Ymgais AI i daflu goleuni ar blanedau pell
2 Awst 2024
Mae seryddwyr yn galw ar y gymuned wyddor data ryngwladol i helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o echdynnu signalau o ddata lloeren allblanedau - planedau y tu hwnt i'r system solar.
Bydd Her Data Ariel 2024, sy'n cymryd ei enw o loeren Ariel (Atmospheric Remote-sensing Infrared Exoplanet Large-survey), yn gosod tasg i'r cyfranogwyr echdynnu arwyddiannau planedol gwan o ddata efelychiadol a data swnllyd.
Gyda disgwyliad y bydd yn lansio ar ddiwedd y degawd, Ariel yw'r daith gyntaf i’r gofod sy'n ymroddedig i ddeall cemeg atmosfferig a strwythurau thermol allblanedau.
Cynhyrchodd Dr Lorenzo Mugnai a Dr Andreas Papageorgiou o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd y set ddata efelychiadol ar gyfer yr Her gan ddefnyddio uwch fodelau cyfrifiadurol o long ofod Ariel a ffynonellau y bydd yn eu harsylwi.
Mae mesur signalau gwan o atmosfferau allblanedau yn aruthrol o anodd wrth wneud yr arsylwadau a dadansoddi'r data, oherwydd ffynonellau sŵn fel y “sŵn crynu” a achosir gan ddirgryniadau llong ofod bach iawn, a mathau eraill o aflonyddu.
Gellid cymhwyso'r dulliau arloesol a ddatgelwyd drwy'r Her i'r data o loeren Ariel, gan roi mwy o fewnwelediad i gyrchfannau pell y gofod, meddai'r trefnwyr.
Dywedodd Dr Mugnai: “Fel seryddwyr, rydym ni wedi bod yn delio â'r materion lleihau sŵn hyn ers degawdau. Rydym ni wedi defnyddio'r profiad hwnnw i lunio'r her hon, a nawr rydym yn gyffrous i weld y syniadau a'r atebion ffres y bydd y gymuned AI yn eu cynnig.
“Bydd y canlyniadau a'r mewnwelediadau yn ein helpu i fod mor barod â phosibl i ddadansoddi'r data o loeren Ariel ar ôl iddo gael ei lansio.”
Ychwanegodd Dr Papageorgiou: “Ar gyfer taith hynod sensitif fel Ariel, bydd yn hanfodol deall y data'n drylwyr gallu nodi gwir arwyddiannau allblanedau ym mhresenoldeb llawer o effeithiau diangen o'r offerynnau.
“Mae hyn yn golygu talu cymaint o sylw i baratoi ar gyfer y dadansoddiad data ag i adeiladu'r lloeren ei hun. Mae Her Data Ariel yn rhan o'r broses honno, a bydd yn cyflwyno syniadau newydd gan y gymuned AI ledled y byd i ddylanwadu ar yr her gyffrous o ddysgu am fydoedd estron.”
Dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain (UCL) mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol, lansiwyd Her Data Ariel 2024 ar Orffennaf 31 yn NeurIPS 2024, cynhadledd dysgu peirianyddol byd-enwog.
Dywedodd Dr Kai Hou (Gordon) Yip, o Goleg Prifysgol Llundain, Arweinydd Her Data Ariel: “Rydym ni’n gyffrous i weld y datrysiadau arloesol y gall y gymuned wyddor data fyd-eang eu cynnig i'r dasg aruthrol hon.”
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan yr asiantaeth ofod Ffrengig CNES, Spaceflux, a Blue Sky Space Ltd., ac yn cael ei chefnogi gan Asiantaeth Ofod y DU.
Dywedodd Dr Caroline Harper, Pennaeth Gwyddor Gofod, Asiantaeth Ofod y DU: “Mae allblanedau yn debygol o fod yn fwy niferus yn ein galaeth na'r sêr eu hunain a gallai'r technegau a ddatblygwyd drwy'r gystadleuaeth fawreddog hon helpu i agor ffenestri newydd i ni ddysgu am gyfansoddiad eu hatmosfferau, a hyd yn oed eu tywydd.”
Mae rhagor o fanylion ar wefan Her Data Ariel a @ArielTelescope.