Digwyddiad Caru Grangetown yn ysbrydoli syniadau ar gyfer prosiect cymunedol newydd
9 Gorffennaf 2024
Mae’r Porth Cymunedol a chymuned Grangetown wedi meithrin partneriaeth hirdymor ers 2014 er budd y gymuned a Phrifysgol Caerdydd fel ei gilydd. Roedd Caru Grangetown 2023 yn enghraifft o’r cydweithio llon a chynhyrchiol sy’n digwydd rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown.
Digwyddiad ymgysylltu a chyd-ddylunio blynyddol yw Caru Grangetown. Mae’n cael ei gynnal gan y Porth Cymunedol, a’r nod yw cyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu cadarnhaol ar gyfer Grangetown y gall y gymuned leol a Phrifysgol Caerdydd weithio tuag atyn nhw gyda’i gilydd.
Cafodd y digwyddiad Caru Grangetown cyntaf ei gynnal gan y Porth Cymunedol yn 2015, a hynny mewn pabell fawr y tu allan i Bafiliwn Grange, a oedd yn adeilad gwag ar y pryd. Nid oedd gan Brifysgol Caerdydd lawer iawn o gysylltiadau â’r ardal nac unrhyw gynlluniau rhagddiffiniedig ond gwrando. Roedd y llechen wag hon yn fodd i’r Brifysgol a’r preswylwyr lleol ddatblygu prosiect ar sail cyd-weledigaeth ar gyfer Grangetown.
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae’r bartneriaeth a ffurfiwyd rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown wedi arwain at newid gwirioneddol a gweladwy yn Grangetown, gan gynnwys:
- Pafiliwn Grange – pafiliwn bowlio a oedd yn dirywio gynt ond sydd bellach yn ganolfan gymunedol drawiadol
- Fforwm Ieuenctid Grange – grŵp aelodaeth i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed ddod at ei gilydd i gefnogi a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau
- Gardd gymunedol Grangetown ym Mhafiliwn Grange – man hardd sy’n cael ei gynnal a chadw gan wirfoddolwyr ymroddedig
Ar gyfer Caru Grangetown 2023, daeth y Porth Cymunedol a’r gymuned leol ynghyd ym Mhafiliwn Grange. Ac yntau wedi’i adnewyddu’n wych, mae’r pafiliwn yn crynhoi’r newid y mae’r Brifysgol a’r gymuned wedi’i sicrhau’n barod yn bartneriaid. Daeth y digwyddiad â phreswylwyr, grwpiau cymunedol, myfyrwyr, academyddion a darparwyr gwasanaethau o bob rhan o Grangetown at ei gilydd i freuddwydio am ddyfodol cadarnhaol i’r ardal. Arweiniodd y gyfres o weithdai a chyfweliadau at flaenoriaethau clir ar gyfer Grangetown, gan gynnwys syniadau terfynol ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.
Mae’r syniadau terfynol ar gyfer prosiectau’n cynnwys:
- Teithiau cymunedol rheolaidd – i bobl o bob rhan o’r gymuned ddod at ei gilydd a rhannu syniadau ar gyfer gweithredu a arweinir gan y gymuned
- Dosbarthiadau ymarfer corff i ferched – hyrwyddo byw’n iach a chyfleoedd i feithrin sgiliau
- Tai dan arweiniad y gymuned – cysylltu’r Brifysgol â grŵp cymunedol presennol sy’n ceisio datblygu cydweithfa dai a fydd yn darparu tai fforddiadwy yn yr ardal
- Adennill y Gwaith Nwy – troi’r safle’n dai gwyrdd ac yn ganolbwynt amlbwrpas lle ceir mannau gwyrdd, cyfleusterau rhannu offer ac uwchgylchu, gweithdai sgiliau a rhandiroedd (bydd gan yr ardal lwybrau beicio o’i hamgylch, a bydd ‘hyrwyddwyr diogelwch’ yn cael eu treialu)
- Gerddi a mannau cyhoeddus bwytadwy lleol – tyfu bwyd i bawb mewn mannau cyhoeddus; blodau/bwyd/perlysiau; grŵp cymunedol i gynnal sawl man gwyrdd o wahanol feintiau
- Mentora ar ôl yr ysgol, cyfarfodydd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ym Mhafiliwn Grange a rhaglen reolaidd o weithgareddau, wedi’u hyrwyddo gan brifysgolion, colegau, busnesau ac ysgolion uwchradd
- Dosbarthiadau coginio rhwng cenedlaethau – 1-3 o bobl i arddangos pryd diwylliannol gyda chymorth gwirfoddolwyr; cynnig ardystiad diogelwch bwyd a chymorth cyntaf; cysylltiadau ag ysgolion yn yr ardal
- Digwyddiadau cyfnewid sgiliau ac arddangos busnesau lleol – cynnal digwyddiadau arddangos busnesau lleol mewn siopau gwag neu ar safleoedd manwerthu, gyda chyfleoedd i gysylltu â phobl a busnesau lleol a chyfnewid sgiliau
- Clirio'r lonydd y tu ôl i dai pobl – defnyddio’r mannau hyn ar gyfer tyfu, cysylltu, celf stryd, chwarae a digwyddiadau
Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â'r bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a'r gymuned leol wrth i gam nesaf y cydweithio fynd rhagddo.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi weithio mewn partneriaeth gyda ni ar brosiectau cydweithredol yn Grangetown, e-bostiwch communitygateway@caerdydd.ac.uk.