Dŵr daear yn allweddol er mwyn diogelu ecosystemau byd-eang
22 Gorffennaf 2024
Mae map cyntaf o'i fath o ecosystemau sy'n dibynnu ar ddŵr daear wedi'i greu gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr.
O ffynhonnau anialwch, dolydd a nentydd mynyddoedd i wlypdiroedd a choedwigoedd arfordirol, mae'r adnodd rhyngweithiol yn mapio'r ecosystemau amrywiol hyn yn fyd-eang, gan gynnig gwybodaeth am i ba raddau y maent yn cael eu hamddiffyn a’u cysylltiad â chymunedau dynol.
Mae ymchwilwyr yn rhybuddio bod y mannau lle ceir amrywiaeth biolegol, y newid yn yr hinsawdd a defnydd pobl o ddŵr, yn disbyddu dŵr daear ledled y byd yn gyflym, gan roi ecosystemau o dan fygythiad cynyddol.
Mae eu hastudiaeth, a gyflwynwyd yn Nature, yn dangos bod dros hanner (53%) yr ecosystemau mewn ardaloedd lle gwyddwn fod dŵr daear yn disbyddu. Fodd bynnag, dim ond un o bob pump (21%) sydd ar diroedd gwarchodedig neu mewn rhanbarthau sydd â pholisïau ar waith i’w hamddiffyn.
Mae'r tîm, dan arweiniad The Nature Conservancy a'r Desert Research Institute (DRI) yn ogystal â chydweithwyr sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, yn dweud bod angen data gwell ar wyddonwyr a llunwyr polisïau am ble mae’r rhain yn bodoli er mwyn brwydro yn erbyn y disbyddiad hwn.
“Hyd yma, mae lleoliad yr ecosystemau sy'n dibynnu ar ddŵr daear wedi bod yn anhysbys i raddau helaeth. Mae hyn wedi ein rhwystro rhag olrhain effeithiau, sefydlu polisïau amddiffynnol, a rhoi prosiectau cadwraeth ar waith,” meddai’r ecohydrolegydd a’r ymgynghorydd amgylcheddol, Melissa Rohde, prif awdur yr astudiaeth.
Casglodd y tîm chwe blynedd o ddelweddau o loeren Landsat NASA, sy'n rhoi gwybodaeth hanfodol am ba mor wyrdd yw llystyfiant a thymheredd y tir, i lunio'r map.
Cyfunwyd hyn ag amcangyfrifon o ddata hinsawdd ar sut mae dŵr o wyneb y Ddaear yn cael ei drosglwyddo i'r atmosffer, gan roi dull anuniongyrchol o fesur llystyfiant sy'n dibynnu ar ddŵr daear.
Hefyd, defnyddiwyd dros 30,000 o bwyntiau data o leoliadau ecosystem a gadarnhawyd eu bod yn dibynnu ar ddŵr daear fel bod modd hyfforddi model cyfrifiadurol sut i'w hadnabod ar sail y data lloeren.
Mae'r dadansoddiad hwn yn manteisio ar y ffaith y gellir gweld ecosystem a ategir gan ddŵr daear mewn delweddau lloeren gan ei bod yn cadw’n wyrddach, oerach, a gwlypach na mannau eraill drwy gydol y tymor sych.
Dywedodd yr Athro Michael Singer, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o gyd-awduron y papur: “Mae ein dull yn newydd, gan ei fod yn ymgorffori gwybodaeth sydd ar gael yn fyd-eang yn anuniongyrchol sy'n cysylltu llystyfiant â dŵr daear i nodi’r ecosystemau critigol hyn sy'n rhoi lloches i lawer o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid.”
Bydd hyn yn arwain at greu map byd-eang o ble roedd ecosystemau sy'n ddibynnol ar ddŵr daear yn bodoli o 2015-2020.
“Bwriad ein map yw iddo gael ei ddefnyddio fel man cychwyn,” ychwanega Rohde a gwblhaodd yr ymchwil yn rhan o'i hastudiaeth ddoethurol yng Ngholeg Gwyddor Amgylcheddol a Choedwigaeth Prifysgol Talaith Efrog Newydd ac sy’n gweithio i The Nature Conservancy, o dan gyd-oruchwyliaeth yr Athro Singer.
Mae'r map yn dangos bod yr ecosystemau hyn yn fwy cyflawn a helaeth yng Nghanolbarth Asia, rhanbarth Sahel yn Affrica, a De America, lle mae cymunedau bugeiliol yn gyffredin.
Mae hyn yn cyferbynnu â sut maent yn disbyddu ac yn rhannu mewn rhannau o'r byd lle mae pwmpio dŵr daear a dyfrhau amaethyddol yn gyffredin iawn, fel Gogledd America ac Awstralia.
Yn y rhanbarthau hyn, mae llawer o'r ecosystemau hyn eisoes wedi'u colli, gan fod y lefelau trothwy islaw'r lefel y gall gwreiddiau neu ffrydiau planhigion eu cyrraedd.
Cyhoeddwyd y papur, ‘Groundwater-dependent ecosystem map exposes global dryland protection needs’, yn Nature.
Mae fersiwn ryngweithiol o'r map byd-eang eglur iawn a'r haen tebygolrwydd ar gael yma.