Prifysgol Caerdydd yn dathlu 50 mlynedd o ymchwil disgyrchiant
19 Gorffennaf 2024
Mae pum degawd o ymchwil disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei ddathlu gyda chynhadledd wyddonol wedi’i arwain gan wyddonwyr presennol a chyn-wyddonwyr y sefydliad.
Mae’r digwyddiad pen-blwydd hwn yn nodi 50 mlynedd ers i’r Athro Bernard Schutz sefydlu ymchwil ffiseg disgyrchiant yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd (sef hen enw’r brifysgol bryd hynny), yn ôl yn 1974.
Ac yntau’n cael ei adnabod bellach wrth yr enw Y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant (GEI), dyma un o’r grwpiau mwyaf o’i fath yn y byd, ac mae’n chwarae rhan allweddol yn y tîm rhyngwladol a wnaeth canfod y digwyddiad mwyaf pwerus a welwyd erioed yn y Bydysawd – sef dau dwll du biliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd yn gwrthdaro – a hynny yn 2015 gyda chanfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf.
Ers hynny, mae’r sefydliad wedi ehangu ei arbenigedd er mwyn cyfuno timau ymchwil damcaniaethol ac arbrofol fel ei gilydd, a ffocws hyn oll fydd canfod mwy fyth o donnau disgyrchol cosmig, a datblygu arsylliadau ar donnau disgyrchol ar ffurf offeryn seryddol.
I gychwyn y digwyddiad pen-blwydd, bydd gair o groeso gan yr Athro Mike Edmunds, sef Athro Emeritws Astroffiseg a chyn-lywydd y Gymdeithas Seryddol, wedi’i ddilyn gan gyfres o sesiynau llawn a’i nod fydd amlygu rhai o’r cyfnodau allweddol yn hanes yr ymchwil dros y pum degawd diwethaf.
Mae'r digwyddiad hwn hefyd yn nodi ymddeoliad yr Athro Bangalore Sathyaprakash ar ôl 28 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhwng 1996 a 2014, yr Athro Sathyaprakash (Sathya) a arweiniodd y grŵp, a dyma a ddywedodd: “Fyddwn i erioed yn fy myw wedi dychmygu y byddwn i’n dilyn gyrfa ag iddi gymaint o ddringo a disgyn, i gyd wedi’i seilio ar ddisgyrchiant. Mae Prifysgol Caerdydd a’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) wedi cymryd risgiau mawr ynom ni ac rwy mor falch bod hyn wedi talu ar ei ganfed, gan arwain at ddarganfyddiadau ymchwil arwyddocaol ym maes gwyddoniaeth a fydd yn atseinio am genedlaethau i ddod.”
Gwnaeth ymchwil y GEI osod y sylfeini ar gyfer canfod tonnau disgyrchiant, sef y crychdonnau hynny oddi mewn i ffabrig gofod ac amser, gan ddatblygu algorithmau a meddalwedd newydd sydd wedi dod yn offer chwilio safonol at ddibenion canfod yr arwyddion sy’n anodd eu canfod.
Ymhlith datblygiadau diweddaraf y GEI ym maes ffiseg tonnau disgyrchol arbrofol mae sefydlu’r Ymyriadureg Cwantwm at ddibenion ymchwil Gofod-Amser (QUEST).
Ac yntau wedi’i leoli yn y labordy pwrpasol newydd sbon gwerth £1 miliwn yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, bydd arbrawf unigryw QUEST yn treiddio’n ddwfn i natur gofod-amser a mater tywyll, ac yn ceisio canfod arwydd o dyllau duon cyntefig.
Dyma a ddywedodd Pennaeth y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant, yr Athro Stephen Fairhurst: “Mae’n anhygoel meddwl pa mor bell y mae ymchwil ym maes ffiseg a seryddiaeth tonnau disgyrchol wedi dod, hyd yn oed o fewn y degawd diwethaf. Dim ond llai na 10 mlynedd sydd wedi mynd heibio ers inni ganfod y tonnau disgyrchol cyntaf, a bellach, rydyn ni’n arsylwi ar sawl digwyddiad bob wythnos, ac yn dylunio synwyryddion newydd a fydd yn gallu canfod tonnau disgyrchiant o ymyl y bydysawd.
“Mae’r gynhadledd hon yn ffordd arbennig o ddathlu’r holl ffyrdd y mae aelodau presennol a chyn-aelodau Grŵp Disgyrchiant Caerdydd wedi cyfrannu at ffiseg a seryddiaeth tonnau disgyrchol dros yr 50 mlynedd diwethaf.”