Mae data yn allweddol i iechyd cenedlaethau'r dyfodol: Gwersi a rannwyd yn narlith gyhoeddus Sefydliad Waterloo
3 Gorffennaf 2024
Yn narlith gyhoeddus Sefydliad Waterloo 2024, bu’r Athro Simon Murphy yn trafod sut mae gan bartneriaethau strategol, data ac arloesi y potensial i leihau anghydraddoldeb iechyd ymhlith pobl ifanc.
Roedd manteision hyrwyddo hawliau plant ac annog llythrennedd data a chymryd rhan ymhlith y deg gwers a rannwyd yn y ddarlith flynyddol dan ofal y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl. Cynhelir Darlith GyhoeddusSefydliad Waterloo ym mis Mai bob blwyddyn pan fyddwn ni’n cyflwyno peth o'r ymchwil ddiweddaraf sy’n canolbwyntio’n arbennig ar y meddwl sy'n datblygu.
Amlinellodd yr Athro Simon Murphy y cyfleoedd i leihau anghydraddoldeb iechyd er mwyn i bobl ifanc wella eu lles yn y dyfodol gan ddefnyddio enghreifftiau o'i waith ar Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). Mae'r rhwydwaith yn casglu data gan bob ysgol uwchradd a bellach gan ysgolion cynradd ledled Cymru bob dwy flynedd, gan gefnogi gwaith monitro Llywodraeth Cymru yn ogystal â chynllunio i roi mesurau ar waith ym maes iechyd ysgolion. Mae hefyd yn cefnogi astudiaethau ymchwil sy'n adnabod dulliau effeithiol mewn ysgolion, gan gynnwys astudiaeth ddiweddar mewn ysgolion cynradd a oedd yn nodi'r mannau a'r lleoedd hynny a oedd yn peri i blant deimlo'n ddiogel.
Crynodeb o'r deg gwers a argymhellir ar gyfer prosiectau yn y dyfodol:
1. Mae ysgolion yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl ifanc
Mae 'hinsawdd' yr ysgol yn cael effaith ar bobl ifanc. Gall arweinyddiaeth effeithio ar yr hinsawdd, yr ethos, rôl pobl ifanc yn yr ysgol a'r gydberthynas â rhieni a gofalwyr. Mae pwyslais ar dderbyn pobl a’u parchu yn ogystal â gwerthoedd yn arwain at ddeilliannau mwy cadarnhaol. Mae'r rheini sydd ag oedolyn dibynadwy yn gysylltiedig â rhagor o les, yn enwedig os nad oes llawer o gefnogaeth gartref.
2. Mae creu seilwaith ymchwil sy'n addas i'r diben yn waith heriol
Mae pob math o rwystrau rhag creu seilwaith data effeithiol, gan gynnwys diffyg data presennol, polisïau gwleidyddol a baich yr ymchwil.
3. Mae partneru dwyochrog yn hollbwysig ym maes ymgysylltu
Bydd ieuo gweithgareddau a nodau polisi â byd ymchwil yn creu rhwydwaith cyfannol a defnyddiol lle bydd pawb yn cael yr hyn maen nhw ei eisiau. Mae hyn yn golygu bod yr ysgolion a'r rhanbarthau yn deall eu data a'u metrigau, yn lleihau cost cynnal astudiaethau yng Nghymru ac yn lleihau baich yr ymchwil ar ysgolion.
4. Creu ar y cyd gan ystyried hawliau plant
Mae ailgyflwyno gwybodaeth data dienw myfyrwyr iddyn nhw yn eu helpu i ymddiddori mewn pynciau ac yn arwain at well llythrennedd data. Maen nhw’n gweld y perthnasedd ac mae hyn yn hyrwyddo maes ymgysylltu yn y dyfodol.
5. Mae deall ymchwil yn llywio ymyraethau mwy penodol ar gyfer pobl ifanc
6. Mae polisïau ar y lefel genedlaethol yn sbarduno newidiadau mewn ysgolion
7. System gymhleth o fewn system gymhleth yw ysgolion
8. Mae deall sut mae ysgolion yn ymateb ac yn newid yn hollbwysig
9. Mae sicrhau newid yn cymryd amser
Mae perygl y bydd ymyraethau effeithiol yn cael eu diystyru gan nad ydyn nhw’n dangos canlyniadau yn ddigon cyflym.
10. Mae’n rhaid rhannu'r gwersi a ddysgwyd
Er bod angen cyd-destunoli ymchwil, mae gwerth ynghlwm wrth rannu canlyniadau y tu allan i Gymru. Mae dull y Rhwydwaith yn lledaenu'n effeithiol ar lefel ranbarthol, y wlad a dinasoedd.
Cyngor cloi’r Athro Murphy oedd ystyried Cymru yn labordy byw er mwyn arloesi a gwerthuso. Gan fod y Rhwydwaith ar waith, ceir seilwaith data sefydlog i gefnogi ymchwil ac ymgysylltu â’r ysgolion a myfyrwyr. Mae’r Rhwydwaith yn helpu i greu mwy o wyddonwyr-ddinasyddion ac mae'r dull hwn yn lledaenu'n effeithiol ar draws cyd-destunau mewn rhanbarthau, gwledydd a dinasoedd.
Gwyliwch ddarlith gyhoeddus Sefydliad Waterloo.