Osgoi ‘ffrïo’r ymennydd’ yn hollbwysig i lwyddo yng ngêm boblogaidd Just a Minute BBC Radio 4
29 Gorffennaf 2024
Mae’r comedïwr Paul Merton ac academydd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymchwilio i’r rhesymau pam mae’r gêm Just a Minute ar BBC Radio 4 mor heriol i’r rhai sy’n ei chwarae.
Yn rhan o’r gêm, mae angen i’r chwaraewyr enwog sôn am bwnc penodol am funud lawn, heb betruso, ailadrodd geiriau na gwyro oddi wrth y pwnc.
Gweithiodd yr Athro Alison Wray, arbenigwr mewn ieithyddiaeth, ar y cyd â Merton, un o chwaraewyr mwyaf hirsefydlog y gêm, ar bapur ar gyfer y cyfnodolyn Comedy Studies.
Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn sut mae’r rhai sy’n ei chwarae’n medru gwneud hynny’n llwyddiannus heb ‘ffrïo’r ymennydd’ yn ormodol (‘gorlwytho gwybyddol’).
Dywedodd yr Athro Wray, sy’n gweithio yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Term llafar ar gyfer gorlwytho’r meddwl yw ‘ffrïo’r ymennydd’. Mae'n digwydd pan fyddwn ni’n ceisio gofalu am ormod o bethau ar yr un pryd. Mae rheolau’r gêm yn creu ‘storm berffaith’ o bwysau gwybyddol, sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer ymchwil ieithyddol.
“Wrth siarad fel arfer, ein nod yw bod yn rhugl fel nad oes neb yn torri ar ein traws ac nad ydyn ni’n colli ein cyfle i siarad. Rydyn ni’n rheoli llif y syniadau ac yn ennill amser wrth gynllunio beth i’w ddweud nesaf drwy fewnosod geiriau llenwi wrth betruso, ailadrodd geiriau a gwyro oddi wrth y pwnc. Mae’r gêm hon yn gwahardd yr opsiynau hyn. Yn ôl Kenneth Williams, mae fel “llyffetheirio sbrintiwr”.
Mae’r papur, sy’n tynnu ar drawsgrifiadau a recordiadau o’r sioe gêm yn ogystal â llawer o gyfrifon cyhoeddedig o sut mae gwahanol unigolion yn ymateb i’r pwysau hyn, yn datgelu y gall y baich gwybyddol arwain at ymatebion emosiynol cryf, gan gynnwys dicter, rhwystredigaeth ac ofn. Mae’r chwaraewyr yn rhoi cynnig ar dactegau gwahanol i osgoi distewi, gan gynnwys siarad yn gyflym neu’n araf iawn, hwyhau geiriau, defnyddio geiriau cân, ailadrodd beth mae’r siaradwr blaenorol wedi’i ddweud a llywio’r pwnc tua rhywbeth y maen nhw’n gwybod amdano.
Yn y papur, mae’r cyd-awdur Paul Merton yn esbonio ei fod wedi datblygu strategaethau penodol i osgoi ffrïo’r ymennydd. Y strategaeth fwyaf effeithiol yw ailgysyniadu’r gêm yn rhywbeth nad oes rhaid iddo ei hennill. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion y gynulleidfa a chyflwyno sioe gêm ddifyr nad yw’n mynd yn rhy gyflym nac yn rhy araf.
Dyma gyhoeddiad academaidd cyntaf Merton. Gwelodd gyfle i gydweithio â’r Athro Wray ar ôl iddi fynd ato i gael syniad o’i dechnegau. Mewn papur blaenorol, dangosodd yr Athro Wray fod Merton, hyd yn oed pan oedd wedi sôn am bwnc am funud lawn yn llwyddiannus, wedi ailadrodd dros draean o eiriau. Oherwydd hynny, roedd yr Athro Wray am ymchwilio’n fanwl i’r achosion hynny o ailadrodd geiriau nad oedd neb wedi sylwi arnyn nhw na’u herio, a pham.o
Dywedodd: “Roedd gweithio’n uniongyrchol â Paul Merton ar y cyhoeddiad hwn yn fodd i ymchwilio’n fanylach i sut mae’n cysyniadu’r gêm ac yn rheoli ei gofynion. Mae’n chwaraewr llwyddiannus iawn gan ei fod wedi dysgu sut i ddehongli diben y gêm yn wahanol.”
Dywedodd Merton: “A minnau’n rhywun sydd erioed wedi cael addysg bellach, mae’n deg dweud mai Prifysgol Bywyd oedd fy ngholeg i. Doeddwn i ddim wedi disgwyl i’r Athro Wray ofyn imi gydweithio ar bapur academaidd oedd yn edrych ar ba mor anodd yw chwarae’r gêm fythol ddiddorol Just a Minute ar Radio 4.
Just a Minute yw sioe banel hynaf y byd ar y radio. Cafodd y sioe ei darlledu gyntaf yn ei fformat presennol ym 1967. Mae Merton wedi bod yn chwaraewr rheolaidd ers 1988. Mae’r sioe’n cael ei recordio o flaen cynulleidfa fyw, ac mae’r recordiad yn cael ei olygu cyn lleied â phosibl.
Mae pedwar chwaraewr yn cymryd eu tro i geisio sôn am bwnc penodol a ddewiswyd ar eu cyfer am funud. Dim ond y geiriau ar y prompt y maen nhw’n gallu eu hailadrodd. Mae’r chwaraewyr eraill yn clustfeinio am achosion o dorri’r rheolau. Os mai pwyso eu seiniwr oedd y peth cywir i’w wneud, maen nhw’n ennill pwynt ac yn cymryd drosodd am weddill y funud.
Mae’n beth prin i un chwaraewr siarad am funud lawn. Yn ôl ystadegau hyd at 2017, cafwyd 306 o achosion o wneud hynny. Roedd Paul Merton wedi gwneud hynny 32 o weithiau (mwy na 10% o’r achosion), a’r unig berson bryd hynny a oedd wedi gwneud hynny fwy o weithiau oedd Kenneth Williams, a hynny 66 o weithiau.
Datblygodd diddordeb yr Athro Wray yn y gêm yn sgîl ei hymchwil flaenorol i sut mae iaith yn cael ei phecynnu i leihau’r llwyth gwybyddol. Mae wedi cyhoeddi sawl darn ar y defnydd o iaith fformiwläig – ymadroddion a brawddegau parod sy’n cael eu defnyddio i ddweud pethau rydyn ni wedi’u dweud o’r blaen yn hawdd ac y gwyddon ni fod pobl eraill wedi’u clywed o’r blaen. Mae’n dadlau bod iaith fformiwläig yn ein galluogi i arbed ein gallu i brosesu ar gyfer yr agweddau newydd a phwysig ar yr hyn rydyn ni’n ei ddweud.
Yn fwy diweddar, mae wedi ymchwilio i sut mae dementia, sy’n lleihau gallu gwybyddol unigolyn, yn newid sut mae iaith yn cael ei chynhyrchu gan bobl â’r cyflwr a phobl sy’n rhyngweithio â nhw.
Dywedodd: “Er bod y papur hwn yn canolbwyntio ar Just a Minute, mae yna neges fwy cyffredinol. Strategaeth Paul ar gyfer y gêm yw osgoi ffrïo’r ymennydd drwy ddehongli diben y gêm mewn ffordd wahanol. Mae hyn yn ein hatgoffa, os ydych chi’n wynebu tasg amhosib, y gallai edrych ar y broblem mewn ffordd wahanol gynnig ateb sy’n eich helpu i lwyddo.”
Mae “Brain fry’ in Just a Minute: the challenges of talking without hesitation, repetition or deviation’ wedi’i gyhoeddi yn Comedy Studies, ac mae ar gael i’w ddarllen yma.