“Dyma'r peth gorau imi ei wneud erioed” yn ôl un o fyfyrwyr y Llwybrau
17 Gorffennaf 2024
Mae myfyrwraig aeddfed yn dathlu'r wythnos hon ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Hanes.
Dechreuodd Sian Hart, sydd bellach yn 55 oed, ei gradd addysg uwch drwy ddewis un o raglenni 'Llwybrau at Radd' y Brifysgol yn 2017.
Diben y Llwybrau yw helpu oedolion i ddychwelyd i fyd addysg ac astudio tuag at radd, a bydd yr addysgu'n digwydd gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn lleoliad cyfeillgar a hamddenol.
Dyma a ddywedodd Sian: “Dechreuais i weithio yn 18 oed ond ro’n i bob amser wrth fy modd yn dysgu. Ro’n i’n arfer mynd i amryw o ddosbarthiadau nos dros gyfnod o ryw 20 mlynedd gan gynnwys astudio TGAU yn fyfyrwraig aeddfed. Ro’n i’n mwynhau hanes yn fawr, ac yn dilyn llwybr y Brifysgol at gwrs gradd yn ogystal ag anogaeth fy nhiwtor, Dr Paul Webster, roedd gen i’r hyder i wneud cais i'r brifysgol yn rhan-amser.”
Dilynodd SianLwybr Archwilio'r Gorffennol, sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys hanes (yr hen fyd a hanes canoloesol a modern), archaeoleg a chrefyddau'r byd. Fel arfer, mae'r llwybr yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau ac yn ogystal â chymhwyster, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cymorth o ran cyflwyno ceisiadau i wneud gradd a chyfweliadau.
Wrth siarad am ei gradd, dyma a ddywedodd Sian: “Mae fy safbwyntiau am y byd wedi newid, mae wedi agor fy llygaid i dirwedd wleidyddol ein gwlad, ac mae'r ymadrodd 'grym yw gwybodaeth' yn wir heb os nac oni bai, gan ei fod wedi rhoi cymaint mwy o hyder imi yn fy mywyd bob dydd.”
Dyma a ddywedodd Dr Paul Webster sy'n arwain Llwybr Archwilio'r Gorffennol ac yn ddarlithydd mewn hanes canoloesol yn y Brifysgol: “Peth gwych yw gweld angerdd Sian am hanes a'i hymroddiad i’w hastudiaethau yn talu ar ei ganfed wrth ennill gradd mewn Hanes. Mae Sian yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy'n dychwelyd i fyd astudio ac a hoffai ddilyn ôl ei thraed i gyflawni ei freuddwyd.”
Mae gan Brifysgol Caerdydd sawl llwybr i helpu pobl i astudio ar gyfer gradd israddedig, gan gynnwys hanes, Saesneg, y cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant, y gyfraith, ieithoedd modern, cerddoriaeth, ffarmacoleg feddygol a’r gwyddorau cymdeithasol. Mae rhagor o wybodaeth am raglen Llwybrau at Radd ar gael yma.
Cyngor Sian i unrhyw un sy'n ystyried Llwybr er mwyn dechrau gradd yw: “Byddwn i'n dweud hyn, os yw’n rhywbeth rydych chi erioed wedi bod eisiau ei wneud ac mae gennych chi’r penderfyniad i'w gyflawni, byddwn i’n eich annog i wneud cais. Dyma'r peth gorau imi ei wneud erioed.”