Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith academydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei ail-greu ar ffurf cartŵn

25 Gorffennaf 2024

Fireflies gan Stellina Chen.
Fireflies gan Stellina Chen.

Mae ymchwil gan ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi’i drawsnewid yn gartŵn yn rhan o brosiect sy’n ceisio ennyn diddordeb y cyhoedd mewn materion amserol.

Mae Dr Rosie Walters o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ymchwilio i actifiaeth merched. Mae’n trin a thrafod sut mae merched yn darganfod ffyrdd o fod yn wleidyddol yn eu bywydau bob dydd, hyd yn oed pan fyddan nhw’n aml yn cael eu cau allan o fforymau penderfynu ffurfiol ac yn peidio â chael y gefnogaeth yr hoffen nhw ei chael gan yr oedolion yn eu cymunedau.

Yn rhan o'r prosiect, Academics and Artists Addressing Social Challenges, a gefnogir gan y Brifysgol Agored, Coleg y Brenin Llundain a'r grŵp cartwnau Pitik Bulag, mae Dr Walters wedi'i dewis ynghyd â 5 academydd arall gyda’r bwriad o ail-greu eu gwaith ar ffurf cartŵn. Y nod yw helpu i ddod â'u hymchwil ddiweddaraf i heriau cymdeithasol difrifol yn fyw.

Arweiniodd y prosiect cydweithredol at ddarn o waith o'r enw Fireflies gan y cartwnydd Stellina Chen o Taiwan. Mae gwaith Chen wedi'i gyhoeddi yn Le Monde, Courrier International, France 24, Le Temps, Voxeurop, The News Lens a llawer o gyhoeddiadau eraill. Mae’n mynd i’r afael yn aml â materion megis hawliau menywod a chydraddoldeb rhywedd. Oherwydd hynny, roedd yn gydweithredwr delfrydol ar gyfer Dr Walters.

Wrth drafod Fireflies, dywedodd Dr Walters: “Mae’n ymddangos bod pawb yn trafod actifyddion sy’n ferched ar hyn o bryd, ond a oes unrhyw un wir yn gwrando arnyn nhw? Er gwaethaf y penawdau di-ben-draw yn y cyfryngau ac ymgyrchoedd cyrff anllywodraethol sy'n dathlu actifyddion sy’n ferched a phopeth y gallan nhw ei gyflawni, dangosa’r ymchwil fod y rhan fwyaf o ferched yn wynebu rhwystrau enfawr o hyd o sicrhau’r mathau o newidiadau y maen nhw am eu gweld yn eu cymunedau a thu hwnt.”

“Yn y ddelwedd, ein nod oedd cyfleu'r syniad nad yw oedolion, er eu bod yn ystyried actifyddion sy’n ferched yn esiampl o obaith neu’n bryfed tân sy’n goleuo’r ffordd, yn ei gwneud hi’n hawdd i ferched gymryd rhan lawn nac yn clywed eu galwadau i sefyll gyda nhw.  Wrth ymgyrchu, mae merched yn ddewr ac yn greadigol, ond ni allan nhw newid y byd ar eu pen eu hunain, ac nid ydyn nhw eisiau gwneud hynny ar eu pen eu hunain chwaith.”

Mae dehongliad Chen o waith Dr Walters i'w weld  yn oriel Academics and Artists Addressing Social Challenges ar wefan y  Brifysgol Agored.

Rhannu’r stori hon