Ewch i’r prif gynnwys

Feed, Food & Future yn ffit naturiol i Medicentre Caerdydd

19 Gorffennaf 2024

Bacteria sy'n gwrthsefyll nifer o gyffuriau. Bioffilm o facteria Acinetobacter baumannii – llun stoc

Medicentre Caerdydd wedi croesau’r arloeswyr ym meysydd bwyd-amaeth a’r gwyddorau bywyd Feed, Food & Future i’w chymuned sy’n tyfu o arbenigwyr

Mae Feed, Food & Future, a gafodd ei sefydlu yn 2017 gan y gwyddonydd a’r arbenigwr mewn materion rheoleiddio Dr Naheeda Portocarero, yn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr, sy’n cynnwys mynd i’r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau, lleihau effaith ffermio ar yr amgylchedd, gwella diogelwch bwyd a dylanwadu ar iechyd defnyddwyr drwy’r gadwyn fwyd-amaeth. Mae’n weithgar yn y sector bwyd anifeiliaid ac yn gweithio gyda nifer o gorfforaethau byd-eang mawr. Mae hefyd yn neilltuo adnoddau i gwmnïau llai sydd â syniadau uchelgeisiol.

Mae’r cwmni wedi cymryd unedau meithrin celloedd a microbioleg ar wahân ym Medicentre Caerdydd, yn ogystal â buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf a sicrhau gallu Bioddiogelwch Lefel 2 i hwyluso ei ymchwil a’i waith datblygu, sy’n cynnwys datblygu atebion gwrthfeirol a mireinio ei waith ar atebion gwrthfacterol.

Rydyn ni’n un o ychydig iawn o sefydliadau ledled y byd sy’n profi cynhwysion naturiol rhag feirysau pathogenig. Mae ein labordy ym Medicentre Caerdydd wedi bod yn allweddol o ran ein galluogi i ehangu ein hymchwil.
Dr Naheeda Portocarero Cyfarwyddwr Feed, Food & Future

Mae’r enw Feed, Food & Future yn cyfeirio at dri maes gwaith y cwmni: gwasanaethau bwyd anifeiliaid – mae’n cynnig arbenigedd technegol a gwasanaethau ymgynghori ar faterion rheoleiddio a marchnata, gan sicrhau bod syniadau’n cael eu datblygu a’u lansio; gwasanaethau bwyd – mae’n cynnig gwasanaeth ymgynghori sy’n ychwanegu gwerth at fusnesau, yn sicrhau eu bod yn gweithredu ag uniondeb ac yn sicrhau bod modd ymddiried ynddyn nhw, a hynny drwy hyrwyddo maeth a bwyd diogel; a’r dyfodol – mae’n datblygu arloesedd gwreiddiol sy'n seiliedig ar y farchnad a gwyddoniaeth, ar y cyd weithiau â thrydydd partïon.

Dechreuodd y fenter ar ffurf prosiect PhD ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae wedi tyfu’n grŵp ymchwil arbenigol sy’n canolbwyntio ar nodweddion gwrthfacterol a gwrthfeirol cynhwysion actif, gan gynnwys moleciwlau naturiol a modiwlau seiliedig ar blanhigion. Mae cynlluniau hefyd i ehangu’r tîm ymhellach, drwy gyfrwng rhaglen PhD newydd sy’n cael ei thrafod.

Dywedodd Dr Portocarero: “Rydyn ni eisoes wedi ennill ein plwyf yn arweinwyr yn y diwydiant. Mae gennym ni bortffolio cryf, ac rydyn ni hefyd yn ystyried heriau mawr eraill, yn enwedig effeithiau ffermio a diogelu bwyd ar yr amgylchedd. Bydd hyn yn golygu ehangu mewn ffordd strwythuredig a recriwtio’r gwyddonwyr gorau.”

Dywedodd Rhys Pearce-Palmer , Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd Prifysgol Caerdydd: “Pleser yw croesawu Feed, Food & Future i Medicentre Caerdydd er mwyn symud y gwaith hollbwysig ar ddatblygu atebion gwrthfeirol yn ei flaen. Bydd ein tîm yn helpu’r cwmni i gysylltu â chymuned y gwyddorau bywyd a gofal iechyd yma ym Medicentre Caerdydd ac ym mhob rhan o’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.