Democrateiddio Darogan: gwella galluoedd dadansoddol mewn gwledydd sy'n datblygu
5 Gorffennaf 2024
Mae Athro Gwyddor Penderfyniadau a Yrrir gan Ddata Ysgol Busnes Caerdydd, Bahman Rostami-Tabar, yn rhoi’r offer i unigolion mewn gwledydd sy’n datblygu i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ar gyfer dyfodol ansicr mewn cyfres o weithdai am ddim.
Nod y fenter Democrateiddio Darogan (DD), a lansiwyd yn 2018, yw darparu addysg ddarogan o ansawdd uchel i gymunedau difreintiedig ledled y byd, gan fynd i’r afael â’r galw critigol am setiau sgiliau darogan fel un o’r dulliau ymchwil weithredol a rheoli mwyaf cyffredin. Nod y prosiect yw pontio'r rhaniad data a sicrhau y gwneir penderfyniadau mwy cywir a dibynadwy.
Mae'r fenter yn cynnwys datblygu cwricwlwm a chyflwyno gweithdai wyneb yn wyneb ar gyfer academyddion ac ymarferwyr mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu'r llif gwaith darogan cyfan, o nodi penderfyniadau y mae angen eu darogan i gynhyrchu a gwerthuso ansawdd y darogan. Mae’n archwilio sail ddamcaniaethol dulliau darogan, gan bwysleisio eu manteision, eu cyfyngiadau a’u cymwysiadau ymarferol yn R.
Yn dilyn ymateb ysgubol o sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb, arweiniodd yr Athro Rostami-Tabar ddatblygiad AFRICAST, platfform ar-lein sy'n darparu addysg ddarogan i ddysgwyr yng ngwledydd Affrica Is-Sahara. Yn deillio o'r fenter Democrateiddio Darogan, nod AFRICAST yw gwneud gwybodaeth ddarogan yn hygyrch, yn enwedig mewn gwledydd incwm isel a chanolig.
Mae’r prosiect AFRICAST yn bartneriaeth rhwng Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Busnes Monash, Prifysgol Amaethyddiaeth a Thechnoleg Jomo Kenyatta, a Darogan er Lles Cymdeithasol (F4SG) yn yr International Institute of Forecasters. Mae'r gweithdai'n ymdrin â phynciau amrywiol, gan gynnwys arddangosiadau codio byw, sesiynau mentora, ac ymarferion labordy. Mae cyfranogwyr hefyd yn cael mynediad am ddim i storfa ar-lein gynhwysfawr sy'n cynnwys adnoddau fel sleidiau cyflwyniadau, cod, ymarferion, a recordiadau o weithdai. Cynhaliwyd y cohort cyntaf o hyfforddiant AFRICAST yn rhithwir rhwng 23 a 27 Hydref 2023 a bydd yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn.
“Gwnaeth yr International Institute of Forecasters (IIF) gydnabod effaith a phwysigrwydd elfennol y rhaglen hon o’r cychwyn cyntaf. Hoffwn ganmol yr Athro Bahman Rostami-Tabar am ei ymroddiad a’i ymrwymiad rhyfeddol i’r genhadaeth fonheddig y dechreuodd arni, er gwaetha’r troeon trwstan. Dros y blynyddoedd, bu’n rhaid iddo oresgyn risgiau yn ystod ei deithiau er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon – mae IIF yn ymrwymedig i barhau i gefnogi’r dasg bwysig hon.” Yr Athro George Athanasopoulos, Llywydd yr International Institute of Forecasters
Rhwng Ionawr 2018 a Rhagfyr 2023, mae 473 o unigolion o 22 o wledydd wedi elwa ar yr hyfforddiant trwy weithdai wyneb yn wyneb a'r platfform ar-lein.
Wrth wraidd Democrateiddio Darogan mae’r cysyniad ‘Darogan er Lles Cymdeithasol (F4SG)’, maes arbenigol a sefydlwyd gan yr Athro Rostami-Tabar, sy’n pwysleisio penderfyniadau sy’n blaenoriaethu lles cymdeithasol a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae darogan cyfres amser, sy’n elfen allweddol o’r prosiect, yn defnyddio data hanesyddol i ragfynegi tueddiadau’r dyfodol, gan alluogi unigolion i wneud penderfyniadau strategol sy’n cyd-fynd ag amcanion cymdeithasol ehangach.
Darllenwch fwy am Ddemocrateiddio Darogan mewn erthygl a gyhoeddwyd gan ORMS Today INFORMS.