“Rydw i eisiau cael effaith mewn cymunedau ble bynnag ydw i”
15 Gorffennaf 2024
Mae myfyriwr y gyfraith wedi helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a’i nod yw parhau i gael effaith ar gymunedau lleol drwy gydol ei yrfa.
Daeth Arthur Ddamulira, o Kampala yn Uganda, i Gaerdydd yn 2020 i astudio yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac mae’n graddio’r wythnos hon. Ers dod i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae wedi cymryd rhan mewn nifer o gynlluniau a rhaglenni i annog myfyrwyr i astudio'r gyfraith a mynd i’r brifysgol, yn ogystal ag ennill dyfarniad Cynllun Ysgoloriaeth Stephen Lawrence.
Ychydig wythnosau ar ôl cyrraedd y DU, ymunodd Arthur â rhaglen Llwybrau at y Gyfraith, cynllun gwirfoddol sy'n ceisio annog pob myfyriwr waeth beth fo'u cefndir i astudio'r gyfraith. Parhaodd i gymryd rhan yn y rhaglen trwy gydol ei astudiaethau.
“Yn y rhaglen Llwybrau at y Gyfraith, aethon ni ati i weithio gyda myfyrwyr chweched dosbarth yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr sydd ddim efallai’n gweld eu hunain yn rhai sydd â mynediad at yrfa yn y gyfraith - megis ffoaduriaid, y rhai o gefndiroedd incwm isel a phlant o deuluoedd ag un rhiant.
“Roedd cymryd rhan yn y rhaglen Llwybrau at y Gyfraith yn rhoi boddhad mawr i mi, oherwydd roedd yn werth chweil helpu addysgu myfyrwyr a’u cyffroi am y posibilrwydd o fynd i'r brifysgol ac astudio'r gyfraith,” meddai Arthur.
Arweiniodd angerdd Arthur dros wella profiad myfyrwyr a darparu amgylchedd dysgu croesawgar iddo gymryd rhan mewn cymdeithasau myfyrwyr, yn ogystal â helpu myfyrwyr i setlo i astudio yng Nghaerdydd yn rhan o’r tîm Bywyd Preswyl.
“Roeddwn i wir eisiau rhoi yn ôl a helpu myfyrwyr newydd i deimlo bod croeso iddyn nhw wrth gyrraedd Caerdydd. Felly dechreuais i fy nghymdeithas fy hun, y Gymdeithas Ymwybyddiaeth Fasnachol, a oedd â’r nod o helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr y gyfraith yn y flwyddyn gyntaf, yr ail a’r drydedd flwyddyn. Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o’r tîm Bywyd Preswyl, i helpu myfyrwyr pan maen nhw’n ymgartrefu mewn neuaddau preswyl, a’u helpu i deimlo’n gartrefol pan fyddan nhw’n dechrau yn y brifysgol,” ychwanegodd Arthur.
Roedd Arthur yn aelod gweithgar o’r panel staff a myfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan chwarae rhan bwysig wrth helpu’r ysgol i ddod o hyd i’r atebion i’r heriau roedd staff a myfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod y pandemig.
Yn 2021, roedd yn un o 13 o fyfyrwyr a ddewiswyd ar gyfer Cynllun Ysgoloriaeth Freshfields Stephen Lawrence, sydd â’r nod o fynd i'r afael â thangynrychiolaeth anghymesur yn nifer y dynion Du o gefndiroedd llai symudol yn gymdeithasol mewn cwmnïau cyfraith fasnachol mawr a gyrfaoedd eraill yn Ninas Llundain.
Dywedodd Arthur: “A dweud y gwir, roeddwn i’n eithaf emosiynol pan glywais i fy mod i wedi sicrhau ysgoloriaeth. Mae’n fraint o’r mwyaf, ac rwyf mor ddiolchgar.
“Fyddai dim ohono wedi bod yn bosibl heb Brifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Fe wnaeth Dr Fred Cram a Dr Rachel Cahil O'Callaghan, ymhlith llawer o rai eraill, fy helpu y tu hwnt i fy astudiaethau a thu hwnt i'r ysgoloriaeth. Roedden nhw’n gefnogaeth enfawr i mi yn ystod fy amser yng Nghaerdydd.
“Ers gorffen fy ngradd, rwyf wedi bod yn parhau â’m gwaith gyda Freshfields yn eu swyddfeydd yn Dubai, gan weithio yn eu practis anghydfodau. Fy nod yw parhau fy ngyrfa yn ymarfer y gyfraith, a hefyd gael effaith ar gymunedau lle bynnag yr wyf. Rwy’n gobeithio parhau i gyfrannu at y rhaglen Llwybrau at y Gyfraith pan fydda i’n dechrau gweithio yn Llundain, yn ogystal â dod o hyd i achosion y galla i helpu gyda nhw ble bynnag mae fy ngyrfa yn mynd â mi.