Ymchwil sy’n ceisio gwella cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi berdys
8 Gorffennaf 2024
Prif ffocws taith ymchwil Dr Maryam Lotfi o Ysgol Busnes Caerdydd i Bangladesh oedd deall cynaliadwyedd cymdeithasol y gadwyn gyflenwi berdys, a cheisio ei gwella.
Gwnaeth Dr Lotfi, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn Gynaliadwy a Chyd-gyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Caethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol, gynnal yr ymchwil hon yn rhan o brosiect ymgysylltu gwerth cyhoeddus, sef ‘Ethical Shrimp’, a ariennir gan Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Ysgol Busnes Caerdydd (Dr Maryam Lotfi a’r Athro Yingli Wang), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Dr Imtiaz Khan), a Phrifysgol Amaethyddol Bangladesh (Yr Athro Khan).
Yn ystod ei hymweliad â Bangladesh, fe wnaeth Dr Lotfi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys ffermwyr, rhyngfasnachwyr, cwmnïau prosesu a'u gweithwyr, a chyrff y llywodraeth. Roedd ei gwaith maes yn canolbwyntio ar fapio risgiau cymdeithasol a chynnig gwelliannau.
Yn ogystal ag ymweld ag ardal lle maen nhw’n ffermio berdys, teithiodd hi hefyd i Brifysgol Amaethyddol Bangladesh. Yno, bu iddi gyfarfod â thîm y brifysgol, y Deon, a’r Is-Ganghellor i drafod y posibilrwydd o gydweithio ar gadwyni cyflenwi cynaliadwy yn y sector bwyd-amaeth rhywbryd yn y dyfodol.
Gwnaeth y trafodaethau a’r ymgysylltiadau dwys a gafwyd arwain at ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r gadwyn gyflenwi berdys i fyny’r gadwyn, ynghyd â nodi’r heriau y mae rhanddeiliad amrywiol yn eu hwynebu. Ymhlith y materion allweddol yr eid i’r afael â nhw oedd eithrio’r rhan fwyaf o ffermwyr rhag mentrau llywodraethol oherwydd cyfyngiadau o ran capasiti a chyllid, codi prisiau annheg ar ffermwyr gan gwmnïau a rhyngfasnachwyr, a diffyg dulliau o’r gwaelod i fyny wrth osod y prisiau.
Er bod rhanddeiliaid yn amharod i drafod yr arfer o lafur plant yn agored, cadarnhawyd mai mewn rhai ardaloedd yn unig y mae hynny’n digwydd, er iddo gael ei wrthod ar lefel y fferm. Ymhlith rhai o’r heriau eraill a nodwyd oedd materion diwylliannol, diffyg ymwybyddiaeth, a thlodi eithafol. Er gwaetha’r holl broblemau hyn a'r cyflog annheg, bu i sawl gweithiwr barhau i fynegi boddhad yn y swydd
Disgwylir y bydd y casgliadau a ddaeth yn sgîl y prosiect hwn roi hwb mawr i gynaliadwyedd cymdeithasol yn y gadwyn gyflenwi berdys, gyda'r nod o wella amodau i bawb sydd ynghlwm.