Ewch i’r prif gynnwys

Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol

22 Gorffennaf 2024

alt

Mae’r archaeolegydd canoloesol Dr Karen Dempsey yn rhan o garfan o 68 o'r arweinyddion ymchwil mwyaf addawol, a fydd yn elwa o £104 miliwn i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang o bwys a masnacheiddio eu datblygiadau arloesol yn y DU.

Yn sgil Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI caiff prifysgolion a busnesau ddatblygu eu hymchwilwyr a’u harloeswyr mwyaf talentog ar ddechrau eu gyrfa a denu pobl newydd i'w sefydliadau, gan gynnwys o wledydd dramor.

Mae Dr Karen Dempsey, Darlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn ymuno â chymuned gynyddol o Gymrodyr Arweinwyr y Dyfodol yn y Brifysgol, gan fynd â chyfanswm ein cymrodyr i 14.

Mae'r cymrodyr hyn yn elwa ar gymorth wedi'i deilwra sy'n arwain at gynigion o safon, ac mae’r dyfarniadau’r hyn gan UKRI yn dystiolaeth o hyn.

Yn bartner yn Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol, mae'r Brifysgol yn mynd ati’n weithredol i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil ledled y DU.

Dr Dempsey yw Prif Ymchwilydd Bywydau Gwyrdd yr Oesoedd Canol: arferion iechyd materol a chysylltiadau rhwng bodau dynol a planhigion yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr 1100-1600 OC. Mae'r llinyn ymchwil newydd hwn yn rhychwantu archaeoleg, hanes, botaneg a threftadaeth.

Mae’r prosiect amlddisgyblaethol yn cynnwys yr hanesydd Dr Rebecca Thomas a’r artist Paul Evans yn ogystal â phartneriaid y prosiect, sef Cadw, Amgueddfa Cymru, Caring for God’s Acre ac adran gadwraeth Eglwys Loegr, Cyngor Treftadaeth Iwerddon a Transport Infrastructure Ireland.

Mae Dr Dempsey, sy'n arbenigo mewn astudio cestyll, fel arfer yn canolbwyntio ar fywydau beunyddiol pobl, yn enwedig menywod. Yn aml dydyn nhw ddim yn cael eu cynnwys yn rhan o naratifau o'r gorffennol canoloesol sy'n tueddu i fod â ffocws economaidd.

Dywedodd hi: “Er bod iechyd a lles gwyrdd yn swnio fel petawn nhw’n syniadau’r 21ain ganrif, roedd pobl yr oesoedd canol hefyd o’r farn bod cael mynediad at erddi a phlanhigion yn rhan hanfodol o ofalu am eu hunain a phobl eraill. Bydd fy nhîm amlddisgyblaethol yn ymchwilio i sut a pham yr ymgysylltodd pobl ganoloesol â gerddi a phlanhigion er mwyn cynnal iechyd ym Mhrydain ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol diweddarach, o fywyd bob dydd mewn cartrefi cyffredin i fywyd mewn mannau addoli a chestyll.

“Mae’r ‘safbwynt gwyrdd’ arloesol hwn yn galluogi dealltwriaeth gyfoethocach o brofiadau bywyd canoloesol, ac yn trin planhigion yn bethau deinamig yn y byd canoloesol ac yn rhan bwysig o dreftadaeth werdd heddiw ar ffurf planhigion hynafol sydd wedi goroesi (creiriau). Bydd ymgorffori planhigion creiriol yn rhan o astudiaethau o’r gorffennol yn tynnu sylw at dreftadaeth werdd nad yw’n cael ei gwerthfawrogi ac yn ysgogi’r cysyniadau hyn yn rhan o bolisi treftadaeth ac iechyd Ewropeaidd ehangach, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

“Mae’r ymchwil hon yn myfyrio ar syniadau o ‘les’ cyfoes yn amlygiad o syniad hŷn ac yn pwysleisio pwysigrwydd mannau gwyrdd mewn arferion iach heddiw.”

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter:

“Llongyfarchiadau i Karen ar ei llwyddiant gyda’r cynllun cymrodoriaeth mawreddog a hynod gystadleuol hwn. Mae hi'n ymuno â'n cymuned gynyddol o Gymrodyr Arweinwyr y Dyfodol UKRI a bydd yn cael y cyfle i wneud cyfraniadau gwerthfawr i wybodaeth, amlygrwydd ymchwil, ac arweinyddiaeth ymchwil.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn hynt Bywydau Gwyrdd yr Oesoedd Canol – prosiect gwych sy’n cysylltu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol mewn ffyrdd hynod ddiddorol. Mae gwaith Karen yn amlygu pwysigrwydd iechyd a lles gwyrdd i’n cymdeithas drwy gydol hanes. Mae’r themâu hyn yn atseinio’n gryf heddiw, gan gynnwys ar ein campws ein hunain, fel sy’n amlwg yn yr ymdrech tuag at gynaliadwyedd yn ein strategaeth newydd.”

Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Fonesig Ottoline Leyser: “Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn rhoi cymorth a hyfforddiant hirdymor i ymchwilwyr ac arloeswyr ddatblygu syniadau uchelgeisiol, trawsnewidiol.”

“Mae’r rhaglen yn cefnogi arweinwyr ymchwil ac arloesi’r dyfodol i fynd y tu hwnt i ffiniau disgyblaethau a sectorau, gan bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a byd busnes.

Mae'r cymrodyr sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos sut mae'r dyfarniadau hyn yn parhau i sbarduno rhagoriaeth, a gwneud y pellter rhwng darganfod a ffyniant a lles y cyhoedd yn llai. ”

Mae'r cynllun yn helpu prifysgolion a busnesau yn y DU i recriwtio, datblygu a chadw ymchwilwyr ac arloeswyr gorau'r byd, waeth beth fo'u cefndir. Gall ymchwilwyr wneud cais am gyllid hirdymor sylweddol i gefnogi eu hymchwil neu eu harloesedd a datblygu eu gyrfaoedd, a bydd pob cymrodoriaeth yn para rhwng pedair a saith mlynedd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.