Gwireddu breuddwydion yn La La Land
4 Gorffennaf 2024
Mae cyn-fyfyrwraig wedi ennill ysgoloriaeth BAFTA-Fulbright ym maes ysgrifennu ar gyfer y sgrin
Bydd awdur/cyfarwyddwr a goruchwyliwr sgriptiau ar ddechrau ei gyrfa yn astudio yn un o ysgolion ffilmiau enwocaf y byd.
Er gwaetha’r gystadleuaeth gref a’r gyfradd dderbyn gystadleuol o nid mwy na 4%, mae Rebs Fisher-Jackson (BA 2020, Llenyddiaeth Saesneg) wedi cael ei dewis i astudio Gradd Meistr yng Nghelfyddydau Cain Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin yn Ysgol Theatr, Ffilm a Theledu UCLA.
Ar ôl gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu ym Mhrydain yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf, bydd astudiaethau Rebs yn Hollywood yn ategu ei chredydau ffilm, yn ogystal â’i hymrwymiad hirsefydlog i annog amrywiaeth yn y diwydiant ffilmiau.
Mae’r Ysgoloriaeth BAFTA-Fulbright wedi gwireddu ei breuddwydion.
Mae Rebs wrth ei bodd yn datblygu ei nod, sef creu ffilmiau sy’n sbarduno newidiadau cymdeithasol yn y wlad hon a thu hwnt, yn enwedig o ran y gymuned LHDTC+. Eglurodd Rebs:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael fy herio yn UCLA ac i ddysgu sut i ddefnyddio fy llais i greu hanesion amrywiol, ond hefyd i wneud gwahaniaeth ystyrlon wrth herio'r diwydiant ffilmiau i fod yn fwy agored ac amrywiol yn rhyngwladol.
Gan fy mod i’n wneuthurwr ffilmiau dosbarth gweithiol a fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol, rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd rwy i wedi’u cael i wella fy addysg. Mae derbyn gwobr BAFTA-Fulbright eleni yn gwireddu fy mreuddwyd oes o astudio yn yr Unol Daleithiau, ond mae hefyd yn gyfle imi gael profiad diwylliannol ac addysgol rhyngwladol o’r radd flaenaf.”
Dyma a ddywedodd Maria Balinska, cyfarwyddwr gweithredol Comisiwn Fulbright y DU ac UDA :
"Ein gweledigaeth ni yw byd heb rwystrau rhag dysgu, deall a chydweithio. Heddiw mae llawer o heriau byd-eang i'w goresgyn, ac mae angen arweinwyr trugarog i fynd i'r afael â’r rhain. Bydd y garfan hon o fyfyrwyr ôl-raddedig sydd wedi cael ysgoloriaeth yn rhoi pwyslais mawr ar ymgysylltu diwylliannol wrth iddyn nhw ymgymryd â rhaglenni astudio ac ymchwil uchelgeisiol yn yr Unol Daleithiau: Rwy'n llawn gobaith y byddprosiectau ysblennydd ar y cyd yn deillio o’r profiad."