Mae ymchwilydd yng Nghanolfan Wolfson wedi ennill gwobr o bwys i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
26 Gorffennaf 2024
Mae Dr Olakunle Oginni, sy’n ymchwilydd clinigol yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, wedi ennill Gwobr nodedig y Gymdeithas Geneteg Ymddygiadol (BGA) ym maes Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa
Mae'r wobr hon, sef Gwobr Fuller-Scott gynt, yn cydnabod cyflawni gwyddonol rhagorol gan aelodau o'r gymdeithas sydd ar ddechrau eu gyrfa. Mae'r wobr, a gafodd ei henwi er anrhydedd i’r genetegwyr ymddygiadol arloesol John L. Fuller a John Paul Scott, yn tynnu sylw at gyfraniadau sylweddol ym maes geneteg ymddygiadol.
Cwblhaodd Dr Olakunle Oginni PhD mewn Geneteg Ymddygiadol yng Nghanolfan Seiciatreg Gymdeithasol, Genetig a Datblygiadol Coleg y Brenin Llundain yn 2021 ac mae wedi cymryd camau sylweddol yn y maes gan gynnal ymchwil arloesol a dygn i hyrwyddo geneteg ymddygiadol yn Nigeria.
Ar ôl cwblhau ei PhD, dychwelodd i Nigeria gan hwylusodd nifer o brosiectau ymchwil ryngwladol ar y cyd ar efeilliaid. Ymhlith y rhain y mae partneriaethau rhwng yr Adran Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Obafemi Awolowo (OAU) yn Nigeria a sefydliadau megis Prifysgol Semmelweis(yn Hwngari, Prifysgol Kookmin yn Ne Korea, Coleg y Brenin Llundain, a Phrifysgol Caerdydd.
Yn ogystal ag ymchwil, mae Dr Oginni wedi mynd ati i hyrwyddo geneteg ymddygiadol ymhlith seiciatryddion yn Nigeria drwy wneud cyflwyniadau mewn cynadleddau ac addysgu ôl-raddedig. Yn rhan o hyn, cyfrannodd at ddylunio modiwl ar geneteg seiciatrig i raglen ôl-raddedig seiciatreg Coleg Meddygol Cenedlaethol Ôl-raddedig Nigeria (Y Gyfadran Seiciatreg).
Ar hyn o bryd, mae Dr Oginni yn gymrawd Llwybr Academydd Clinigol Cymru, gan gyfuno ymchwil ôl-ddoethurol â hyfforddiant uwch mewn Seiciatreg Plant a’r Glasoed. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae'n bwriadu cynnal astudiaeth beilot a ariannwyd yn ddiweddar i brofi dichonoldeb astudiaeth ar efeilliaid a’r teulu ymhlith plant ifanc yn Nigeria mewn prosiect ar y cyd rhwng Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Obafemi Awolowo. Nod y prosiect newydd hwn yw gwella ein dealltwriaeth o eneteg ymddygiadol ymhlith poblogaethau amrywiol.
Yn gynharach eleni, roedd Dr Oginni hefyd yn rhan o banel o arbenigwyr a drefnwyd gan Ganolfan Wolfson i gymryd rhan ynnigwyddiad cyntaf Sgyrsiau Caerdydd gyda Dr Alex George, a oedd yn trafod iechyd meddwl cenedlaethau'r dyfodol. Trefnwyd y digwyddiad gan y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl (NMHII) pan ddaeth mwy na 300 o bobl ynghyd wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dyma ddywedodd Dr Oginni "Mae cydnabyddiaeth y BGA yn pwysleisio’r gwaith effeithiol sy'n cael ei wneud yng Nghanolfan Wolfson a'n hymrwymiad i ddatblygu maes geneteg ymddygiadol ar raddfa fyd-eang. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr yn y maes pwysig hwn ar raddfa fyd-eang."
Rhagor o wybodaeth amGynhadledd Flynyddol 2024 y Gymdeithas Geneteg Ymddygiadol.