Dyfarniadau ar erthyliad yn UDA: Dadansoddiad ieithyddol-gyfreithiol o’r briffiau amicus yn dangos bod menywod yn colli galluedd, a hynny ar ddwy ochr y ddadl
3 Gorffennaf 2024
Daw’r ymchwil i’r casgliad mai rhy llipa o ran eu hiaith oedd y briffiau amicus a gafodd eu hysgrifennu o blaid mynediad at erthyliad, gan leihau’r gallu i greu gwrthddadl i’r briffiau yn ei erbyn.
Ac yntau wedi’i ysgrifennu gan academyddion o Brifysgol Caerdydd ac o Goleg y Gyfraith Washington Prifysgol America, dyma’r papur cyntaf i ddadansoddi briffiau amicus curiae, neu friffiau 'ffrind i'r llys', sydd wedi’u cyflwyno mewn tri achos llys o bwys ar erthyliad yng Ngoruchaf Lys UDA: Roe v. Wade (a'r achos cysylltiedig Doe v. Bolton), Planned Parenthood v. Casey, a Dobbs v. Jackson.
Mae briffiau amicus yn cael eu cyflwyno gan bobl, grwpiau, neu sefydliadau sydd â buddiannau cryf ym mhwnc yr achos, ond nad ydyn nhw'n bartïon i'r ymgyfreitha nac ychwaith yn ymwneud yn uniongyrchol â nhw. Yn gyffredinol, mae awduron y briffiau amicus modern yn ysgrifennu i ddatgan eu buddiannau unigol neu sefydliadol eu hunain y maen nhw’n tybio “sydd, o bosib, wedi’u peryglu gan yr ymgyfreitha”. Gall llys benderfynu ystyried y safbwyntiau hyn wrth ddod i benderfyniad.
Mae’r astudiaeth hon yn trin a thrafod y rôl a chwaraeodd y briffiau dros gyfnod o bum degawd, pwy ysgrifennodd nhw, a’u strategaethau rhethregol ac ymgysylltol.
Dyma a ddywedodd Dr Amanda Potts, ieithydd o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae ein dadansoddiad o’r 189 o friffiau, sy’n gyfwerth â 1.1 miliwn gair, yn dangos y caiff pobl feichiog eu cyflwyno fel unigolion goddefol sydd â diffyg galluedd, p’un ai bwriad yr awduron oedd ceisio cyfyngu neu ehangu mynediad at erthyliad ai peidio.
“Yn hytrach, yn ôl briffiau sy'n cefnogi mynediad at erthyliad, mae unigolion beichiog sy’n agored i niwed yn cymryd rhan mewn prosesau corfforaethol di-wyneb. Roedd y briffiau sefydliadol, llywodraethol, academaidd a meddygol yn cynrychioli cynghreiriau o awduron yn dod ynghyd fel pe baen nhw’n ceisio dylanwadu ar y Llys drwy undod, niferoedd, ac urddas. Ond i'r gwrthwyneb, roedd hyn yn golygu bod y briffiau hynny o blaid mynediad â llai o ergyd o ran eu cynildeb, ynghyd â diffyg naratifau unigol a mwy dynol. Mewn modd paradocsaidd, gallai ymdrechion i geisio cynnwys a chyfleu lleisiau unedig fod wedi tanseilio effeithiolrwydd amici fel cyfranwyr.
Cafodd erthyliadau eu gwneud yn gyfreithiol ledled UDA yn sgil dyfarniad cyfreithiol o bwys yn 1973, a gaiff ei gyfeirio ato'n aml fel achos Roe v Wade. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth Goruchaf Lys UDA - sef corff cyfreithiol uchaf y genedl - wrthdroi'r hawl honno. Ym mhenderfyniad y Llys ynghylch achos Dobbs v Jackson Women’s Health Organization, gwnaeth y mwyafrif ceidwadol yn y llys drosglwyddo’r grym i reoleiddio erthyliadau - neu eu gwahardd yn llwyr - i daleithiau unigol.
Dyma a ddywedodd y cyd-awdur Jamie R Abrams, o Goleg y Gyfraith Prifysgol America Washington: “Mae ein hymchwil, a gafodd ei gynnal yn sgil dyfarniadau o bwys yn y Goruchaf Lys wedi gofyn y cwestiwn canlynol: Sut cyrhaeddon ni’r sefyllfa hwn? Beth yw’r ffordd ymlaen ar gyfer y dyfodol? Cychwynnon ni ar y dasg o gael hyd i ateb i’r cwestiwn hwn drwy gasglu’r holl dystiolaeth bosibl gan sawl rhanddeiliad yn y gymdeithas: seneddwyr, ysgolheigion, arweinwyr crefyddol, ymarferwyr meddygol.
“Mae astudio newidiadau yng nghyfansoddiad briffiau amicus, yn ogystal â’r rhethreg a gafodd ei defnyddio yn y briffiau hyn, yn rhoi cipolygon hollbwysig inni o ran hynt penderfyniadau’r Llys a’r newidiadau strategol mewn eiriolaeth farnwrol ynghylch hawliau atgenhedlu. Maen nhw’n gweithredu’n ffordd o fesur sut mae ystod amrywiol o grwpiau perthnasol wedi diffinio ac amddiffyn yr hawl i gael erthyliad dros amser.
“Daeth ein dadansoddiad i’r casgliad hefyd fod llawer o’r briffiau a gafodd eu hysgrifennu o blaid cyfyngiadau wedi’u hysgrifennu gan un meddyg yn rhan o grŵp o unigolion sydd yn gwrthwynebu erthyliad ar sail grefyddol neu wleidyddol. Roedd hyn yn golygu bod dadleuon crefyddol yn cael eu cysgodi gan friffiau a oedd, i bob golwg, yn seiliedig ar wybodaeth feddygol. Mae hon yn strategaeth na allai amici, drwy gefnogi mynediad at erthyliad, gystadlu â hi. Dros amser, sylweddolon ni fod briffiau a oedd yn ceisio ehangu mynediad at erthyliad yn dechrau gyda dadleuon beiddgar a chreadigol, ond yn ddiweddarach, yn amddiffyn y status quo.”
Ychwanegodd Dr Potts: “Mae’r defnydd o friffiau amicus wedi cynyddu’n aruthrol ers y dyfarniadau a gafodd eu cynnal ddwy flynedd yn ôl. Ein gobaith yw y bydd ein canfyddiadau yn dangos bod galw am ddiwygiadau sefydliadol, hynny yw, bod angen ceisio atal briffiau sy’n cael eu hysgrifennu gan awduron o sawl cefndir neu gategori er mwyn osgoi gwyrdroadau. Dylai amici gynnig gwahanol safbwyntiau, yn hytrach na rhai cyffredinol er mwyn iddyn nhw fod o ddefnydd gwirioneddol i’r llysoedd.”
Mae'r papur, The Rhetoric of Abortion in Amicus Briefs, wedi'i gyhoeddi yn y Missouri Law Review, ac mae ar gael i'w ddarllen yma.