“Does dim rhaid ichi ddilyn y llwybr syth i lwyddo mewn bywyd”
15 Gorffennaf 2024
Mae Sidsel Koop, myfyrwraig aeddfed o Ddenmarc, yn graddio â gradd dosbarth cyntaf mewn Seicoleg, a’i gobaith yw ysbrydoli myfyrwyr eraill i geisio cyflawni eu dyheadau.
A hithau’n 32 oed o Århus yn Nenmarc, tyfodd Sidsel i fyny mewn cartref ansefydlog, a bu’n byw gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) heb driniaeth tan iddi fod yn 24 oed. O ganlyniad, roedd yn dioddef o iechyd meddwl gwael, gorbryder difrifol ac iselder, ac nid oedd lleoliadau addysg traddodiadol yn addas iddi.
“Mae llwybrau addysgol nodweddiadol yn aml yn darparu ar gyfer dulliau dysgu unigolion niwronodweddiadol. Dydyn nhw ddim o reidrwydd yn diwallu anghenion unigolion niwrowahanol neu unigolion â phroblemau iechyd eraill – er gwaethaf bwriadau da, weithiau,” meddai Sidsel.
Dechreuodd Sidsel addysg bellach yn ddiweddarach mewn bywyd, gan ymrestru yn y coleg yn 25 oed i gael y cymwysterau i allu mynd i’r brifysgol. Tyfodd hyder Sidsel pan welodd ei bod yn mwynhau dysgu ac yn gallu dysgu er gwaethaf ei hanabledd.
“Fe wnaeth fy mhlentyndod anodd a’r dechreuad cythryblus i fy mywyd yn oedolyn fy ysbrydoli i astudio seicoleg. Roeddwn i’n credu y byddai fy mhrofiadau, wedi’u cyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol, yn fy ngwneud yn unigolyn â phersbectif a sgiliau unigryw i helpu pobl eraill,” meddai Sidsel.
Daeth Sidsel o hyd i gymorth drwy wasanaethau anabledd y Brifysgol, ei ffrindiau a’r grŵp ‘Meddwl yn Wahanol’ ar gyfer unrhyw un niwrowahanol neu unrhyw un sy’n teimlo y gallai fod ychydig yn wahanol i bobl eraill.
Cafodd y modiwl blwyddyn olaf ‘Modelu Creadigrwydd a Chwilfrydedd yn yr Ymennydd’ effaith arbennig arni, oherwydd ei fod yn cael ei addysgu mewn ffordd ryngweithiol a chynhwysol.
Ar ôl graddio, mae Sidsel am ddilyn gyrfa ym maes dylunio ac ymchwilio i brofiad y defnyddiwr, lle mae theori seicolegol yn cael ei defnyddio i ddylunio technoleg gan gadw’r defnyddiwr mewn cof. Mae Sidsel yn ymroddedig i gynwysoldeb, ac mae eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau grwpiau lleiafrifol a lleisiau unigolion anabl, niwrowahanol ac agored i niwed yn cael eu clywed pan fydd cynhyrchion newydd yn cael eu dylunio.
Dywedodd Sidsel: “I mi, dydy bywyd ddim wedi dilyn y llwybr arferol, a dw i wedi dal fy hun yn gofyn weithiau a ydw i’n ‘gwneud bywyd yn anghywir’. Profiad unig iawn yw gwneud pethau mewn trefn wahanol i bawb arall.”