Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal Cynhadledd yr Academi Farchnata 2024
5 Awst 2024
Daeth academyddion marchnata o bob rhan o’r byd ynghyd yn ddiweddar yn Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer Cynhadledd yr Academi Farchnata 2024 i archwilio’r datblygiadau a’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes.
Mae'r Academi Farchnata, cymdeithas ddysgedig ar gyfer ymchwilwyr marchnata, addysgwyr, a gweithwyr proffesiynol, yn cynnal cynhadledd flynyddol yn y DU. Cynhaliwyd yr un gyntaf yn Harrogate ym 1966, a chynhaliodd Prifysgol Caerdydd y 34ain a'r 56ain gynhadledd. Denodd y 56ed gynhadledd eleni yn Ysgol Busnes Caerdydd 375 o gynrychiolwyr o 37 o wledydd, gyda 300 o gyflwyniadau papur dros 3 dros diwrnod.
Roedd prif thema'r gynhadledd, Cyfuno Gwydnwch a Phŵer ar gyfer Gwerth Cyhoeddus – Tanio Ysbryd Cymdeithasol Marchnata, yn cyd-fynd ag ethos gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd. Roedd cynaliadwyedd yn ffocws allweddol, gyda holl ddeunyddiau’r gynhadledd yn ecogyfeillgar ac o ffynonellau lleol, a’r holl weithgareddau’n cael eu cynnal o fewn pellter cerdded.
Gwnaed eco-fagiau cario i’r gynhadledd o doriadau ffabrig dodrefn a ddarparwyd gan BOF. Gan weithredu thema marchnata ysbryd cymdeithasol, bu tîm y gynhadledd yn gweithio gyda noddwyr o fusnesau bach lleol gan gynnwys BOF, Manumit, Big Moose, Let Them See Cake, a’r Gower Gin Company.
Dywedodd yr Athro Anne Marie Doherty, Is-lywydd yr Academi Farchnata:
“Fel Is-lywydd yr Academi Farchnata, ac ar ran Pwyllgor Gwaith yr Academi, rwy’n ysgrifennu i longyfarch tîm cyfan Caerdydd ar yr hyn a oedd yn gynhadledd hynod lwyddiannus! Roedd natur gwerth cyhoeddus y gynhadledd yn amlwg, ac mae ein haelodau’n gwerthfawrogi’n fawr eich ymroddiad i ddarparu cynhadledd gynaliadwy.”
Dechreuodd y gynhadledd ddydd Llun 1 Gorffennaf gyda Cholocwiwm Doethurol yr Academi Farchnata, dan gadeiryddiaeth yr Athro Matthew Robson ac wedi’i hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Farchnata. Daeth 41 o fyfyrwyr doethurol ynghyd i drafod eu gwaith â chyfoedion a mentoriaid ymchwil profiadol mewn awyrgylch cydweithredol a chyfeillgar. Daeth y colocwiwm i ben gyda chinio gwobrau yn Charterhouse.
Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys:
- Yr Athro Neil A. Morgan, Cadair Teulu Cymreig mewn Busnes ac Athro Marchnata ym Mhrifysgol Wisconsin - Madison.
- Yr Athro Ken Peattie, Pennaeth Adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Busnes Caerdydd.
- Chloe Smith, Cydsylfaenydd Bigmoose, elusen o Gaerdydd sydd â bwriad clir, sef gwneud pethau llawn hwyl sy'n ysbrydoli pobl i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy caredig.
Roedd adborth gan fynychwyr y gynhadledd yn cynnwys:
“Roedd yn brofiad gwych mynd i gynhadledd yr Academi Farchnata ar gyfer 2024 a gynhaliwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd. Roedd y thema 'Marchnata: Cyfuno gwydnwch a phŵer ar gyfer gwerth cyhoeddus - tanio ysbryd cymdeithasol marchnata’ yn amserol ac yn llawn ysbrydoliaeth.” Dr Xiuli (Shelly) Guo,Prifysgol Gorllewin yr Alban
“Diolch yn fawr i Ysgol Busnes Caerdydd am gynnal Cynhadledd Academi Farchnata anhygoel ar gyfer 2024. Mae defnyddio cyflenwyr lleol a bod yn fwy cynaliadwy yn bendant wedi tynnu sylw a chael ei werthfawrogi, ynghyd â chodi’r bar ar gyfer pob cynhadledd ddilynol.” Sianne Gordon-Wilson, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain
“Cynulliad gwych arall yng Nghynhadledd yr Academi Farchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd. Croeso arbennig i drefnwyr y gynhadledd, yn enwedig Carolyn Strong, a roddodd ei chalon a’i henaid i sicrhau mai hwn oedd y profiad lleol a chynaliadwy gorau posib!” Cyfnodolyn Ymchwil Busnes
Yn ogystal â'r gynhadledd, roedd gwobrau'n cydnabod llwyddiannau amrywiol y cynrychiolwyr. Aeth gwobrau i’r rhai â’r nwyddau cynadleddau blaenorol hynaf, y cynadleddwr a deithiodd bellaf ar y trên (o Porto), y cynadleddwr a deithiodd bellaf yn gyffredinol (o Otago), ac enillydd yr her camau dyddiol, Kelly Harvey o Ysgol Busnes Caerdydd.
Roedd digwyddiadau cymdeithasol yn cynnwys derbyniad gwin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a noddir gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, a chinio cynhadledd yng Ngwesty Mercure Holland House gydag adloniant cerddorol gan Chris o fand Tîm Cyfleusterau Ysgol Busnes Caerdydd.
Trefnwyd y gynhadledd gan yr Athro Carolyn Strong a phwyllgor y gynhadledd, a oedd yn cynnwys: Dr Carmela Bosangit, yr Athro Nicole Koenig-Lewis, Dr Zoe Lee, Dr Olaya Moldes Andres, yr Athro Matthew Robson, a'r Athro Eleri Rosier. Rheolwyd y digwyddiad gan Beverly Francis, Julia Leath, a John Parry-Jones, gyda graffeg gan Hannah Pearce.