwybod rhagor am ystod o gyrsiau, yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael.
Bydd Cwt Pentref Gwyddoniaeth Prifysgol Caerdydd yn rhannu datblygiadau ym maes ymchwil canser a’r defnydd cynyddol o gemeg i gynhyrchu ynni.
Meddai Deon y Gymraeg, Dr Huw Williams, a fydd hefyd yn traddodi darlith ar yr athronydd a’r radical Richard Price o’r 18fed ganrif ym Mhabell y Cymdeithasau,: “Mae’r Eisteddfod eleni, sydd ger ein campws ym Mhontypridd, yn siŵr o fod yn un gyffrous. Mae gennym amrywiaeth enfawr o gyflwyniadau wedi’u paratoi, yn cwmpasu ystod o ddisgyblaethau academaidd gan arweinwyr yn eu priod feysydd.
Mae aelodau staff y Brifysgol, gan gynnwys Awen Iorwerth o’r Ysgol Meddygaeth, a Dr Siwan Rosser, o Ysgol y Gymraeg, yn cael eu hanrhydeddu eleni am eu cyfraniad eithriadol i Gymru, y Gymraeg, a’u cymunedau lleol. Cynhelir seremonïau Arwisgo'r Orsedd fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst, a gall unrhyw un sydd â thocyn i'r maes fynd i wylio.
I gael gwybod rhagor am ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd, cliciwch yma.