Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cipio’r brif wobr

11 Gorffennaf 2024

Student Sophie Page with her regional Women in Property student award

Llongyfarchiadau i Sophie Page, un o'n myfyrwyr BSc, am ei llwyddiant diweddar yng Ngwobrau Myfyrwyr Women in Property De Cymru.

Cafodd Sophie ei chyhoeddi fel enillydd rhanbarthol y digwyddiad, a gafodd ei gynnal yn Y Dosbarth yng Nghaerdydd. Yn ôl beirniaid y wobr, roedd Sophie yn "ymgeisydd rhagorol, hyderus gyda nodau clir iawn ac agwedd wych tuag at ei gwaith, ac yn fyfyriwr ymroddedig sydd ag angerdd am yr hyn y mae'n ei wneud."

Sefydliad aelodaeth cenedlaethol ar gyfer menywod sy'n gweithio yn y diwydiant eiddo ac adeiladu yw Women in Property. Mae rhaglen Gwobrau Myfyrwyr Women in Property De Cymru yn rhoi sylw i fyfyrwyr rhagorol ym maes yr amgylchedd adeiledig. Mae'r digwyddiad blynyddol yn rhoi llwyfan i gyflogwyr yn y sector eiddo ac adeiladu ymgysylltu â rhai o'r israddedigion mwyaf addawol yn y sector amgylchedd adeiledig.

Dywedodd Sophie am ei gwobr: "Mae'n anrhydedd derbyn y wobr fawreddog hon a sefyll ochr yn ochr â grŵp o fenywod sy’n fy ysbrydoli yn y seremoni eleni. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a'r gefnogaeth gyson y mae'r sefydliad hwn wedi'u rhoi i mi a chymaint o fenywod ifanc eraill. Rwy'n falch o fod yn rhan o gymuned sy’n ein dyrchafu ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae rhan barhaus yn eu hymdrechion i roi’r grym yn nwylo menywod wrth iddyn geisio gyrfaoedd cyffrous a gwerth chweil yn y sector hanfodol hwn yn ein heconomi genedlaethol."

Yn y Rownd Derfynol Genedlaethol, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Iau 19 Medi yn Llundain, bydd Sophie yn cystadlu yn erbyn 13 o fyfyrwyr eraill o bob rhan o'r DU am y wobr genedlaethol fawreddog.  Bydd yr enillydd yn cael ei chyhoeddi yng nghinio ‘Best of the Best’ yn Claridge’s yn ddiweddarach y noson honno.

Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiant Sophie, a’r ffaith bod ei gwaith caled a'i hymrwymiad i ragoriaeth yn ei maes wedi cael ei gydnabod. Llongyfarchiadau!

Rhannu’r stori hon