Yr Athro Anrhydeddus, Sabrina Cohen-Hatton yn cynghori'r Tywysog William ar ddigartrefedd
17 Gorffennaf 2024
Yn ddiweddar, mae Athro Anrhydeddus yr Ysgol Seicoleg a Chymrawd Prifysgol Caerdydd, Sabrina Cohen-Hatton, wedi cynghori Tywysog Cymru ar ddigartrefedd yn y DU.
Yn ystod ei chyfarfod â’r Tywysog yn Windsor, soniodd Sabrina am ei thaith o fod yn ddigartref i ddod yn un o'r swyddogion tân uchaf yn y DU. Gan iddi brofi profedigaeth a bywyd cartref cythryblus yn ystod ei harddegau, gwnaeth Sabrina ddarganfod ei hun yn y sefyllfa lle’r oedd hi’n cysgu ar strydoedd Casnewydd, cyn cychwyn ar ei gyrfa yn y gwasanaeth tân.
Aeth hi ymlaen i astudio PhD yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, a’i chwblhau yn 2013, ac mae hi bellach wedi dod yn Brif Swyddog Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex. Eleni, dyfarnwyd Medal Gwasanaeth Tân y Brenin i Sabrina.
Ers cyflawni ei PhD, mae Sabrina wedi gweithio'n agos gyda'r Ysgol Seicoleg ar amryw o brosiectau ymchwil, gan gynnwys mynd i wraidd y sgiliau sydd eu hangen i fod yn swyddog tân effeithiol. Ar y cyd â’r Athro Rob Honey, a chan weithio gyda Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, mae hi wedi astudio’r penderfyniadau y mae swyddogion tân yn eu gwneud ar eu pennau eu hunain, ac mewn grŵp mewn sefyllfaoedd brys. Mae’r ymchwil hon wedi cynnig safbwyntiau unigryw sydd wedi arwain at newidiadau mewn canllawiau cenedlaethol, polisïau, hyfforddiant a’r broses werthuso ar gyfer y gwasanaethau brys.
Rhagor o wybodaeth am ymchwil Dr Sabrina Cohen-Hatton a'r Athro Rob Honey.