"Do’n i ddim yn meddwl bod gyrfa yn y celfyddydau yn bosibl i rywun fel fi - ond dwi bellach yn dilyn fy mreuddwyd"
19 Gorffennaf 2024
Ar ôl y tarfu oherwydd y pandemig, penderfynodd Keshlan Padayachee mai bellach neu byth oedd hi – a gadawodd ei yrfa mewn peirianneg i ddilyn gradd archaeoleg.
“Ro’n i'n meddwl y gallai dilyn y llwybr hwn ddod â hapusrwydd imi. A’r gwir amdani yw fy mod i'n dda iawn yn y maes yma, sy'n syndod gwych,” meddai.
Mewn gwirionedd, cystal yw campau Keshlan ei fod wedi cael cynnig un o Ysgoloriaethau Clarendon yng Ngholeg Wolfson Rhydychen wedi iddo gael anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae bellach gam yn nes at ei freuddwyd o fod yn academydd ym maes archaeoleg.
Ganwyd y myfyriwr 33 oed yn Ne Affrica, ac ef oedd yr aelod cyntaf o'i deulu i fynd i ysgol nad oedd wedi'i gwahanu'n hiliol yn Ne Affrica.
“Drwy gydol fy mlynyddoedd ffurfiannol, bu’n rhaid imi wynebu nifer o heriau oherwydd lliw fy nghroen,” esboniodd. “Rwy bob amser wedi ymddiddori yn fawr iawn mewn hanes ac archaeoleg. Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod absenoldeb amlwg o safbwynt cynrychiolaeth a chyfleoedd i bobl sy’n edrych fel fi i ddilyn gyrfaoedd yn y meysydd hyn. Alla i ddim pwysleisio arwyddocâd cynrychiolaeth yn ddigon cryf. O ganlyniad, bues i’n canolbwyntio ar y gwyddorau a dilyn gyrfa peiriannydd diwydiannol gan ei fod yn ymddangos yn llwybr â mwy o bosibiliadau.”
“Treuliais i amser yn gweithio ym Mhortiwgal a Ffrainc cyn symud i'r DU. Ar ôl y cyfnod clo, dechreuais i werthfawrogi arwyddocâd dilyn eich angerdd. Dyna naid fawr i mi, gan fy mod i ond wedi gweithio yn y gwyddorau yn y gorffennol. Cyn mynd i Brifysgol Caerdydd, do’n i erioed wedi ysgrifennu traethawd hyd yn oed!”
Mae eisoes wedi cymryd rhan mewn cloddio archeolegol a lleoliadau yn Wiltshire a Denmarc. Cyflwynwyd ei ddarganfyddiadau yn dilyn y cloddio yn Wiltshire mewn arddangosfa yn Amgueddfa Salisbury ar y cyd â darganfyddiadau arwyddocaol eraill. Rhannodd ei angerdd a'i brofiad â'r cyhoedd, gan dynnu sylw at hanes cyfoethog yr ardal ac arwyddocâd y darganfyddiadau.
Y llynedd, bu’n turio yn Pompeii ac yn Rhufain ar ôl derbyn cyllid gan Gymdeithas Dilettanti a oedd wedi cefnogi ei ymchwil. Yr haf hwn, bydd yn cymryd rhan mewn cyfleoedd newydd i ddatblygu ei waith archaeolegol.
Ychwanegodd Keshlan, sy'n dechrau MSt mewn Archaeoleg Glasurol ym Mhrifysgol Rhydychen yn yr hydref: “Ro’n i'n beiriannydd am ran o fy mywyd yn oedolyn. Fodd bynnag, rwy bellach yn sylweddoli nad yw llwybr rhywun yn eich rhwymo iddo am byth. Mae newidiadau’n rhan gyfannol o fywyd, a chawn y rhyddid i esblygu ar yr un pryd. Mae sawl cam yn perthyn iddo, a chewch fynd i unrhyw gyfeiriad rydych chi'n ei ddymuno.”
He has already carried out archaeological digs and placements in Wiltshire and Denmark. His discoveries from the digs in Wiltshire were showcased in an exhibition at the Salisbury Museum alongside other significant finds. He shared his passion and insights with the public, highlighting the rich history of the area and the significance of the finds.
Last year, he explored Pompeii and Rome after receiving an award from the Society of Dilettanti, which supported his research. This summer, he will be involved in new opportunities to further advance his archaeological work.
Keshlan, who starts an MSt in Classical Archaeology at Oxford University in the autumn, added: “I was an engineer for a portion of my adult life. However, I've come to realise that one’s path isn't bound to a single role indefinitely. Life is a continuous journey of change, offering the freedom to evolve alongside it. It unfolds through many stages, and can be shaped into anything you dream it to be.”