Ein hysgol yn rhagori yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr
18 Gorffennaf 2024
Mae'r Ysgol Mathemateg wedi cael canlyniadau rhagorol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) diweddaraf.
Gyda boddhad cyffredinol myfyrwyr yn codi i 83.5%, sy'n adlewyrchu cynnydd o tua 4%, rydyn ni’n parhau i ddangos ein hymrwymiad i gynnig profiad academaidd rhagorol.
Mae’r canlyniadau’n dangos gwelliannau sylweddol i foddhad myfyrwyr ar draws pob maes thematig yr arolwg:
- Yr addysgu ar fy nghwrs: Boddhad 86.4% (cynnydd o10.7%)
- Cyfleoedd Dysgu: Boddhad 80% (cynnydd o 6.6%)
- Asesu ac Adborth: Boddhad 73% (cynnydd o 3.6%)
- Cymorth Academaidd: Boddhad 90.1% (cynnydd o 9.7%)
- Trefnu a Rheoli: Boddhad 90.1% (cynnydd o 9.7%)
- Adnoddau Dysgu: Boddhad 87.4% (cynnydd o 6.7%)
- Llais y Myfyrwyr: Boddhad 73.9% (cynnydd o 11.5%)
Mae'r canlyniadau hyn yn amlygu ymdrechion ac ymroddiad ein cyfadran a'n staff i wella'r profiad addysgol i'n myfyrwyr. Cawson ni’r canlyniadau gorau ymhlith holl adrannau mathemateg Grŵp Russell mewn meysydd allweddol megis tegwch o ran marcio ac asesiadau, yn ogystal â’r gallu asesiadau i ganiatáu i fyfyrwyr ddangos eu dysgu yn effeithiol.
Roedd y maes a gafodd y cynnydd mwyaf yn ymwneud â llais y myfyrwyr. Gwnaethon ni ymdrechion sylweddol i wneud yn siŵr bod adborth ein myfyrwyr yn cael ei glywed ac rydyn ni’n parhau i gydweithio i wella eu profiad dysgu. Mae ein cyrsiau ymhlith y rhai sydd wedi’u trefnu orau yn y Grŵp Russell ac mae’r myfyrwyr yn gwerthfawrogi sut rydyn ni’n cyfathrebu â nhw.
Byddwn ni’n parhau i greu amgylchedd o ragoriaeth academaidd a chynnig yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i lwyddo. Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y cyflawniadau hyn a pharhau i gynnig profiad addysgol rhagorol i'n myfyrwyr.
Rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni a'r gefnogaeth sydd ar gael i'n myfyrwyr.