Ewch i’r prif gynnwys

Graddio 2024 – nodi cerrig milltir bythgofiadwy

16 Gorffennaf 2024

Mae graddio’n garreg filltir i fod yn falch ohoni, sy’n cael ei dathlu fel carfan o fyfyrwyr sy’n graddio.

Mae’r seremonïau’n cydnabod cyflawniadau unigol a chyfunol yng nghwmni cyd-raddedigion, gwesteion, aelodau o’r staff, cyn-fyfyrwyr a Chymrodyr er Anrhydedd.

Yn rhan o uchafbwynt cofiadwy, mae’r graddedigion yn dathlu ar y cyd â’r staff, eu gwesteion a’u hanwyliaid, gan yfed i’w cyflawniadau wrth fwynhau awyrgylch arbennig y digwyddiadau derbyn yn y Gerddi Graddio.

Yn rhan o’r 20+ o seremonïau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos raddio, bydd naw Cymrawd Anrhydeddus newydd yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i gymdeithas.

Ymhlith y cyn-fyfyrwyr a fydd yn dod yn Gymrodyr Anrhydeddus fydd llawfeddyg y fron ac enillydd The Great British Sewing Bee 2023 Asmaa Al-Allak (MBBCh 2000, LLM 2021), y darlledwr a’r newyddiadurwr arobryn Emma Barnett (PgDip 2007) a’r arbenigwr mewn iechyd menywod, y newyddiadurwr ymchwiliol a’r gwneuthurwr rhaglenni dogfen Kate Muir (PgDip 1986) sy’n enwog am ei gwaith arloesol ar y menopos gyda Davina McCall.

Bydd y seremonïau’n cael eu dangos yn fyw yn Undeb y Myfyrwyr. Byddan nhw hefyd yn cael eu darlledu’n fyw ar YouTube ac Weibo ar gyfer unrhyw ffrindiau ac aelodau o’r teulu sydd ddim yn gallu bod yn bresennol. Bydd seremonïau diweddar yn parhau i fod ar gael ar-lein.

Cafodd seremoni raddio 2024 yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ei chynnal ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf yn Arena Utilita yn rhan o’r wythnos raddio (15-19 Gorffennaf 2024).

Gwobrau Ysgol 2024

Mae gwobrau am berfformiad ar draws disgyblaethau’n cael eu rhoi bob blwyddyn.

Blwyddyn 1

Imogen Beaumont, Margaret Cravens, Molly Evans, Verity Robinson, Maja Kniola, Bowen Northrop, Susannah Jane Lowes

Blwyddyn 2

Cariad Jones, Megan Caldwell, Natalya Puchnarewicz, Emily Davies, Jules Hamilton, Evie Grace Loose

Blwyddyn 3

Rhiannon Tharia, Orla Bark, Jade Waters, Cerys Allen, Eyvind Hey, Dafydd Huw Griffiths

Gwobrau ysgol ychwanegol

Israddedig

Gwobr                                                         Derbynnydd

Alice Byron                                                 Harriet Brown

Oliver De Selincourt                                 Hannah Grigg

Gwobr Lyfr Catherine Roberts               Kaira Hinchliffe

Ôl-raddedig

Gwobr                                                         Derbynnydd

Gwobr Clifford Garwood                        Sakiko Ishihara

Gwobr Lyfr Coupland                              Victoria Kendrick-Doyle

Gwobr Victor Neo                                     Mollie Izzard Davey

Rhannu’r stori hon