Ewch i’r prif gynnwys

Treial i atal aildroseddu ym maes cam-drin partner ymhlith dynion sy’n camddefnyddio sylweddau

22 Gorffennaf 2024

A man's hands

Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o dîm ledled y DU sy’n treialu ymyriad ac iddo’r nod o leihau cam-drin gan bartner.

Diolch i gyllid gwerth £3.2 miliwn gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), bydd rhaglen ADVANCE-D yn cael ei threialu ymhlith 450 o ddynion sy’n camddefnyddio sylweddau ac sydd hefyd yn cyflawni dedfryd gymunedol ar ôl cam-drin eu partner neu gyn-bartner benywaidd.

Y nod yw mynd i’r afael â risgiau megis camddefnyddio sylweddau, rheoli emosiynau’n wael ac ymdopi â straen yn wael, a hynny drwy ddysgu’r dynion sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer rheoli eu hemosiynau a gosod nodau personol.

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y Prif Ymchwilydd, sef yr Athro Gail Gilchrist o Goleg y Brenin, Llundain, yn gweithio gyda’r cyd-arweinydd yr Athro Liz Gilchrist (Prifysgol Caeredin) a’r cyd-ymchwilwyr yr Athro Amanda Robinson (Prifysgol Caerdydd), yr Athro David Gadd (Prifysgol Manceinion), Dr Polly Radcliffe (Coleg y Brenin, Llundain), yr Athro Ben Carter (Uned Treialon Clinigol Coleg y Brenin, Llundain) a Steve Parrott (Prifysgol Efrog).

Yn rhan o’r prosiect, bydd panel o fenywod yng Nghymru sydd â phrofiadau bywyd o gam-drin yn cynnig gwybodaeth, gan helpu’r ymchwilwyr i asesu effeithiolrwydd ac effaith yr ymyriad. Bydd y grŵp o fenywod yn cwrdd yn rheolaidd â’r ymchwilydd Dr Sharmila Mahesh Kumar o Brifysgol Caerdydd i wneud hynny.

Dywedodd y cyd-ymchwilydd yr Athro Amanda Robinson o Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd: “Bob mis yng Nghymru a Lloegr, mae wyth o fenywod yn cael eu lladd gan eu partner neu gyn-bartner. Mae yna gydberthynas gref rhwng cam-drin partner a chamddefnyddio sylweddau. Y gobaith, felly, yw y bydd yr ymyriad hwn yn cynnig ateb gwirioneddol i atal aildroseddu. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r menywod sy’n rhoi o’u hamser i sicrhau bod profiadau bywyd wrth wraidd y treial helaeth hwn.”

Mae cam-drin partner yn cynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, ariannol a seicolegol ac ymddygiad rheolaethol gan bartner neu gyn-bartner. Amcangyfrifir bod un ym mhob pedair o fenywod yn y DU wedi’i cham-drin gan bartner yn ystod eu hoes a bod 1.4 miliwn o fenywod yng Nghymru a Lloegr wedi’u cam-drin gan bartner yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y Prif Ymchwilydd yr Athro Gail Gilchrist: “Yn rhan o astudiaeth fach, gwelwyd llai o ymddygiad difrïol ar ddiwedd rhaglen ADVANCE-D ymhlith y dynion hynny mewn lleoliadau sy’n trin camddefnyddio sylweddau. Oherwydd hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno sampl fawr o 450 o ddynion sydd ar brawf am gam-drin partner i ADVANCE-D yn rhan o dreial. Os bydd ADVANCE-D yn effeithiol, fyddai’r dynion ddim yn aildroseddu, a byddai eu perthynas yn iachach. Byddai hefyd welliant mewn diogelwch a lles y menywod a’r plant, sef nod cyffredinol yr ymchwil hon.”

Bydd 32 o ardaloedd yn y DU yn cael eu neilltuo ar hap i gynnig ADVANCE-D (16 ardal) neu eu rhaglen rheoli troseddwyr arferol (16 ardal) i ddynion ar brawf neu barôl am gam-drin partner.

Bydd y tîm yn cysylltu â’r dynion a’u partneriaid neu gyn-bartneriaid wedi 4 mis a 12 mis i drin a thrafod newidiadau yn eu perthynas, ymddygiad difrïol, y camddefnydd o sylweddau a’u lles.  Wedi 24 mis, bydd y tîm yn cysylltu â nhw wrth ystyried data a gesglir yn rheolaidd er mwyn nodi cyfraddau aildroseddu, gan gynnwys y defnydd tymor hwy o sylweddau a chanlyniadau iechyd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.