Ewch i’r prif gynnwys

Roedd astudio semester dramor, cymryd rhan yn EXPO Dubai a mynd i Worthy Farm yn “brofiad arbennig a gwerth chweil”

17 Gorffennaf 2024

Dyn yn gwisgo gynau graddio Prifysgol Caerdydd
Mae Dominic Dattero-Snell, sy’n rhan o Raddedigion Prifysgol Caerdydd 2024, wedi graddio gyda PhD mewn Peirianneg

Mae’r myfyriwr PhD, yr oedd ei astudiaethau yn golygu teithio i Singapôr, Dubai a hyd yn oed Gŵyl Glastonbury, yn graddio'r wythnos hon fel rhan o Raddedigion 2024.

Bydd Dominic Dattero-Snell yn graddio gyda PhD mewn Peirianneg ar ôl amddiffyn ei draethawd ymchwil yn llwyddiannus ar ôl-osod cerbydau trydan at ddibenion datgarboneiddio trafnidiaeth mewn lleoliadau amaethyddol.

Yn ystod ei ddoethuriaeth, roedd Dominic yn rhan o dîm a ddatblygodd becyn offer 'galw heibio’ sy'n troi hen Land Rover Defenders yn gerbydau cwbl drydanol.

Roedd y cynnyrch, a ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Glastonbury yn 2022, wedi deillio o brosiect unigryw ar y cyd rhwng Electrogenic, Worthy Farm a gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Tynnu llun o Land Rover Defender ar safle Llwyfan Pyramid Gŵyl Glastonbury.
Dominic yn gyrru un o’r Land Rover Defenders ar y safle yn Worthy Farm yn Glastonbury.

Mae’r offer, sydd wedi bod ar waith yn yr ŵyl byth oddi ar hynny, yn pweru fflyd o Defenders i helpu i wasanaethu mwy na’r 200,000 o bobl sy'n cyrraedd safle’r ŵyl bob blwyddyn.

Eleni, defnyddiwyd y cerbydau ym Maes Greenpeace a chan griw Croissant Neuf.

I Dominic, moment fythgofiadwy yn ei PhD oedd y prosiect ac un y mae'n meddwl amdano heddiw o hyd.

Roedd gyrru o amgylch safle'r ŵyl yn un o'r Defenders i gasglu data yn brofiad cofiadwy iawn. Peth gwirioneddol ddiddorol oedd deall sut mae rôl pob cerbyd yn newid yn ystod yr ŵyl o’i gymharu â phan fydd y safle'n fferm fasnachol.

Dominic Dattero-Snell

Un arall o uchafbwyntiau PhD Dominic oedd cyflwyno ei ymchwil ar lwyfan y byd yn EXPO 2020 yn Dubai.

Trefnodd Dominic raglen o weithdai gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar ddyfodol teithio, gan wahodd cynulleidfaoedd i ddysgu, trafod a chyflwyno eu syniadau a'u safbwyntiau ar sut y gallai trydaneiddio teithiau effeithio arnyn nhw yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Mae chwech o bobl yn sefyll o flaen Pafiliwn y DU yn EXPO Dubai 2020
Roedd Dominic (yn y canol ar y chwith) yn rhan o bwyllgor trefnu cyflwyniad ymchwil Prifysgol Caerdydd yn EXPO Dubai 2020

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Roedd helpu i drefnu a sicrhau cyllid ar gyfer gweithdy a chyflwyniadau ein grŵp ymchwil yn EXPO Dubai yn brofiad arbennig a gwerth chweil arall.

“Ro’n i’n gorfod mentro cryn dipyn i dir anghyfarwydd. Roedd gofyn inni weithio'n agos gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol i greu'r digwyddiad ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd.

“Ar y cyfan, roedd yr ymateb i'r gweithdai yn hynod gadarnhaol ac ro’n i'n gwerthfawrogi'n arbennig y nifer fawr o ysgolion lleol a gymerodd ran. Buddiol hefyd oedd cael rhwydweithio'n rhyngwladol gydag endidau sy'n gweithio ar ddatgarboneiddio trafnidiaeth.”

Mae Dominic, sydd bellach yn ymgynghorydd yn Arup, yn parhau i ganolbwyntio ar brosiectau sy'n ymwneud â datgarboneiddio trafnidiaeth.

“Ar hyn o bryd rwy'n ymwneud â nifer o brosiectau datgarboneiddio bysiau sydd wedi gallu harneisio’r wybodaeth am ôl-osod cerbydau trydan yn fy noethuriaeth,” meddai.

“Mae bysiau dim allyriadau yn bwnc llosg ar hyn o bryd gyda nifer o awdurdodau sy’n ystyried masnachfreinio yn fodel gweithredu, gan gynnwys yma yng Nghymru.

“Mae fy ngwaith yn Arup yn eithaf amrywiol, yn amlddisgyblaethol, ac yn aml bydd yn golygu ymchwil annibynnol. Felly, mae fy PhD wedi rhoi imi set o sgiliau i fod yn gyfforddus yn y math hwn o gyd-destun - yn enwedig gan fod fy ymchwil yn amlddisgyblaethol hefyd.”

Cwblhaodd Dominic ei astudiaethau israddedig ym maes peirianneg drydanol ac electronig ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd, gan dreulio semester dramor yn Singapôr yn astudio ym Mhrifysgol Dechnolegol Nanyang, sef rhywbeth y byddai'n ei argymell i bobl eraill sy'n meddwl am fynd i'r brifysgol.

Mae tri dyn ifanc yn sefyll o flaen Gwesty'r Marina Bay Sands yn Singapôr
Mae Dominic (ar y chwith) yn sefyll gyda ffrindiau o flaen Gwesty'r Marina Bay Sands yn Singapôr. Yn ei farn ef, mae’r lle wedi llywio ei agwedd ar fywyd ers mynd yno yn ystod ei semester dramor yno.

Mae fy amser yn Singapôr yn un o’r profiadau rwy’n eu trysori fwyaf ac mae wedi llywio fy agwedd ar fywyd byth oddi ar hynny. Wrth ddewis cwrs, byddwn i’n annog myfyrwyr i chwilio am gyfleoedd rhyngwladol neu ddiwydiannol i wneud eu lleoliad. Cafodd y ddwy elfen hyn yn fy nghwrs effaith ddwysach ar fy mywyd na fy astudiaethau ffurfiol. Roeddwn nhw wedi fy helpu go iawn i benderfynu beth ro’n i eisiau ei wneud yn y dyfodol ar ôl graddio.

Dominic Dattero-Snell

“Pe bai'r cyfle yn codi i weithio yn Singapôr unwaith eto, byddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle. Mae fy ngwybodaeth am y sector trafnidiaeth a'r broses ddatgarboneiddio ynghlwm wrtho’n drosglwyddadwy iawn i ranbarthau eraill. Mae gan Arup swyddfa yno hefyd ac mae'n cynnig aseiniadau tramor yn rheolaidd, felly pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.