Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 2 2024

3 Gorffennaf 2024

BioRad

Sbotolau ar fath o dechnoleg yn CBS

Ym mhob cylchlythyr chwarterol CBS, rydyn ni’n mynd i dynnu sylw at fath penodol o dechnoleg sydd ar gael yn CBS. Yn y rhifyn hwn, dyma ni’n taflu goleuni ar dechnoleg Dadansoddiad Cyseiniant Plasmon Arwyneb (surface plasmon resonance) o Ryngweithiadau, gan Biacore™.

Mae cyseiniant plasmon arwyneb yn eich galluogi i ddadansoddi rhyngweithiadau moleciwlaidd mewn amser real. Mae cyseiniant plasmon arwyneb yn digwydd pan fydd golau polar yn taro arwyneb dargludol, a hynny ar y rhyngwyneb rhwng dau gyfrwng. Mae hyn yn cynhyrchu tonnau dwysedd gwefr o'r enw plasmonau sy’n lleihau tanbeidrwydd y golau sy’n cael ei adlewyrchu ar ongl benodol a elwir yn ongl cyseiniant, yn gymesur â'r màs ar wyneb synhwyrydd.

Mae systemau cyseiniant plasmon arwyneb Biacore™ yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys wrth ddatblygu cynnyrch fferyllol, rheoli ansawdd a gwneud ymchwil sylfaenol ym maes y gwyddorau bywyd.

Yn CBS, mae gennym ni offeryn Biacore™ T200 at ddefnydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydliadau academaidd eraill a chwmnïau ym maes y gwyddorau bywyd.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y dechnoleg hynod ddiddorol hon. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, a chofiwch gadw eich llygaid ar agor am fanylion gweithdy hyfforddiant ar y dechnoleg hon, a fydd yn cael ei gynnal yn hwyrach eleni ...

Dyma gyflwyno'r Medicines Discovery Catapult

Canolfan arloesi nid-er-elw sy’n darganfod cyffuriau yw’r Medicines Discovery Catapult (MDC) ym Mharc Alderley, Sir Gaerlleon. Ei nod yw ail-lunio'r broses o ddarganfod cyffuriau er budd y claf, gan chwarae rôl hynod ddylanwadol yn y sector biowyddorau yn y DU.

Bellach, mae’r MDC yn rhan unigryw ac anhepgor o fyd darganfod meddyginiaethau'r DU. Mae’n cydweithio ledled y sector, bo

ed hynny â datblygwyr therapiwtig sy’n BBaCh, arloeswyr technolegol, cwmnïau fferyllol a biotechnoleg mawr, neu academyddion ac elusennau.

Mae’r MDC mewn sefyllfa ddelfrydol i adnabod y meysydd allweddol sy’n gofyn am sgiliau uwch ar gyfer arloeswyr cyffuriau i'w helpu i ddatblygu rhaglenni darganfod cyffuriau a sicrhau datblygiadau meddygol blaengar a chwbl arloesol.   Mae’r MDC yn cyflawni er budd y genedl a’i chymuned mewn tair ffordd:

- Datblygu technolegau i hybu cynhyrchiant Ymchwil a Datblygu
- Lleihau’r risg ynghlwm wrth asedau BBaCh, gan ddatgloi buddsoddi pellach
- Datblygu a chynnal rhaglenni Ymchwil a Datblygu yn genedlaethol sy'n cael effaith yn fyd-eang  

Mae’r MDC yn cefnogi ei phartneriaid gan ddefnyddio ei labordai uwch a'i phlatfformau partneriaeth ym maes Biofarcwyr, y Gwyddorau Cellog a Delweddu Trosi mewn ffordd integredig a deallus.

Mae’r MDC yn gweithio ar draws holl feysydd darganfod cyffuriau, gan ganolbwyntio’n benodol ar nifer o feysydd allweddol gan gynnwys Oncoleg, Niwrowyddorau, Clefydau Heintus, Imiwnoleg a Meddyginiaethau Cymhleth.

Yn sgil ei waith, mae’r MDC yn helpu i greu sector darganfod cyffuriau cenedlaethol ffyniannus, gan droi’r gorau ym maes gwyddoniaeth y DU yn driniaethau rhagorol newydd i gleifion ledled y byd, a hynny drwy bartneriaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â info@md.catapult.org.uk neu ewch i wefan yr MDC.

Hyfforddiant ar Dechnolegau Arbenigol

'Dysgu dros Ginio' gan Bio-Rad ar Ddylunio Paneli Cytometreg Llif Paramedr Uchel

Rydyn ni’n cynnal sesiwn ‘Dysgu dros Ginio' gan Bio-Rad ar Ddylunio Paneli Cytometreg Llif Paramedr Uchel.

Dim ond 25 o leoedd sydd ar gael. Felly, cliciwch yma i gofrestru NAWR! 

Dyddiad: Dydd Iau 26 Medi 
Amser: 12pm tan 2pm 
Lleoliad: UG16, Adeilad Henry Wellcome, Parc y Mynydd Bychan CF14 4XN 
Teitl y cyflwyniad: Dylunio Paneli Cytometreg Llif Paramedr Uchel gan Ddefnyddio Gwrthgyrff wedi’u Cydgysylltu â Llifynnau StarBrightTM 

Mae datblygiadau mewn technoleg a’r amrywiaeth mewn llifynnau fflworoleuol yn golygu bod mwy o broblemau i'w llywio yn ystod y broses dylunio arbrofol. Ymunwch â'r sesiwn ‘Dysgu dros Ginio’ hon i gael gwybod am y 7 cam a all fod o gymorth wrth ddylunio profion imiwnoffenoteipio amryliw ac yna weld y camau hyn yn cael eu rhoi ar waith. Dysgwch sut y gall Llifynnau StarBright, ar y cyd ag arfer gorau arbrofol, eich helpu i sicrhau’r canlyniadau cyson a dibynadwy sydd eu hangen arnoch chi i roi hwb i'ch gwaith darganfod.

Diolch ichi am ddod i’n seminar nCounter gan NanoString yn ddiweddar. Diolch o galon i Maryam Esmaeili am gyflwyno ei gwaith gan ddefnyddio’r dechnoleg hon. Mae sleidiau NanoString ar gael yn llyfrgell dechnegol CBS; cysylltwch â ni i’w gweld.

Mae gennym ni nCounter yn CBS ichi ei ddefnyddio at ddibenion eich gwaith ymchwil. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth, a chliciwch yma i gael gwybod rhagor am y dechnoleg hon.

Peth gwych oedd gweld cynifer ohonoch chi yng ngweminarau BDBionanoParse BiosciencesNanopore/10X Genomics yn ddiweddar, a drefnwyd gan ein cydweithwyr ledled Prifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y technolegau hyn, a gallwn ni eich helpu i gysylltu â’r rheiny sy’n cyflenwi’r technolegau hyn, yn ogystal â chysylltiadau eraill ym Mhrifysgol Caerdydd.

Er gwybodaeth!

Yn yr hydref, byddwn ni’n cynnal seminar hanner diwrnod gan BD ar cytometreg llif arbenigol.

Bydd manylion cofrestru’n cael eu rhannu pan fyddan nhw ar gael. Mae croeso ichi anfon e-bost atom ni i gofrestru eich diddordeb yn y cyfamser. Diolch.

Yn chwilfrydig am seicoleg a'r ymennydd?

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y wefan Recriwtio Cyfranogwyr newydd ar gyfer yr Ysgol Seicoleg, CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd) a CUCHDS (Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd).

Maen nhw am recriwtio unigolion i'w helpu i wella eu gwybodaeth am yr ymennydd a'i ymddygiad. Mae’r astudiaethau'n amrywio o holiaduron syml i sesiynau delweddu'r ymennydd. Rydych chi'n cael eich talu am eich amser, hefyd! Mae hyn yn agored i bawb. Nid oes angen ichi fod yn un o gyflogeion Prifysgol Caerdydd i gymryd rhan.

Rhwydweithio ar draws y rhanbarth

Gwych oedd cymysgu â cytometryddion llif ar draws rhanbarth GW4 yng Nghaerwysg yn ystod lansiad Canolfan Cytomeg Caerwysg (EXCC) a chyfarfod cyntaf Grŵp Cytometreg GW4. Braf hefyd oedd ymuno â’r Diwrnod RNA diweddar yng Nghaerwysg.

Yn agosach at adref, rydyn ni wedi mwynhau digwyddiad Ymgysylltu â’r Diwydiant Prifysgol Caerdydd a MediWales a’r gynhadledd MediWales Connects, gan hyrwyddo Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog a Phrifysgol Caerdydd wrth gael gwybod am dechnolegau a thueddiadau newydd yn ein sector.

Mae eich adborth yn bwysig i ni

Cadwch eich llygaid ar agor am y ddolen i’r Arolwg Adborth i Gwsmeriaid CBS yn eich e-byst. Gallwch chi hefyd gyrchu’r arolwg hwn drwy sganio’r Côd QR sydd ar y posteri gerllaw eich labordai, ar ein gwefan neu drwy ddilyn y ddolen isod.

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r holl adborth a gawn, gan fod hyn yn ein helpu ni i wella ein gwasanaethau i’r dyfodol. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar iawn ichi am roi pum munud o’ch amser i gwblhau’r arolwg hwn. Diolch o waelod calon.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r holl adborth a gawn, gan fod hyn yn ein helpu ni i wella ein gwasanaethau i’r dyfodol. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar iawn ichi am roi pum munud o’ch amser i gwblhau’r arolwg hwn. Diolch o waelod calon.