Llyfr o waith tiwtor Dysgu Gydol Oes yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn
29 Gorffennaf 2024
Mae llyfr Rachel Dawson, Neon Roses, wedi’i osod ar restr fer gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies.
Bob blwyddyn mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu talentau llenyddol eithriadol o Gymru mewn sawl genre yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori ym mhob iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc. Un o'r pedwar enillydd categori fydd yr enillydd cyffredinol ac yn hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2024.
Mae Neon Roses yn stori dwymgalon am ferch ifanc o’r enw Eluned Hughes yn dod i oed yn un o gymoedd y de yn 1984. Mae'r stori wedi'i gosod yn ystod streic y glowyr. Pan ddaw grŵp codi arian Lesbians and Gays Support the Miners i'r cwm o Lundain, mae bywyd Eluned yn cael ei droi ar ei ben yn ddisymwth.
Dywedodd Rachel:
“Rydw i mor falch o fod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, yn enwedig ar restr mor ddiddorol ac amrywiol. Mae Neon Roses wedi’i ysbrydoli i raddau helaeth gan fy nghariad at Gymru, felly mae’n wych cael fy nghydnabod fel un sy’n cynrychioli Cymru mewn rhyw ffordd.”
Mae Rachel yn diwtor ysgrifennu creadigol Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd Dr Michelle Deininger, Cyfarwyddwr Dros Dro a Chydlynydd rhaglen y Dyniaethau ym maes Dysgu Gydol Oes:
“Hoffem longyfarch Rachel ar y llwyddiant rhagorol hwn. Mae Neon Roses yn llyfr hynod ddifyr, teimladwy a phwysig. Rydym ni wrth ein bodd i gael Rachel yn aelod o'r tîm i ysbrydoli ac arwain ein myfyrwyr ysgrifennu creadigol.”
Darllen rhagor am Neon Roses.
Dod o hyd i'n cyrsiau ysgrifennu creadigol
Bydd yr awdur Rachel Dawson (BA Llenyddiaeth Saesneg 2010) yn dysgu Ysgrifennu Nofelau ac Ysgrifennu Rhamant yn ystod y flwyddyn academaidd hon.