Cyffur soriasis yn dangos addewid ar gyfer trin diabetes plentyndod
30 Gorffennaf 2024
Yn ôl y canfyddiadau, mae cyffur sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i drin soriasis yn effeithiol wrth drin camau cynnar diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc, yn ôl treial clinigol newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Mae'r astudiaeth newydd wedi dangos bod Ustekinumab, imiwnotherapi sefydledig sydd wedi'i ddefnyddio i drin soriasis ers 2009, yn effeithiol wrth gadw gallu'r corff i gynhyrchu inswlin mewn diabetes math 1 - gan ddod â'r nod o reoli diabetes math-1 heb inswlin gam yn nes.
Gwnaeth yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, Coleg y Brenin, Llundain, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Calgary, ddatgelu mewnwelediadau newydd i nodi'r celloedd imiwnedd penodol (celloedd Th17) sy'n achosi diabetes math-1. Ymhellach, fe bennodd yr astudiaeth rôl imiwnotherapïau wrth ffrwyno'r broses o ddinistrio celloedd sy’n cynhyrchu inswlin.
Profodd y treial clinigol y driniaeth soriasis mewn 72 o bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed sydd â diabetes math-1 a ddechreuodd yn ddiweddar. Mae canfyddiadau’r astudiaeth wedi’u cyhoeddi yn Nature Medicine 30 Gorffennaf 2024.
Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd imiwnotherapi yn rhoi atebion i gleifion yn y dyfodol, gan dargedu system imiwnedd y corff i arafu'r broses o ddinistrio'r celloedd sy'n cynhyrchu inswlin. Mae hyn yn trin y broses imiwnedd sylfaenol yn hytrach na chywiro lefelau inswlin.
Mae Ustekinumab yn driniaeth chwistrellu y gall cleifion ei rhoi i'w hunain gartref, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol i drin mwy na 100,000 o gleifion â chyflyrau imiwn, gan gynnwys soriasis difrifol, arthritis soriatig, clefyd Crohn difrifol a cholitis briwiol difrifol. Dangosodd yr astudiaeth hon y gall Ustekinumab hefyd gadw celloedd hanfodol sy'n cynhyrchu inswlin. Nododd yr ymchwilwyr hefyd y celloedd imiwnedd penodol sy'n achosi'r dinistr hwn, gan alluogi therapïau manwl gywir ac wedi'u targedu i wneud y mwyaf o fuddion a lleihau sgîl-effeithiau.
Dywedodd yr Athro Tim Tree, Coleg y Brenin Llundain: “Rydyn ni wedi darganfod bod Ustekinumab yn lleihau lefel grŵp bach iawn o gelloedd imiwn yn y gwaed o’r enw celloedd Th17.1. Dim ond 1 o bob 1000 o gelloedd imiwnedd gwaed yw'r celloedd hyn, ond mae'n ymddangos eu bod nhw’n chwarae rhan bwysig wrth ddinistrio celloedd sy'n cynhyrchu inswlin. Mae hyn yn esbonio pam mae gan Ustekinumab cyn lleied o sgîl-effeithiau. Mae’n targedu’r celloedd sy’n peri trafferthion, tra’n gadael 99% o’r system imiwnedd yn gyfan – enghraifft wych o feddygaeth fanwl.”
Roedd canlyniadau defnyddio Ustekinumab yn dangos ei fod yn lleihau effaith ddinistriol celloedd imiwnedd Th17 ar gelloedd sy'n cynhyrchu inswlin. Ar ôl 12 mis o ddefnyddio Ustekinumab, canfu'r ymchwilwyr fod lefelau C-peptid - arwydd bod y corff yn cynhyrchu inswlin - 49% yn uwch. Mae'r treial clinigol hwn hefyd yn rhoi'r dystiolaeth glinigol gyntaf yn seiliedig ar brawf ar gyfer rôl celloedd Th17 mewn diabetes math-1.
Er bod y treial yn dangos budd defnyddio Ustekinumab i drin diabetes math-1, mae angen treialon clinigol pellach i gadarnhau'r canfyddiad hwn ac i sefydlu pa gleifion fyddai'n elwa fwyaf o'r driniaeth.
Cafodd yr ymchwil, Ustekinumab for type 1 diabetes in adolescents: a multicenter, double-blind, randomized phase 2 trial, ei gyhoeddi yn Nature Medicine. Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan bartneriaeth rhwng y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal a'r Cyngor Ymchwil Feddygol.