“Gweld mathemateg yn arf bwerus” yn allweddol i lwyddiant myfyriwr PhD
19 Gorffennaf 2024
Mae myfyriwr PhD a oedd yn rhan o dîm buddugol Medal Griffiths am waith modelu mathemategol a gafodd ei gynnal yn ystod y pandemig yn un o Raddedigion 2024.
Bydd Joshua Moore yn derbyn ei PhD mewn Mathemateg ar ôl amddiffyn ei draethawd ymchwil ar ddefnyddio offer mathemategol ar gyfer dadansoddi a modelu dynameg cellog i ddeall cynnydd canser yn llwyddiannus.
Bellach yn Gydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Mathemategol ym Mhrifysgol Rhydychen, mae Joshua yn adeiladu ar y gwaith a ddechreuodd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio'n agos gyda chlinigwyr, arbrofwyr a damcaniaethwyr i sicrhau bod ei ymchwil yn helpu’r frwydr yn erbyn canser o’r cam canfod hyd at driniaeth.
Yn ôl Joshua, a astudiodd yn fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd, mae ei ddiddordebau ymchwil yn deillio yn ôl i fodiwl ail flwyddyn dan arweiniad ei oruchwyliwr PhD a'i fentor Dr Thomas Woolley.
Dywedodd, “Dechreuais fy BSc mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2016, heb wybod yn iawn beth roedd astudio mathemateg yn ei olygu, ond dros y flwyddyn gyntaf fe ddes i’n hoff iawn o bopeth yn ymwneud â’r maes.”
“Ar ôl fy ngradd BSc, fe wnes i barhau i astudio am PhD mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd gyda Thomas a Trevor Dale. Roedd yr hyfforddiant academaidd a phersonol a ges i dros y tair blynedd a hanner yn hollbwysig i’r rôl rwy’n ei chyflawni ar hyn o bryd, a'm dyheadau.
“Gwnaeth dysgu i feddwl, ysgrifennu a chyflwyno yn wyddonydd a mathemategydd ar yr un pryd wneud i mi werthfawrogi darlun ehangach fy ymchwil.”
Yn ystod ei astudiaethau doethurol, cafodd Joshua ei ddewis yn rownd derfynol Gwobr Lighthill-Thwaites y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau a'i wahodd i gyflwyno mewn cynhadledd genedlaethol o fewn naw mis cyntaf ei PhD.
Roedd ei astudiaethau hefyd yn cyd-fynd â'r pandemig. Er roedd hyn yn anodd, roedd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar fodelu COVID-19, gan ddarparu tystiolaeth a thrafod mathemateg gyda llunwyr polisi Cymru.
Yn sgîl y gwaith cafodd Joshua, ynghyd â Dr Thomas Woolley a'r Athro Paul Harper Fedal Griffiths, a gafodd ei chyflwyno gan y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.
Wrth edrych i'r dyfodol mae Joshua yn bwriadu datblygu ei yrfa ymhellach yn y byd academaidd ac mae ganddo uchelgais i ddechrau ei grŵp ymchwil ei hun ar fioleg ofodol ar gyfer ymchwil canser.
Dywedodd: “Hyd yn oed yn ystod fy nghyfnod byr yn y byd academaidd, rwyf wedi gweld bod gwyddoniaeth yn gweithio ar ei gorau mewn tîm brwdfrydig, amrywiol a chynhwysol, a dyna beth rwyf eisiau ei hyrwyddo yn fy ngrŵp.
“Mae ffordd hir o'n blaenau o hyd, ond mae gen i fentoriaid gwych yn f’arwain ac rwy'n mwynhau pob cam.”