Ewch i’r prif gynnwys

Mae Abacws wedi cynnal digwyddiad CyberFirst gyda’r nod o annog merched i weithio ym myd seiberddiogelwch

24 Gorffennaf 2024

Ynghlwm wrth y digwyddiad roedd cyflwyniadau gan bartneriaid byd diwydiant a myfyrwyr cyfredol

Daeth mwy na 100 o fyfyrwyr o naw ysgol ar draws de Cymru i Abacws ar gyfer y digwyddiad CyberFirst Cymru gyntaf i ferched, dan ofal yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Un o raglenni’r Ganolfan Genedlaethol er Seiberddiogelwch (NCSC) yw CyberFirst Cymru, a’i nod yw hyrwyddo gyrfaoedd a llwybrau dysgu ym maes seiberddiogelwch i bobl ifanc rhwng 11-17 oed.

Cydnabuwyd Prifysgol Caerdydd hefyd gan yr NCSC yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch. Hi yw’r gyntaf yng Nghymru ac mae’n cefnogi digwyddiadau CyberFirst Cymru drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Diben digwyddiad CyberFirst Cymru i ferched yw annog merched yn benodol i ddilyn gyrfa ym maes seiberddiogelwch.

Cafodd y digwyddiad ei noddi eleni gan Thales, Pure Cyber a Bridewell, ac yn rhan o’r rhaglen roedd digwyddiadau gan fyd diwydiant a chyflwyniadau gan y cwmnïau hyn yn ogystal â Kyndryl, Kocho, Itsus, y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), Airbus, Wales & West Utilities, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a PwC.

Daeth y diwrnod i ben pan gafwyd cystadleuaeth Dal y Faner dan ofal Bridewell.

Dyma a ddywedodd Elaine Haigh, Uwch-ddarlithydd Seiberddiogelwch: "Roedden ni wrth ein boddau yn cynnal Digwyddiad CyberFirst Cymru i ferched yn ne-ddwyrain Cymru yma yn Abacws, ac roedd yn wych gweld cynifer o ferched brwdfrydig ym mlwyddyn 10 â chymaint o ddiddordeb mewn seiberddiogelwch. Dyma ffordd wych i ferched ym mlwyddyn 10 o ysgolion gwahanol yn yr ardal brofi nifer o sesiynau addysgiadol a rhyngweithiol gyda phartneriaid diwylliannol CyberFirst mewn cyd-destun diogel.

"A ninnau’n Ganolfan Rhagoriaeth Academaidd ym maes Addysg Seiberddiogelwch (ACE-CSE), rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi addysg Seiberddiogelwch yng Nghymru, yn enwedig o ran cau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM. Roedden ni ar ben ein digon bod un o'n myfyrwyr MSc ysbrydoledig a llwyddiannus, Marwa Omar, wedi gallu ymuno â'r drafodaeth banel a rhannu ei phrofiad. Ac rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda CyberFirst Cymru, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus drwy weithio’n galed a bod yn benderfynol i wneud gwahaniaeth.

"Clywais i un myfyriwr yn sibrwd 'mae hyn yn dod yn wir’ wrth iddyn nhw fynd i mewn i’n labordy cyfrifiaduron - sydd â digon o le i lawer o bobl - i gymryd rhan yn nghystadleuaeth Bridewell, sef ‘Dal y Faner’. Gobeithiwn fod y cyfle hwn wedi rhoi blas cadarnhaol a go iawn iddyn nhw o sut beth yw’r brifysgol ac y bydd hyn yn llywio eu camau nesaf."