Ewch i’r prif gynnwys

Mae hyrwyddwr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gobeithio cael “effaith fawr” ar ôl graddio

18 Gorffennaf 2024

Dyn ifanc yn cael tynnu ei lun yn un o gynau graddio Prifysgol Caerdydd.
Ar ôl mwynhau’r haf a gwneud rhywfaint o deithio, byddai Nils wrth ei fodd yn gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sefydliad addysgol neu wyddonol o bwys.

Mae un o’r eiriolwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), a fu’n hyrwyddo anabledd ym maes chwaraeon ac yn gweithio i ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm, yn graddio’r wythnos hon yn rhan o Raddedigion 2024.

Bydd Nils Rehm yn graddio o raglen Astroffiseg MPhys Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Yn athletwr brwd, mae gan Nils anabledd yn ei fraich uchaf sy'n cyfyngu ar symudedd ei freichiau gan achosi gwendid yn y cyhyrau a gwingiadau pan fydd y rhain yn cael eu gorweithio.

Ar ddechrau ei drydedd flwyddyn, dechreuodd weithio gydag Olivia Evans a Georgia Spry, ill dwy’n Is-lywyddion Chwaraeon a Llywyddion yr Undeb Athletau, i hyrwyddo’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon i bobl anabl ledled y Brifysgol.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Ro’n i bob amser yn rhan o’r Clwb Athletau yn llamwr ac yn sbrintiwr hir T47 ond do’n i ddim wedi sylweddoli mai fi oedd un o’r ychydig o fyfyrwyr anabl a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon hyd nes imi ddechrau gweithio gyda Liv a Georgia.

“Ceisiodd ein hymgyrch DisAbility Sports newid hyn drwy helpu i ddileu rhwystrau i fyfyrwyr ag anableddau ac annog clybiau chwaraeon i gymryd rhan.

“Yn rhan o’r ymgyrch cynhalion ni’r stondin chwaraeon anabledd gyntaf yn Ffair y Glas, gan drefnu a chynnal wythnos chwaraeon anabledd a chreu podlediad ar bwnc chwaraeon anabledd hefyd.”

Dim ond dechrau gwaith eirioli Nils oedd y profiad.

Yn ystod yr haf rhwng y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn bu’n gwneud interniaeth gyda Wendy Sadler, Uwch-ddarlithydd a sylfaenydd Science Made Simple.

Roedd Nils yn llysgennad anhygoel ar gyfer ein gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae wedi ein helpu i ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm a gwneud amgylchedd dysgu mwy cynhwysol i bob myfyriwr.

Wendy Sadler Lecturer, Schools' Liaison Officer

Nod y prosiect oedd gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth drwy chwilio am arferion gorau a'u hymgorffori yn rhan o weithrediadau'r Ysgol.

Yn rhan o’r interniaeth, aeth Nils i’r Cyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol a’r Gynhadledd Ryngwladol i Fenywod i ddysgu am grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, dad-drefedigaethu’r cwricwlwm ac addysgu cynhwysol.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Helpais i i gyfleu’r syniadau hyn yn yr Ysgol drwy greu posteri am fod yn ficroymosodol, gan roi cyflwyniadau ar wahaniaethu sefydliadol a bwydo i mewn i ddatblygiad cyfrif Instagram i gyrraedd myfyrwyr mewn ffordd fwy effeithiol.

Mae’r gwaith hwn yn bwysig gan ei fod yn caniatáu i fwy o bobl gymryd rhan a chyfrannu at wyddoniaeth. Gall cael gwared ar rwystrau ganiatáu amrywiaeth barn, a gall hyn arwain at ffyrdd gwell a thecach o wneud pethau.

Nils Rehm

Yn sgil eirioli Nils cafodd ei roi ar restr fer dwy Wobr Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr eleni – Gwobr y Llywydd a'r Hyrwyddwr dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

“Rwy’n falch imi gael fy enwebu ar gyfer dwy wobr ac mae’n braf gwybod fy mod i wedi effeithio ar y Brifysgol mewn ffordd amlwg a chadarnhaol,” meddai.

Gan edrych ymlaen at fywyd ar ôl graddio, mae Nils yn bwriadu mwynhau'r haf a gwneud rhywfaint o deithio cyn chwilio am swydd.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Mae fy mhrofiadau yma yng Nghaerdydd wedi bod o gymorth mawr. Gwnes i nifer o gysylltiadau da yn ystod fy interniaeth, gan ddatblygu sgiliau datrys problemau a fy sgiliau cyfathrebu yn arbennig, sy'n bwysig ar gyfer y math o yrfa rwy eisiau ei dilyn.

“Byddwn i wrth fy modd yn gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sefydliad addysgol neu wyddonol o bwys – rhywle y gallwn i gael effaith fawr drwy helpu i wneud y sefydliadau hyn yn fwy cyfartal.”

Rhannu’r stori hon

Cymerwch ran mewn chwaraeon elît a hamdden ochr yn ochr â’ch astudiaethau, gyda thros 60 o glybiau a phedair canolfan chwaraeon ymroddedig ar y campws.