Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Cymrodyr Er Anrhydedd cyn yr wythnos graddio

15 Gorffennaf 2024

Ymhlith y rhai a fydd yn cael eu gwneud yn Gymrodyr er Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd, a gynhelir yr wythnos hon, mae pobl ragorol sy'n astudio newyddiaduraeth, meddygaeth a'r byd academaidd. (Gorffennaf 15-19)

Mae llawer o'r rhai sy'n casglu'r gwobrau, a roddir i bobl sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd dewisol, yn gyn-fyfyrwyr.

Llongyfarchiadau mawr i’n Cymrodyr Er Anrhydedd yn 2024. Rhoddir y gwobrau hyn i unigolion y mae eu gwaith mewn ystod eang o ddisgyblaethau yn gwneud cymdeithas yn well i bob un ohonon ni.
Yr Athro Wendy Larner Dywedodd Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner: “Cychwynnodd llawer o’n cymrodyr ar eu teithiau trwy ddod i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n siŵr y bydd yn hynod ysbrydoledig i’r garfan o raddedigion eleni ddathlu ochr yn ochr â nhw. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn bresennol yn seremonïau’r wythnos, yr uchafbwynt i unrhyw fyfyriwr ar ôl cymaint o flynyddoedd o waith caled.”

Y Cymrodyr er Anrhydedd eleni yw:

Asmaa Al-Allak (MBBCh 2000, LLM 2021)

Asmaa Al-Allak

Llawfeddyg ymgynghorol y fron yw Asmaa Al-Allak yng Nghanolfan Fron Snowdrop ym Mhont-y-clun, sef uned bwrpasol gofal a chymorth canser y fron yng nghymoedd y De. Hi hefyd yw enillydd cystadleuaeth wnïo amatur y BBC, y Great British Sewing Bee 2023. Ganwyd Asmaa yn Irac a’i magu yn ystod cyfnod o ryfel. Yn sgîl y caledi hwnnw tyfodd y penderfyniad i fod yn feddyg a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yno hefyd y darganfuodd ei chariad at wnio, gan ddysgu gan ei nain.

Emma Barnett (PgDip 2007)

Emma Barnett

Yn ddiweddar, fe ymunodd y darlledwr a'r newyddiadurwr arobryn â'r tîm cyflwyno ar raglen Today ar Radio 4, y rhaglen newyddion radio brecwast y gwrandewir arni fwyaf yn y DU. A hithau’n gyn-gyflwynydd BBC Woman's Hour, BBC Newsnight a BBC Radio 5 Live, mae ei chyfweliadau goblygiadol iawn wedi bod gyda phrif weinidogion, sêr pop a charcharorion gwleidyddol. Ar ben hynny, mae’n cyflwyno cyfres deledu i Bloomberg, yn ysgrifennu cylchlythyr o'r enw Trying yn ogystal â cholofn i bapur newydd ‘i’. Mae Emma yn un o noddwyr Smartworks, yr elusen sy'n helpu menywod dan anfantais economaidd i ddychwelyd i'r gweithle.

Leo Cheng (LLM 2006)

Leo Cheng

Mae Leo Cheng wedi’i gymhwyso mewn deintyddiaeth, meddygaeth, llawfeddygaeth a'r gyfraith. Mae wedi bod yn ymgynghorydd Llawfeddygaeth y geg, y genau a’r wyneb, yn ogystal a’r pen a’r gwddf yn Llundain ers 24 mlynedd, lle mae hefyd yn cyflwyno rhaglen flynyddol o sgiliau llawfeddygol a chyrsiau meinwe meddal yr wyneb i 90 o hyfforddeion. Mae hefyd yn gwasanaethu’n llawfeddyg y genau a'r wyneb, y thyroid ac adluniol yng Ngorllewin Affrica. Am fwy nag 20 mlynedd, mae wedi darparu llawdriniaeth sydd wedi achub a thrawsnewid bywydau ar fwrdd Mercy Ships - sefydliad datblygu rhyngwladol sy'n seiliedig ar ffydd sy'n anfon llongau ysbyty i rai o wledydd tlotaf y byd.

Professor Timothy L. Killeen

Professor Timothy L. Killeen

Ac yntau’n Gymro, Timothy L. Killeen yw 20fed llywydd System Prifysgol Illinois. Ers cychwyn ei swydd yn 2015, mae Timothy wedi hyrwyddo’r ymdrechion i ehangu darganfyddiadau ymchwil er mwyn ysgogi cynnydd a chreu swyddi. Mae wedi cefnogi creu’r Discovery Partners Institute, sef canolfan ymchwil o safon fyd-eang yn Chicago sy’n datblygu talent technoleg ac yn meithrin busnesau, yn ogystal â’r Illinois Innovation Network, sef system o ganolfannau lloeren sy’n cyfuno ymchwil, partneriaethau cyhoeddus-preifat, entrepreneuriaeth a hyfforddi’r gweithlu.

Kate Muir (PgDip 1986)

Kate Muir

Mae Kate Muir yn arbenigwraig ar iechyd menywod, yn newyddiadurwraig ymchwiliol ac yn wneuthurwr rhaglenni dogfen. Bu’n gyfrifol am greu a chynhyrchu dwy raglen ddogfen arloesol i Channel 4 ar y menopos a gafodd eu cyflwyno gan Davina McCall. Mae hi wedi ysgrifennu tair nofel a phedwar llyfr ffeithiol. Yn ei llyfr diweddaraf, sef Everything you need to know about the pill (but were too afraid to ask), gwneir ymchwiliad i atal cenhedlu a dilynir ei rhaglen ddogfen Pill Revolution. Mae hi'n un o sylfaenwyr The Menopause Charity ac yn gyn-ohebydd tramor i The Times yn Efrog Newydd a Washington.

Jayne Sadgrove (BA 1978, MA 1980)

Jayne Sadgrove

Daw Jayne Sadgrove o Gastell Nedd. Yn ystod ei gyrfa o fod yn aelod gweithredol o fyrddau, mae wedi gweithio ym maes adfywio diwydiannol, materion y defnyddwyr, y gyfraith, cyfiawnder troseddol ac addysg uwch. Roedd ganddi hi gyfrifoldebau anweithredol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r GIG. Mae’n Aelod Annibynnol o Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac yn ymddiriedolwraig ac yn Is-Gadeirydd Bwrdd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae hi wedi ymgyrchu dros y Cyflog Byw Go Iawn ac wedi arwain y broses o achredu dau sefydliad mawr. Cafodd hi wobr Hyrwyddwr y Cyflog Byw gan y Sefydliad Cyflog Byw a gwobr Cyflawniad Gydol Oes gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd am ei gwasanaethau tra ei bod yn Brif Swyddog Gweithredu’r sefydliad.

Sitpah Selvaratnam (LLB 1988)

Sitpah Selvaratnam

Roedd Sitpah Selvaratnam yn eiriolwr ac yn gyfreithiwr ym Malaysia am 33 mlynedd cyn mynd yn gymrodeddwr annibynnol yn 2024. Mae Sitpah yn arbenigo mewn anghydfodau llongau a morol, masnach ryngwladol ac anghydfodau masnachol a chytundebol. Mae hi'n Aelod Llys o Lys Cymrodeddu Rhyngwladol yr ICC ym Mharis, ac yn Aelod o'r Llys Cymrodeddu Parhaol yn Yr Hâg. Mae gan Sitpah radd LLB (Prifysgol Cymru), LLM (Prifysgol Caergrawnt), a chafodd ei galw i Radd y Bargyfreithiwr Allanol gan Lincoln's Inn.

Professor Elizabeth Treasure CBE

Professor Elizabeth Treasure CBE

Cymhwysodd Elizabeth Treasure yn ddeintydd ym Mhrifysgol Birmingham. Yn dilyn swyddi yn y GIG, symudodd i Seland Newydd i ddilyn gyrfa yn academydd. Ymhlith ei diddordebau ymchwil mae epidemioleg ddeintyddol, hybu iechyd ac effeithiolrwydd clinigol. Dychwelodd i'r DU ym 1995 gan ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn uwch-ddarlithydd. Cafodd ei dyrchafu’n Athro gan arwain yr Ysgol Deintyddiaeth cyn bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor o 2010. Yn 2017, fe’i penodwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n arwain ar ddatblygiadau academaidd megis darparu ei rhaglen addysg nyrsio gyntaf ac agor unig Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Cymru. Yn ddiweddar fe’i gwnaed yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am wasanaethau i addysg uwch.

Dr Gabe Treharne

Dr Gabe Treharne

Cafodd Gabe Treharne ei fagu yn Ne Cymrug, a threuliodd ei yrfa broffesiynol ym maes Peirianneg Sifil yn Arup, lle daeth yn aelod o'i Fwrdd Ewropeaidd gan ymgymryd â rolau gweithredol ym maes Seilwaith, Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol. Dechreuodd fel Peiriannydd Geodechnegol yn Llundain, gan ddylunio'r sylfeini ar gyfer adeiladau uchel. Ym 1975, symudodd i Gaerdydd lle bu'n arwain timau a oedd ynghlwm wrth brosiectau adeiladu a seilwaith o bwys. Daeth yn aelod o Gyngor Prifysgol Caerdydd yn 2007, gan wasanaethu fel Is-Gadeirydd a Dirprwy Ganghellor a chynghori ar raglen adeiladu'r Brifysgol.

Rhannu’r stori hon

Byddwn yn dal awyrgylch #GraddCdydd ledled y campws a'r ddinas ac yn rhannu lluniau y tu ôl i'r llenni mewn cyhoeddiadau, a thrwy lygaid myfyrwyr. Ychwanegwch #GraddCdydd i'ch cyhoeddiadau a byddwn yn rhannu ein ffefrynnau. Cewch hyd i ni ar Instagram, Facebook a Twitter.