Ewch i’r prif gynnwys

Ystafell ddianc sy’n seiliedig ar waith Alan Turing yn dangos mai mwy na rhifau’n unig yw mathemateg

3 Gorffennaf 2024

Plant ysgol yn gwneud pos gyda llythrennau a rhifau
Disgyblion yn rhoi eu sgiliau datrys problemau, gwaith tîm a dycnwch ar waith wrth gasglu cliwiau, codau ac allweddi yn her ystafell ddianc Dr Woolley

Mae plant ysgol wedi cymryd rhan mewn ystafell ddianc wedi’i hysbrydoli gan Barc Bletchley, a hynny’n rhan o ddiwrnod o weithgareddau allgymorth ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd y gêm ei datblygu gan yr uwch-ddarlithydd Dr Thomas Woolley, ac mae’n gofyn i’r chwaraewyr ddatrys cyfres o bosau sy’n seiliedig ar waith ei arwr mathemategol, Alan Turing, yng Ngorsaf X yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ac yntau’n un o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif, arweiniodd Turing dîm o dorwyr côd a oedd yn gyfrifol am ddatgodio peiriant amgryptio’r Almaen o’r enw Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dr Woolley hefyd yw Pennaeth Allgymorth yr Ysgol Mathemateg, a dywedodd: “Un o fy arwyr mathemategol oedd Alan Turing. Roedd yn fathemategwr hollol anhygoel. Gweithiodd ar gyfrifiaduron cyn i gyfrifiaduron fodoli, a sefydlodd y maes bioleg fathemategol, sef ffocws fy ymchwil hyd heddiw.

“Er hynny, mae’n fwyaf enwog am dorri côd Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd – ac mae ffilmiau wedi’u gwneud sy’n adrodd y stori hon.

Mae’r gallu hwn i ymroi i broblem newydd a’r dyfalbarhad i fynd i’r afael â her – hyd yn oed os dydych chi ddim yn dod o hyd i’r ateb – ymhlith egwyddorion craidd mathemateg.
Dr Thomas Woolley Lecturer in Applied Mathematics

Mewn ras yn erbyn y cloc, dilynodd y timau o Ysgol Uwchradd Cathays gyfarwyddiadau mewn llythyr ffug gan ‘Adam Turning’ sy’n gofyn am eu helpu i dorri côd Enigma newydd.

Cyn bod modd eu recriwtio’n dorwyr côd newydd, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos bod ganddyn nhw’r sgiliau sydd eu hangen, a hynny drwy ddatrys posau a baratowyd gan ddefnyddio mapiau, ffyn pren, negeseuon wedi’u recordio ymlaen llaw, a mwy.

Y wobr am ddatrys un o’r posau yw allwedd neu gôd sy’n agor blwch clo. Bydd y blwch clo hwn yn rhoi pos neu gliw pellach i’w ddatrys.

Y nod yw cael pob un o dair olwyn Enigma er mwyn eu defnyddio i dorri côd olaf, cael allwedd a stopio’r cloc.

Dywedodd Uvindi, aelod o dîm a redodd allan o amser: “Llwyddon ni i agor pob un o’r blychau clo, ond doedden ni ddim yn gallu dod o hyd i’r côd ar gyfer y bysellbad metel.

“Roedd hi’n anodd iawn, ond dangosodd inni sut i fod yn glyfar ac yn amyneddgar.”

Ychwanegodd Felix, aelod o’r tîm buddugol a orffennodd mewn 38 munud a 21 eiliad: “Roedd hi’n llawer o hwyl ac yn eithaf anodd, hefyd.

“Ar adegau, roedd yn rhaid inni ddefnyddio olwyn seiffr Cesar ac yna gôd Enigma. Roedd hi’n ddifyr iawn!”

Yn ôl Dr Woolley, mae ystafelloedd dianc fel eu rhai ef yn wych ar gyfer helpu myfyrwyr i ddatblygu a dangos amrywiaeth o sgiliau pwysig.

Ychwanegodd: “Dw i wastad wedi mwynhau posau a mathemateg, ac mae gorgyffwrdd enfawr rhwng y ddau.

“Mae'r ystafelloedd dianc hyn yn gyfle i rannu'r llawenydd hwnnw gyda phlant ysgol sydd â syniad penodol – o bosib – o’r hyn sydd dan sylw wrth feddwl am fathemateg. Dyma obeithio bod y gêm hon yn eu hysbrydoli i ymddiddori o’r newydd mewn mathemateg.

“Wedi'r cyfan, nid rhifau’n unig yw mathemateg. Mae’r sgiliau datrys problemau, y gwaith tîm a’r dyfalbarhad sy’n cael eu hymarfer yn rhan o’r gêm hon yn hollbwysig mewn unrhyw faes, a dydy maes mathemateg ddim yn eithriad.”

Roedd her yr ystafelloedd dianc yn rhan o ddigwyddiad 'So what, STEM?' Prifysgol Caerdydd, gyda 260 o ddisgyblion blwyddyn saith ac wyth o bum ysgol uwchradd wahanol yn cymryd rhan.

Mewn amrywiaeth o weithdai a ffair wyddoniaeth, rhoddodd y disgyblion gynnig ar arbrofion gwyddonol, dysgon nhw am y sgiliau sydd eu hangen ar wyddonwyr ar gyfer eu gwaith, a heriwyd ystrydebau am rai pynciau STEM.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.