Ewch i’r prif gynnwys

Canllawiau ymarferol i helpu ysgolion i fanteisio ar effaith mentrau addysgol

23 Gorffennaf 2024

Athrawes yn eistedd ar y llawr gyda'i dosbarth

Mae'r Education Endowment Foundation (EEF) wedi diweddaru eu canllaw poblogaidd, "A School's Guide to Implementation" gydag ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerwysg a Phrifysgol Plymouth.

Mae'r astudiaeth yn cynnig argymhellion i helpu i sicrhau bod dulliau neu arferion newydd a gyflwynir gan ysgolion yn cael cymaint o effaith â phosib ar gyflawniad addysgol plant a phobl ifanc.

Er bod llawer o ddulliau addawol yn bodoli i wella lles, ymddygiad a chyrhaeddiad myfyrwyr, gall dewis a gweithredu’r rhai mwyaf effeithiol ar gyfer anghenion penodol ysgol fod yn heriol.

Mae gweithredu’r mentrau hyn mewn ysgolion yn gymhleth ac roedd angen mwy o wybodaeth am sut i wneud hynny’n dda. Mae'r ymchwil newydd hon yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu ysgolion i oresgyn yr heriau hyn a sicrhau bod mentrau newydd yn cael effaith barhaol.

Cynhaliodd yr ymchwilwyr adolygiad o tua 300 o astudiaethau sy’n bodoli eisoes, ac fe ategwyd hyn gan 102 o arolygon wedi’u cwblhau gan arweinwyr ysgolion yn ogystal â 22 o gyfweliadau a grwpiau ffocws.

Amcangyfrifodd yr ymchwil nad yw dros hanner yr ymyriadau a gyflwynwyd mewn ysgolion yn parhau ar ôl dwy flynedd. Mae hyn yn golygu bod gwario sylweddol ar adnoddau, boed hynny’n rhai ariannol neu’n amser, nad ydyn nhw’n gwella canlyniadau disgyblion yn y tymor canolig.

Meddai Dr Jemma Hawkins, ymchwilydd yn Nghanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Mae canfyddiadau'r ymchwil yn pwysleisio bod rhoi mentrau ar waith effeithiol yn broses barhaus sy'n golygu gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gweithredu arnyn nhw. Mae'r ymchwil yn dangos bod rhoi cynlluniau o ansawdd ar waith yn gwella effeithiolrwydd ystod o ddulliau mewn ysgol.”

Dywedodd Dr Darren Moore o Brifysgol Caerwysg a Phrif Ymchwilydd yr astudiaeth: “Mae ein hymchwil yn dangos y dylai ysgolion ystyried gweithredu fel proses barhaus o addasu ac ymchwilio, ac nid fel set o gamau i'w dilyn yn unig. Mae hyn yn cynnwys ailedrych ar agweddau fel cael staff i ymwneud â’r strategaeth a chasglu data drwy gydol y broses er mwyn sicrhau  llwyddiant.

“Mae'r ymchwil a'r adroddiad canllawiau cyfatebol yn helpu i rymuso ysgolion i roi amodau ar waith sy’n gallu cefnogi’r broses weithredu, a dewis camau sy'n annog pob unigolyn perthnasol i ymgysylltu, myfyrio a dod ynghyd drwy gydol y broses.”

Lawrlwythwch yr adroddiad ymchwil a chael golwg ar fersiwn ddiweddaraf “A School’s Guide to Implementation” yn ogystal ag adnoddau am ddim i gefnogi llwyddiant y broses weithredu.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.