Mae Athro o Brifysgol Caerdydd yn cyfrannu at ddatblygiad Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru
11 Gorffennaf 2024
Penodwyd athro o Brifysgol Caerdydd i lunio adolygiad arbenigol o fframwaith monitro Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru.
Bydd yr Athro Rod Hick, arbenigwr polisi cymdeithasol, yn cynghori swyddogion y llywodraeth ar ddatblygu fframwaith monitro’r Strategaeth Tlodi Plant, sy’n ceisio mesur perfformiad yn unol â’r Strategaeth, er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae bywydau plant yn gwella ac i adnabod y meysydd lle mae angen rhagor o bolisïau ar eu cyfer.
Nod y Strategaeth yw rhoi cydlyniad i gynlluniau sy’n mynd i'r afael â thlodi ymhlith plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd yr Athro Hick, “Rwy’n falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru yn y dasg bwysig o lunio fframwaith monitro i astudio’r cynnydd yn unol â’r Strategaeth Tlodi Plant.
Mae'r Athro Hick wedi gweithio ar fesur a monitro tlodi ers pymtheg mlynedd. Bydd fframwaith monitro'r Strategaeth Tlodi Plant, ac adolygiad arbenigol yr Athro Hick ohoni, yn cael ei gwblhau yr haf hwn.