Ewch i’r prif gynnwys

‘Cyfnod o Drawsnewid’ Arddangosfa WSA 2024 Juliet Davies, Pennaeth yr Ysgol

23 Gorffennaf 2024

Croeso i sioe eleni.

Mae'n hyfryd eich gweld chi i gyd yma. Thema'r sioe yw 'cyfnod o drawsnewid'. Fel yn y blynyddoedd diwethaf, fe'i dewiswyd gan y myfyrwyr eu hunain, a’i gwelodd fel cysyniad sy'n creu pont ar draws holl amrywiaeth allbwn yr ysgol yn ogystal â chrisialu'r hyn a wnânt eu hunain trwy ddysgu ar eu cyrsiau a pharatoi ar gyfer y cam nesaf ar daith eu gyrfa. Nid dyma beth mae pob un o'r cyrsiau neu stiwdios dylunio o reidrwydd yn ei wneud yn benodol, ond fe'i gwelwyd fel cyfrwng ar gyfer casglu a threfnu gwaith, yn ogystal â dehongli hanfod yr ysgol.

Fe soniaf i fwy am hynny mewn eiliad, ond hoffwn ddechrau drwy eu canmol am y gwaith anhygoel a gyflawnwyd ganddynt - o'r holl waith fisoedd yn ôl yn dylunio'r logo, i gysylltu â noddwyr a chodi arian, sicrhau cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad, dylunio a gosod y blwyddlyfr, eu gwaith gofalus yn curadu'r sioe, trefnu gwobrau, ymarferion y band a chynhyrchu gefell digidol y sioe a gaiff ei gynnal ar y wefan.

Felly, hoffwn ddiolch i bob un o’r 55 aelod o’r tîm, ond yn enwedig cadeiryddion yr arddangosfa Zsófi Veres (Cadeirydd Cyffredinol), Justyna Matuszewska (Arweinydd yr Arddangosfa Ddigidol, Cyd-gadeirydd) a Cameron Jones (Arweinydd yr Arddangosfa Ffisegol, Cyd-gadeirydd). Mae eich ymroddiad a'ch haelioni tuag at eich cydweithwyr a'r ysgol gyfan wir wedi fy llorio. Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda chi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhaid i mi hefyd sôn am fy nghydweithwyr – mae cynifer o'u plith wedi cymryd rhan gan fod arddangosfa yn ymdrech ysgol gyfan, ond hoffwn grybwyll yn arbennig Kate Nash, Sam Johnson, Dan Tilbury, Beth Forrest, Justin Trakins a Shibu Raman - mae eich cefnogaeth gyson wedi bod yn wych.

Wedi dweud nad yw ‘trawsnewid’ o reidrwydd wedi bod yn ffocws uniongyrchol i bob un o'r stiwdios, mewn gwirionedd mae'n elfen anochel mewn ymchwil a dylunio pensaernïol bob amser, ac rydym ni'n ymwneud â thrawsnewid trwy addysgu, ysgolheictod ac ymchwil mewn sawl ffordd.

Mae trawsnewid mewn gwirionedd wrth wraidd ein datganiad o weledigaeth – ein nod yw 'gwneud cyfraniad sylweddol i greu a thrawsnewid i amgylchedd adeiledig cynaliadwy a all wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a gofalu am y blaned.'

Mae gwireddu'r newid hwnnw trwy greu amgylchedd adeiledig carbon isel yn thema hirsefydlog yn yr ysgol. Mae'n rhedeg drwy ein rhaglenni ac yn ganolbwynt i'r ganolfan ymchwil 'Amgylchedd Carbon Isel'.

Mewn rhai meysydd gwaith yn yr ysgol, rydym ni'n edrych ar effeithiau trawsnewidiadau sy’n gysylltiedig â’r economi wleidyddol ar ddinasoedd a thirweddau, strwythurau a chymunedau trefol – o’r ffyrdd y bu i syniadau am foderniaeth ail-lunio dinasoedd, i'r trawsnewid a ddaeth yn sgil ôl-ddiwydiannu a thwf y dinasoedd ariannol byd-eang, i newidiadau sy'n ymwneud â thwf cyflym sydd ar gynnydd yn ninasoedd y de byd-eang, i drawsnewid cyson sy'n gysylltiedig â natur ansicr yr economi anffurfiol, i brosesau trawsnewid anodd ar lefel cymdogaeth.

Rydym ni'n ystyried trawsnewid mewn ffyrdd cymdeithasol – o sut y gallai dylunio gyd-fynd â galluoedd trawsnewidiol pobl ar hyd eu hoes i sut mae’r amgylchedd adeiledig yn cefnogi’r teithiau dysgu y mae plant ysgol a dysgwyr addysg uwch yn eu dilyn, i sut y gall gefnogi’r daith a’r amser a gymer i wella o salwch, sut mae menywod yn profi newid mewn cyn-gymunedau glofaol, i sut brofiad a sut deimlad yw trawsnewid sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ac ynni.

Mae trawsnewid yn bwysig i astudiaethau treftadaeth gan fod newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn gwneud adeiladau a seilwaith a thirweddau o arwyddocâd hanesyddol yn fwy bregus, ond hefyd gan fod adeiladau hanesyddol yn cynnig gwersi ar gyfer deall dylunio cynaliadwy cyfoes. Ac, mewn theori ac ymarfer dylunio, ni allwn ond ymwneud â’r offer a’r fframweithiau cysyniadol sy’n galluogi cofnodi’r trawsnewid - o ffyrdd o wybod y dyfodol, i ffyrdd o fframio amcanion a bwriadau, i ffyrdd o ddychmygu senarios beiddgar, i ffyrdd o gynllunio prosesau, mathau o ymgysylltu a chyd-gynhyrchu, y gallu i addasu, dealltwriaeth o gylch bywyd, cylcholdeb, ac ailddefnyddio.

Mae trawsnewid wedi bod yn ffocws ar gyfer addysgeg ac ysgolheictod dros y tair blynedd diwethaf. Rydym ni wedi bod yn ail-gynllunio cyrsiau sy'n addas ar gyfer y dyfodol, sy'n addas i fyfyrwyr sy'n gweithio ar draws bydoedd cymdeithasol, digidol, byd-eang, cysylltiedig a newidiol mwy cymhleth. Mae'r gwaith wedi cynnwys dod ag agendâu brys i'r amlwg mewn addysg bensaernïol - pwyslais ar heriau byd-eang, ar ddad-drefedigaethu, ar berthnasedd pensaernïaeth i drafodaethau ar gydraddoldeb yn ymwneud â rhywedd, rhywioldeb, diwylliant a hil.

I rannu ychydig o fy mhrofiad fy hun, pan oeddwn i’n fyfyriwr, cefais fy nysgu gan rai menywod anhygoel, ond mae'n deg dweud bod y rhan fwyaf o’r penseiri y dysgais amdanynt yn wyn, yn wrywaidd neu’r ddau; a chanon gorllewinol pensaernïaeth oedd ffocws ein hastudiaethau diwylliannol. Pan ddechreuais ymarfer yn 1995, roedd un pensaer benywaidd arall yn y swyddfa. Fel menyw ifanc hoyw, roedd angen cryn ymdrech, her ac egni i ymateb i wahanol ddisgwyliadau, stereoteipiau, rhagdybiaethau, arddulliau gweithio proffesiynol, codau gwisg a sensitifrwydd wrth i mi hefyd geisio canfod fi fy hun a gweithredu'n effeithiol fel pensaer yn Llundain.

Rydym ni wedi trawsnewid cryn dipyn ers hynny fel proffesiwn ac yn y byd academaidd o ran cydnabod pobl a chymunedau amrywiol, ond ar draws cymaint o feysydd, mae angen newid o hyd, nid yn unig i weld yn glir, ond i fynegi a manteisio ar fuddion amrywiaeth a gwahaniaeth er budd ansawdd yr amgylchedd adeiledig yn y presennol a'r dyfodol.

Wrth i ni geisio amlygu hyn yn y byd addysg, rwy’n gobeithio y cewch chi, ein myfyrwyr, eich grymuso i helpu i arwain trawsnewid parhaus at ddyfodol cynhwysol, a gweithle y gall pawb ffynnu ynddo.

Daw hyn â mi at ychydig o eiriau i gloi i'r rhai a fydd yn graddio o'r ysgol yr haf hwn. Yn amlwg, rwy'n gobeithio eich bod wedi dysgu am bethau diddorol ac yn gadael gyda phob math o wybodaeth rydych chi'n falch i’w chael ar flaenau eich bysedd.

Ond yn fwy na'r pethau rydych chi'n eu gwybod, rwy'n gobeithio y byddwch yn mynd â ffyrdd pwysig o feddwl a gwneud gyda chi - ffyrdd o wybod yn hytrach na dim ond gwybodaeth ei hun, o gwestiynu'r farn gyffredin, defnyddio'ch synhwyrau, eich dychymyg, eich dirnadaeth, eich gallu i ddangos empathi, eich synnwyr o hwyl; ffyrdd o feddu ar safbwynt, dadlau a pherswadio, ond hefyd myfyrio a bod yn hyblyg; ffyrdd o adnabod risg a mentro pan allai hynny olygu mynd i rywle cyffrous a thrawsnewidiol o bosibl.

Ac rwyf i hefyd yn gobeithio y byddwch yn cadw ymdeimlad o amrywiaeth y cwestiynau moesol ynghylch pensaernïaeth sy'n ymwneud â'r maes, ymdeimlad o'r ddisgyblaeth fel tirwedd foesegol sy'n ymwneud ag amodau byw a lles - personol, cymdeithasol, planedol - a'n harferion lluniadu a dylunio fel rhywbeth sy'n cynnwys gweithredoedd moesegol sy'n rhoi sylw i bobl a lle yn gyson o ddydd i ddydd.

Yr hyn sydd gennych chi wrth gwrs yw hadau. Megis dechrau mae eich addysg wedi'i wneud yma dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy. Dymunaf y gorau i chi ar gam nesaf y daith.

Ac rwy’n gobeithio, wrth i chi barhau i drawsnewid, y byddwch yn mynd ag ymdeimlad o gysylltiad â’r ysgol gyda chi, sy’n un â’n gobeithion a’n balchder ynoch chi.

Rhannu’r stori hon