Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddwr yn ffarwelio ar ôl 10 mlynedd o arwain Sefydliad Confucius Caerdydd

25 Gorffennaf 2024

Daeth staff y Sefydliad at ei gilydd i ddweud ffarwel wrth Dr Chabert am y tro olaf.
Daeth staff y Sefydliad at ei gilydd i ddweud ffarwel wrth Dr Chabert am y tro olaf.

Cyfarwyddwr yn ffarwelio ar ôl 10 mlynedd o arwain Sefydliad Confucius Caerdydd

Mae Dr Catherine Chabert, a fu’n Gyfarwyddwr Sefydliad Confucius Caerdydd dros y deng mlynedd diwethaf, yn ymddiswyddo o’i rôl.

Partneriaeth rhwng Prifysgol Xiamen yn Tsieina a Phrifysgol Caerdydd yw Sefydliad Confucius Caerdydd, a’i nod yw cynnig addysgu iaith o ansawdd uchel a digwyddiadau diwylliannol i gryfhau cysylltiadau er budd y ddwy gymuned ac, yn ehangach, y ddwy genedl.

Lansiwyd y Sefydliad yn 2008, ac mae Dr Chabert wedi arwain y tîm dros y deng mlynedd diwethaf, gan ei wneud yn un o’r Sefydliadau Confucius mwyaf llwyddiannus yn y DU.

Mewn llythyr personol at Dr Chabert, dyma a ysgrifennodd Is-lywydd Prifysgol Xiamen, yr Athro Shi Dalin:

“Dros y degawd diwethaf, mae eich ymrwymiad diwyro i feithrin cyfnewidiadau diwylliannol ac addysgol wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. O dan eich arweiniad chi, nid yn unig tyfu i fod yn un o’r sefydliadau addysgu iaith Tsieinëeg mwyaf dylanwadol yng Nghymru mae’r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Caerdydd, ond mae hefyd yn llwyfan pwysig i bobl allu cynnal cydweithrediadau academaidd rhwng Tsieina a’r DU.”

Wrth hel atgofion am ei chyfnod yn arwain y Sefydliad, dyma a ddywedodd Dr Chabert:

“Gan fyfyrio ar ddegawd o fod yn Gyfarwyddwr Sefydliad Confucius Caerdydd, rwy’n hynod falch o’n cyflawniadau o ran hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieina yng Nghymru, meithrin cyd-ddealltwriaeth, a chryfhau’r bartneriaeth fywiog rhwng Prifysgol Xiamen a’m sefydliad i.”

Bydd rheolaeth yr Athrofa bellach yn rhan o gylch gwaith yr Athro Wenguo Jiang, sef y Deon Tsieina ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â Chyfarwyddwr Academaidd Prifysgol Xiamen, yr Athro Guoxiang Xia.

Rhannu’r stori hon