Ewch i’r prif gynnwys

Mam yn cael ei hysbrydoli i astudio yn dilyn diagnosis ei mab

29 Gorffennaf 2024

Genevre and family

Genevre yn graddio eleni gyda BSc Radiograffeg a Delweddu Diagnostig ar ôl cwblhau'r Llwybr Gofal Iechyd

Ar ôl sawl ymweliad â’r adran radioleg gyda’i bachgen bach Max, sydd bellach yn 14 oed, cafodd Genevre Wilsher ei hysbrydoli i astudio ar gyfer BSc Radiograffeg a Delweddu Diagnostig.

Eleni, mae Genevre yn graddio ar ôl cwblhau’r Llwybr Gofal Iechyd gyda Dysgu Gydol Oes, llwybr arall i ddysgwyr sy'n oedolion astudio ar gyfer gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Genevre, 48 oed, sy’n byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd:

“Fe wnaeth y gwasanaeth a’r gofal ardderchog a gawson ni gan staff yr adran radioleg fy ysbrydoli i newid gyrfa, gyda’r gobaith un diwrnod o allu cynorthwyo’r rhai mewn sefyllfa debyg ac eraill sy’n ei chael hi’n anodd.

“Drwy’r Llwybr, rydw i wedi herio fy hun, mentro i dir anghyfarwydd, magu hyder a hefyd dderbyn sgiliau a phrofiad defnyddiol y galla i eu defnyddio mewn sawl agwedd ar fy mywyd a’m proffesiwn.

“Byddwn i’n ei argymell, yn bendant. Mae wedi bod yn llawer o waith caled ac yn anodd iawn ar adegau i gydbwyso fy astudiaethau, fy lleoliad gwaith a bywyd teuluol prysur, ond mae'r canlyniad wedi bod yn werth yr ymdrech, ac rwy'n edrych ymlaen at ddechrau swydd yn fy newis faes ym mis Medi.”

Dywedodd Dr Catherine Phelps, Cydlynydd Llwybrau Dysgu Gydol Oes:

“Mae ein rhaglen Llwybrau’n rhoi cyfle i ddysgwyr sy’n oedolion astudio ar gyfer gradd. Dyma lwybr hyblyg a hygyrch i’r rhai sydd ag ymrwymiadau gwaith a theulu, a chyfle i wireddu breuddwyd i’r rhai sydd am newid gyrfa. Rydyn ni’n llongyfarch Genevre ac yn dymuno pob lwc iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon