Animeiddio'r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr
24 Gorffennaf 2024
Mae plant lleol o Ysgol Gynradd Llanmartin, Casnewydd, ac Ysgol Gynradd Mount Stuart, Bae Caerdydd, wedi cyd-greu Animeiddiadau Peirianneg gydag academyddion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac animeiddwyr lleol i greu ymwybyddiaeth o’r ymchwil a wneir yn yr Ysgol Beirianneg.
Roedd y prosiect 'Animeiddiadau Peirianneg' (ENGAGE), a arweiniwyd gan ein hysgol, yn canolbwyntio ar bynciau megis: y grid trydan yn y dyfodol, trafnidiaeth gynaliadwy, adeiladau gweithredol, technolegau gweithgynhyrchu a mwy i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith ymchwil pwysig a wneir mewn prifysgolion i leihau cynhesu byd-eang a chynyddu cynaliadwyedd .
Dan reolaeth Dr Phillip Lugg-Widger, nod Animeiddiadau Peirianneg oedd annog y genhedlaeth nesaf o beirianwyr trwy danio chwilfrydedd am beirianneg gynaliadwy a thechnolegau'r dyfodol. Bu plant lleol yn ymweld â'n hysgol i ddysgu am yr ymchwil a wnaed yn y labordy a chawsant wybodaeth o'r ymweliad hwn i ddatblygu eu hanimeiddiadau eu hunain trwy gwrs animeiddio wyth wythnos dilynol yn eu hysgol. Yn y gweithdai ysgol bu animeiddwyr lleol yn dysgu sgiliau animeiddio i ddechrau ac yna'n annog y plant i ddatblygu eu bwrdd stori eu hunain, lluniau gweledol, trosleisio, sgript ac animeiddiadau llawn i egluro pynciau peirianneg i bawb gyda chymorth staff academaidd.
Roedd y gweithdai’n annog cynwysoldeb a dealltwriaeth drwy ymgysylltu â phlant ysgol o bob cefndir i gyd-greu animeiddiadau, a gwnaeth hyn y gweithgaredd yn hygyrch i’r plant hynny a allai fel arfer gael eu denu at bynciau celfyddydol yn yr ysgol. Yn y prosiect ENGAGE, anogwyd plant i ddatblygu sgiliau animeiddio darluniadol dychmygus a gwybodaeth am bynciau STEM i greu testun fideo llawn gwybodaeth. Roedd plant sydd fel arfer yn cael trafferth ymgysylltu â gweithgareddau dosbarth yn gwneud penderfyniadau ymarferol ar gyfeiriad stori a chymeriadau. Daeth plant a allai deimlo fel arall bod gwyddoniaeth gysyniadol yn heriol, o hyd i enghreifftiau ymarferol o wyddoniaeth beirianyddol yn cael ei defnyddio i wella cymdeithas trwy gymhwysiad byd go iawn wedi'i fynegi'n graffigol trwy animeiddio.
Cafodd yr animeiddiadau terfynol eu harddangos mewn gwasanaethau ysgol lleol lle cawsant eu dadorchuddio ac maent wedi cael eu rhyddhau i'r cyhoedd ar-lein ers hynny.
“Yn ein hysgol ni, rydym yn cynnal ymchwil hanfodol i wella anghenion cymdeithasol yn y dyfodol gan leihau allyriadau carbon i gyrraedd targedau sero net. Mae'r prosiect hwn yn ffordd wych o ysbrydoli peirianwyr sifil, mecanyddol a thrydanol y dyfodol i ymgymryd â'r heriau hyn. Ein nod yw cynyddu gwybodaeth yn ein cymuned leol am heriau technolegol ac amgylcheddol dybryd ac ysbrydoli newid yng nghenedlaethau’r dyfodol.”
Bydd yr animeiddiadau o’r prosiect hwn yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen allgymorth ehangach mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod ac fel adnodd addysgu fydd yn helpu i esbonio wrth y cyhoedd beth yw’r gwaith ymchwil hollbwysig sy’n cael ei wneud yn ein hysgol.
Ymhlith y cyfranwyr nodedig i’r prosiect roedd Debbie Syrop (Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd), Glen Biseker (Animeiddiwr Winding Snake), Peirianwyr Academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe a disgyblion Blwyddyn 6 Ysgolion Cynradd Llanmartin a Mount Stuart.
Darparwyd cyllid ar gyfer 'Animeiddiadau Peirianneg' gan yr Academi Beirianneg Frenhinol (RAEng) fel rhan o raglen Gwobrau Ingenious ING2223\17\159. Rydym yn arbennig o ddiolchgar am gefnogaeth Peirianwyr Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe a disgyblion Blwyddyn 6 Ysgolion Cynradd Llanmartin a Mount Stuart am eu hymroddiad i’r prosiect.
Gwyliwch y fideo uchafbwynt llawn.
Gwyliwch yr animeiddiad llawn.