Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r graddedigion iau wedi bod yn dathlu eu llwyddiant

25 Gorffennaf 2024

Menyw mewn cap a gwisg graddio yn ysgwyd llaw plentyn mewn gwisg graddio.
Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, yn llongyfarch myfyriwr graddedig iau.

Mae’r garfan ddiweddaraf o raddedigion iau Prifysgol Caerdydd wedi diosg eu capiau o flaen eu teulu a’u ffrindiau.

Roedd y bobl ifanc yn rhan o Raglen Ysgolion Cynradd Prifysgol Caerdydd a drefnwyd mewn partneriaeth â chynllun Cyngor Caerdydd Pasbort i'r Ddinas: Prifysgol y Plant. Mae’r prosiect blwyddyn o hyd yn rhoi cyfleoedd i blant astudio pynciau sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, dysgu sgiliau newydd a chodi uchelgais.

Yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, roedd 150 o ddisgyblion o’r ysgolion a gymerodd ran o Dre-biwt, Trelái a Llaneirwg yn bresennol yn y seremoni.

Ers mis Medi 2023, mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnal mwy nag 16 o sesiynau ar y campws, ac ynghlwm wrth y cyfan roedd 12 ysgol academaidd, wyth ysgol gynradd a mwy na 450 o ddysgwyr.

Dyma a ddywedodd Nicky Prichard, un o gyn-raddedigion Prifysgol Caerdydd a Phennaeth Ysgol Gynradd Santes Fair yr Eglwys yng Nghymru yn Nhre-biwt: “Cafodd ein plant a’u teuluoedd amser gwych yn y seremoni raddio. Ar ôl iddyn nhw gymryd rhan rydyn ni wedi codi uchelgais ein teuluoedd ac wedi rhoi gwir ymdeimlad o bwrpas a synnwyr cyflawni iddyn nhw. Rydyn ni mor ddiolchgar i'r Brifysgol am roi'r profiadau gwych hyn i'n plant ac i Gyngor Caerdydd am ariannu ein trafnidiaeth i allu cymryd rhan."

Rydyn ni’n cydnabod y rôl bwysig sydd gan Brifysgol Caerdydd i’w chwarae wrth gefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc yn ein cymunedau amrywiol i ehangu eu dysgu a helpu i gyflawni eu gwir botensial. Mae’r ystod eang o weithgareddau dysgu rydyn ni wedi’u cyflwyno drwy gydol y flwyddyn yn cefnogi athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm ond ar ben hynny yn rhoi cyfleoedd unigryw i blant ddatblygu’r wybodaeth, y profiadau a’r sgiliau a allai un diwrnod arwain at astudio yn y brifysgol.
Yr Athro Wendy Larner Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Dau blentyn mewn capiau a gwisg graddio yn edrych ar liniadur a modelau teganau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i dyfu i fyny a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn uchel ar ein hagenda o hyd. Drwy fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r ddinas a’r cyfleoedd gwych sydd ar gael drwy ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ac eraill, gallwn ni ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy gyfrwng darpariaeth ryfeddol o amrywiol sydd hwyrach heb fod ar gael iddyn nhw fel arfer.”

Lansiodd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd raglen ysgolion cynradd 2023/24 drwy drefnu digwyddiad ar gyfer 54 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Willowbrook yn Llaneirwg. I ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu, cafodd y disgyblion y cyfle i fwynhau diwrnod llawn canu ac offerynnau taro i gael trafod hil a chenedligrwydd.

Tri o blant mewn capiau a gwisg graddio.

Yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Hydref, bu disgyblion ac athrawon o Ysgolion Cynradd Radnor, Lansdowne, All Saints a Bryn Celyn yn ymweld ag adeilad SBARC y Brifysgol i fwynhau diwrnod rhyngweithiol “Dewch i wybod rhagor am Les!” .

Croesawodd Ysgol Busnes Caerdydd hefyd 50 o ddisgyblion blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Windsor Clive, Trelái, i'r campws ar gyfer 'Diwrnod ym Mywyd Person Busnes'.

Mae’r rhaglen yn rhan o strategaeth Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd a’i nod yw denu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ystyried addysg uwch yn opsiwn realistig a chyraeddadwy.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch ein rhaglenni pwrpasol sydd wedi cael eu llunio’n ofalus i chwalu'r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn ogystal â’u cefnogi yn ystod eu taith addysgol.