Busnes Caerdydd yn gorffen blwyddyn lwyddiannus o sesiynau briffio brecwast
25 Gorffennaf 2024
Daeth Ysgol Busnes Caerdydd â’i sesiwn friffio brecwast olaf o’r flwyddyn academaidd 2023-24 i ben gyda sgwrs graff gan Brif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, gan nodi diwedd blwyddyn wych o sesiynau difyr ac addysgiadol.
Mae ein cyfres Briffio Brecwast Addysg Weithredol yn cynnwys amrywiaeth eang o siaradwyr o'r byd academaidd a byd busnes, gan gynnig mewnwelediad newydd a dadl ysgogol ar amrywiol themâu busnes a rheolaeth. Mae'r digwyddiadau hyn yn darparu llwyfan gwerthfawr i ymarferwyr busnes, llunwyr polisi, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil a'r tueddiadau diweddaraf.
Diolch i’n siaradwyr am eu cyfraniadau gwerthfawr ac i’n cynulleidfa am gymryd rhan weithredol yn y sesiynau.
Roedd Briffiau Brecwast 2023-24 yn cynnwys:
Medi - Egluro’r Economi Gylchol
Yn ein briffio cyntaf o’r flwyddyn, buom yn archwilio’r hyn y mae’r economi gylchol yn ei olygu, ei phwysigrwydd, a sut y gall cwmnïau fabwysiadu arferion cylchol. Ein siaradwyr oedd Nicolas Jourdain, Pennaeth Economi Gylchol yn KPMG ar gyfer y rhanbarth LCA, a Luke Bywaters, Cynghorydd Strategaeth yn KPMG.
Hydref – Egluro’r Deallusrwydd Artiffisial(AI)
Bu'r Athro Joe O'Mahoney, arbenigwr yn y diwydiant ymgynghori, yn trafod cymwysiadau busnes lefel uchaf AI. Cawsom fewnwelediad i wahanol fathau o AI, eu potensial busnes, yn ogystal â risgiau a moeseg defnyddio AI.
Tachwedd – Ugain mlynedd o’r Cyflog Byw
Buom yn dathlu Wythnos Cyflog Byw 2023 gyda sesiwn friffio brecwast yn tynnu sylw at y rôl ganolog y mae Prifysgol Caerdydd a Chaerdydd yn ei chwarae yn y fenter hon.
Ymhlith y siaradwyr roedd yr Athro Wendy Larner, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Edmund Heery, Dr Deborah Hann, Dr David Nash, a Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a chadeirydd Partneriaeth Dinas Cyflog Byw Caerdydd.
Rhagfyr - Cynhyrchiant yng Nghymru - chwilio am wyrth?
Roedd y chwyddwydr ar yr heriau cynhyrchiant enbyd yng Nghymru a llwybrau posibl tuag at welliant. Cadeiriwyd y sesiwn hon gan yr Athro Andrew Henley gyda mewnwelediadau gan yr Athro Bart van Ark, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Ymchwilydd y Sefydliad Cynhyrchiant.
Ionawr - COP28: Anghenraid newydd i weithredu ar yr hinsawdd?
Rhannodd Dr Erin Gill, Cyfarwyddwr Marchnata Byd-eang Arup, wersi hanfodol o’i phrofiad yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP 28. Amlygodd hefyd bwysigrwydd llythrennedd hinsawdd a rôl gynyddol busnesau mawr mewn gweithredu hinsawdd.
Mawrth - Cymru Yn gallu: Cyflawni nodau llesiant Cymru a rôl busnes
Datgelodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ei strategaeth newydd, gan bwysleisio’r cydweithio rhwng busnesau a’r sector cyhoeddus i gyflawni nodau llesiant Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Trafodwyd hefyd rôl hanfodol caffael wrth symud y nodau hyn ymlaen.
Ebrill - Digon o Arbenigwyr? Rôl newidiol arbenigwyr ac arbenigedd mewn cymdeithas
Rhannodd Dr Cara Reed a’r Athro Mike Reed eu hymchwil diweddaraf ar dranc posibl pŵer a dylanwad arbenigwyr ac arbenigedd mewn cymdeithas. Buont yn trafod sut y gallai ail-ddychmygu'r arbenigwr adfywio pŵer ac awdurdod galwedigaethau arbenigol.
Mai - Bywyd fel Busnes Bach yng Nghymru yn 2024
Amlygodd Rob Basini o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Jo Roberts o Fabulous Welshcakes, a Vicky Mann o Near Me Now a apiau canol tref VZTA yr heriau a’r cyfleoedd presennol i fusnesau bach yng Nghymru. Roedd y pynciau'n cynnwys dangosyddion busnes allweddol, rolau'r llywodraeth, cymorth busnes, a sero net.
Mehefin - Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Oes Ddigidol
Rhannodd Harriet Green a Myra Hunt o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol eu gweledigaeth ar gyfer creu gwasanaethau cyhoeddus digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yng Nghymru. Cyflwynodd Dr Angharad Watson Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd, gan hyrwyddo arloesedd cyfrifol ac effaith gymdeithasol drwy drawsnewid digidol.
Gorffennaf - Sgwrs gyda Phrif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price
Yn ein briffio olaf am y flwyddyn, cawsom drafodaeth dreiddgar gyda James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, am daith y sefydliad a chynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer newid a gwella sut mae Cymru’n teithio. Trafododd y prosiectau parhaus i foderneiddio rhwydwaith teithio Cymru, gan ei wneud yn fwy dibynadwy, hygyrch a chynaliadwy.
Ymunwch â'n Cymuned Addysg Weithredol i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Briffiau Brecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol.