Dechreuodd bywyd cymhleth ar y Ddaear tua 1.5 biliwn o flynyddoedd ynghynt nag a dybiwyd yn flaenorol, yn ôl astudiaeth newydd
29 Gorffennaf 2024
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi datgelu tystiolaeth amgylcheddol o'r arbrofion cyntaf yn esblygiad bywyd cymhleth ar y Ddaear.
Hyd yn hyn, roedd gwyddonwyr yn gyffredinol wedi derbyn i anifeiliaid ddod i'r amlwg gyntaf ar y Ddaear 635 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ond mae tîm, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, wedi darganfod tystiolaeth o ecosystem llawer cynharach ym Masn Franceville ger Gabon ar arfordir Iwerydd Canolbarth Affrica dros 1.5 biliwn o flynyddoedd ynghynt.
Mae eu hastudiaeth, a gyflwynir yn Precambrian Research, yn disgrifio pennod o weithgaredd folcanig tanddwr unigryw yn dilyn gwrthdrawiad dau gyfandir, a greodd 'labordy' llawn maetholion ar gyfer yr arbrofion cynharaf mewn esblygiad biolegol cymhleth.
Dywedodd Dr Ernest Chi Fru, prif awdur y papur a Darllenydd yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd: “Credir bod argaeledd ffosfforws yn yr amgylchedd yn elfen allweddol yn esblygiad bywyd ar y Ddaear, yn enwedig wrth drosglwyddo o organebau ungell syml i organebau cymhleth fel anifeiliaid a phlanhigion.”
Mae gwyddonwyr wedi dadlau'n eang ynghylch dilysrwydd ffosiliau macro-organebau mawr o'r cyfnod hwn, sef y cynharaf o'u math yn y cofnod daearegol.
Ond fe wnaeth y tîm dan arweiniad Caerdydd nodi cysylltiad rhwng newid amgylcheddol a chyfoethogi maetholion cyn iddyn nhw ddod i'r amlwg a allai fod wedi sbarduno eu hesblygiad.
Mae dadansoddiad geocemegol y tîm o'r creigiau gwaddodol morol a ddyddodwyd 2.1 biliwn o flynyddoedd yn ôl yn taflu goleuni newydd ar y corff hwn o ffosilau anarferol o fawr eu maint y mae cryn anghydfod yn ei gylch ym masn Franceville.
Ychwanegodd Dr Chi Fru: “Rydyn ni’n meddwl bod y llosgfynyddoedd tanddwr, a ddilynodd wrthdrawiad a phwytho cratonau’r Congo a São Francisco yn un prif gorff, wedi cyfyngu ymhellach a hyd yn oed dorri’r rhan hon o ddŵr o’r cefnfor byd-eang i ffwrdd i greu môr mewndirol morol bas llawn maetholion.
“Creodd hyn amgylchedd lleol lle roedd ffotosynthesis syanobacterial yn doreithiog am gyfnod estynedig o amser, gan arwain at ocsigeniad dŵr môr lleol a chynhyrchu adnodd bwyd mawr.
“Byddai hyn wedi darparu digon o egni i hybu cynnydd ym maint y corff ac ymddygiad mwy cymhleth a welir mewn ffurfiau bywyd cyntefig tebyg i anifeiliaid fel y rhai a geir yn y ffosilau o’r cyfnod hwn.”
Fodd bynnag, mae natur gyfyngedig y màs dŵr hwn, ynghyd â'r amodau garw a oedd yn bodoli y tu hwnt i ffiniau'r amgylchedd hwn am filiynau o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn debygol o atal y ffurfiau bywyd enigmatig hyn rhag cymryd troedle byd-eang, meddai'r ymchwilwyr.
Mae eu hastudiaeth yn awgrymu y gall yr arsylwadau hyn gyfeirio at esblygiad dau gam o fywyd cymhleth ar y Ddaear.
Roedd cam un yn dilyn y cynnydd mawr cyntaf yng nghynnwys ocsigen yr atmosffer 2.1 biliwn o flynyddoedd yn ôl ac roedd cam dau yn dilyn ail gynnydd mewn lefelau ocsigen atmosfferig tua 1.5 biliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae'r cydweithrediad, a dynnodd ar arbenigedd o Brifysgol Toulouse a Phrifysgol Poitiers yn Ffrainc, ynghyd â Chwmni Daeareg a Mwyngloddio Metelau Anfferrus Tsieina (Guilin), wedi bod ar waith ers dros ddegawd.
Mae'r tîm yn gweithio ar osod cyfyngiadau gwell ar yr amodau amgylcheddol sy'n esbonio ymddangosiad y ffosilau enigmatig hyn.
Mae eu papur, 'Hydrothermal seawater eutrophication triggered local macrobiological experimentation in the 2100 Ma Paleoproterozoic Francevillian sub-basin', yn cael ei gyhoeddi yn Precambrian Research.