Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Cymraeg Caerdydd yn dathlu llwyddiannau dysgwyr Cymraeg

24 Gorffennaf 2024

Mae dyn mewn siaced lwyd yn derbyn tystysgrif gan fenyw mewn ffrog binc a choch. Mae'r ddau yn gwenu.
Enillydd Dysgwr Sylfaen y Flwyddyn a Dysgwr y Flwyddyn, Daniel Minty, yn derbyn tystysgrif gan Gyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd, Anna Jones

Roedd nos Fercher 3 Gorffennaf 2024 yn noson i’w chofio i nifer o ddysgwyr Cymraeg yn ardal Caerdydd wrth i’w llwyddiannau gael eu cydnabod yn ystod Seremoni Wobrwyo flynyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd gyda’r cyflwynydd Lisa Angharad yn arwain y noson.

Cyhoeddwyd enillwyr ar gyfer 9 gwobr eleni a chafwyd 60 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau hyn. Roedd y categorïau yn cynnwys gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn yn ogystal â Gweithle y Flwyddyn a Thiwtor y Flwyddyn.

O ran gwobrau’r dysgwyr, enillydd y categori Dysgwr Mynediad y Flwyddyn oedd Imy Hopkins, enillydd Dysgwr Sylfaen y Flwyddyn oedd Daniel Minty ac enillydd Dysgwr Canolradd y Flwyddyn oedd Wayne a Sian Davies. Michelle James Ellison oedd enillydd Dysgwr Uwch y Flwyddyn, Linda Smith oedd enillydd Dysgwr Gloywi y Flwyddyn, Jo Salway oedd enillydd Dysgwr Gweithle y Flwyddyn a chyhoeddwyd mai Daniel Minty oedd enillydd Dysgwr y Flwyddyn.

O ran y gwobrau eraill, Canolfan Mileniwm Cymru enillodd wobr Gweithle y Flwyddyn a Sian Giles enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn.

Wedi i’r enillwyr gael eu cyhoeddi, cafwyd perfformiadau gan fand jazz Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, Sorela a Dysg-gôr sef côr i ddysgwyr Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Mae tri dyn yn chwarae offerynnau cerdd. Mae un yn eistedd i lawr yn canu'r piano, mae un arall yn eistedd i lawr yn chwarae drwm ac mae'r trydydd yn sefyll ac yn chwarae dwbl bas.
Band jazz Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn perfformio yn y Seremoni Wobrwyo

Anna Jones yw Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd. Meddai Anna: “Braint o’r mwyaf oedd cael atgyfodi Seremoni Wobrwyo Dysgu Cymraeg Caerdydd eleni. Mae o’n ddigwyddiad pwysig i ni ddathlu ein dysgwyr, nid yn unig rhai sydd wedi ymroi o’u hamser, wedi ’neud cynnydd arbennig, ac yn esiampl i eraill, ond y rhai sydd hefyd wedi mynychu 100% o’r gwersi – mi oedd 16 ohonynt eleni. Presenoldeb da sy’n arwain at gynnydd. Mi ydym yn hynod falch o’n dysgwyr i gyd – maent i gyd yn ennill rhywbeth.”

Mae grŵp o ddynion a menywod sy'n gwisgo dillad du yn canu wrth ddal ffolderi sy'n cynnwys cerddoriaeth ddalen.
Dysg-gôr yn perfformio yn y Seremoni Wobrwyo

Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr!

Rhannu’r stori hon