“Roedd cael diddordeb personol yn fy ymchwil wedi gwneud i mi eisiau llwyddo mwy fyth”
16 Gorffennaf 2024
Mae Felix Shi yn gobeithio y bydd ei waith i ddeall profiadau pobl anabl yn rhoi llais i'r rhai sydd â llai o gynrychiolaeth yn y byd academaidd.
Mae’r gŵr 30 oed, sydd â nam ar y golwg, yn graddio â PhD o Ysgol Busnes Caerdydd ac eisoes wedi dechrau swydd academaidd ym Mhrifysgol Bangor, yn ddarlithydd mewn rheolaeth.
Cynhaliodd Felix, sy’n hanu o Tsieina, waith maes yn ei famwlad ar gyfer ei draethawd ymchwil, The Transition to a State Led Market Economy in China: the Impact of Social Change and the Commodification on Disabled People.
“Mae marchnad lafur Tsieina wedi cael ei drawsnewid mewn ffordd enfawr,” meddai. “Ond doedd hi ddim yn glir sut roedd y newidiadau hynny wedi effeithio ar weithwyr anabl. Es i ati i gyfweld â 48 o bobl yn rhan o fy ngwaith, gan siarad â phobl ag ystod amrywiol o namau.
“Roedd llawer o’r bobl y siaradais i â nhw yn byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell iawn. Roedd yn werth chweil clywed eu straeon. Cyn gwneud yr ymchwil hwn doeddwn i ddim wedi sylweddoli effaith cefndir economaidd-gymdeithasol person ar eu profiad bywyd yn berson anabl.
“Wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n byw mewn dinas gymharol gyfoethog ar Arfordir Dwyrain Tsieina. Roedd llawer o seilwaith yno i'm cefnogi ac roedd gen i hawl i grantiau i'm helpu gyda fy astudiaethau. Doedd llawer o'r bobl roeddwn i wedi cyfweld â nhw ddim yn ymwybodol o'r cymorth hwn na sut i fanteisio arno.
“Ar y cyfan, roedd yn brofiad gwerth chweil dros ben. Rwyf wedi dysgu ohono, ond rwy hefyd wedi cael y cyfle i gyfrannu fy nealltwriaeth ddamcaniaethol at lenyddiaeth academaidd.”
Mae Felix yn cynnal ymchwil pellach ym maes anabledd a chyflogaeth. Mae wedi bod yn weithgar iawn yn ymgyrchu dros faterion anabledd yng Nghymru ac mae'n aelod o fwrdd Anabledd Cymru.