The School of Music at Tafwyl
17 Gorffennaf 2024
Pob haf mae Menter Caerdydd yn trefnu Tafwyl - gwledd o gerddoriaeth Cymraeg o bob math, am ddim, yn ganol y ddinas! Bu
Jake Collins, un o fyfyrwyr presennol yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ar brif lwyfan yr Ŵyl, yn ogystal ag yn y Gwerinle gyda’r band Dadleoli.
Mae hefyd cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg - cymerodd Dr Joseph O’Connell ran ym Mhanel y Dysgwyr yn ystod y penwythnos. Hefyd fe gyflwynodd ymchwil Prosiect Pūtahitanga gyda Dr Elen Ifan o Ysgol y Gymraeg.
Dyma brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato, gyda chefnogaeth gan FOCUS Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori.
Roedd Lewys Siencyn (cyn fyfyriwr yr Ysgol Cerddoriaeth) hefyd yn rhan o’r digwyddiad, yn sôn am ei waith gyda Beacons Cymru a’i brofiad o weithio fel cerddor sy’n siarad Cymraeg.
Llongyfarchiadau mawr i dîm Tafwyl ar Ŵyl wych eto eleni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at blwyddyn nesaf yn barod!