Ewch i’r prif gynnwys

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am ei gweledigaeth a'i harweinyddiaeth”

3 Gorffennaf 2024

Yr Athro Julie Williams

Ar ôl saith mlynedd yn y rôl, bydd yr Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, yn camu i’r naill ochr er mwyn canolbwyntio ar ei hymchwil ar ddementia.

Yn sgil arweinyddiaeth yr Athro Williams, cyfarwyddwr sefydlu'r Ganolfan, mae’r cyfleuster ymchwil eithriadol hwn wedi llwyddo i wneud cryn nifer o ddatblygiadau ymchwil wrth ddatrys y cymhlethdodau ynghlwm wrth glefyd niwroddirywiol.

O dan ei harweinyddiaeth, mae'r Ganolfan wedi denu mwy na £70m o gronfeydd ymchwil, gan ddatblygu 12 Cymrodor Ymchwil, wyth Arweinydd Grŵp a phedwar Arweinydd sy'n dechrau dod i'r amlwg. Hefyd, mae wedi hyfforddi bron i 60 o fyfyrwyr PhD i fuddsoddi yn arweinwyr y dyfodol ym maes ymchwil ar ddementia.

Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae ymchwilwyr wedi:

  • Adnabod tua 100 o enynnau sy'n gysylltiedig â’r risg ynghlwm wrth Alzheimer neu ddechreuadau clefyd Huntington.
  • Defnyddio genomeg i adnabod patrymau newydd data, gan ddod o hyd i'r rheini sydd â'r risg genetig uchaf o ddatblygu afiechydon niwroddirywiol, mathau penodol o gelloedd sy’n datblygu clefydau, yn ogystal ag adnabod rôl genynnau risg Alzheimer wrth addasu’r rhain i glefyd Parkinson.
  • Defnyddio darganfyddiadau genetig i ddatgelu mecanweithiau newydd clefydau, megis effeithiau microglia ar synapsau, endocytosis mewn celloedd gliaidd, derbynnedd endothelaidd a system ategu clefyd Alzheimer, a thrwsio RNA yng nghlefyd Huntington.
  • Creu banc o 120 o linellau bôn-gelloedd lluosbotensial cymelledig gan bobl â risg genetig uchel neu isel er mwyn gwella modelu ffurfiau cyffredin o Alzheimer a Parkinson.

Dyma a ddywedodd yr Athro Williams: “Dyma'r amser iawn yn fy ngyrfa i gamu o'r neilltu o fod yn Gyfarwyddwr i ganolbwyntio yn lle hynny ar fy ymchwil fy hun. Bydd gwneud hyn hefyd yn rhoi mwy o le imi ganolbwyntio ar gyfarwyddo'r ymchwil wyddonol a ariennir gan Sefydliad Moondance yng Nghaerdydd.

Rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd ymchwil a'r heriau yn y dyfodol ond mae gen i atgofion hyfryd o fy amser yn arwain y broses lansio a thwf y Ganolfan yng Nghaerdydd. Rwy mor falch o'r tîm rydyn ni wedi'i greu yn y Ganolfan a dw i’n amau dim y bydd eu cyfraniad yn lleihau baich y clefydau gwanychol hyn ar genedlaethau'r dyfodol.
Yr Athro Julie Williams Professor of Neuropsychiatric Genetics & Genomics

Ymunodd yr Athro Williams â Phrifysgol Caerdydd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan yn 2017, ac roedd y ffaith ei bod eisoes yn genetegydd byd-enwog ac wedi bod yn gyn-Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru o gymorth wrth arwain y Ganolfan. Ar y cyd â'i rôl yn y Ganolfan, roedd yr Athro Williams hefyd yn Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Alzheimer Research UK, aelod o Gyngor Academi'r Gwyddorau Meddygol, ac yn bencampwr y Cyngor yng Nghymru.

O fis Gorffennaf 2024 ymlaen, bydd yr Athro Williams yn camu i’r naill ochr ar ôl bod yn Gyfarwyddwr y Ganolfan, ond bydd yn parhau â'i chysylltiad â'r Ganolfan, a hynny drwy ei rhaglen wyddonol ar y risg genetig ynghlwm wrth glefyd Alzheimer. Yn ogystal, bydd hi'n parhau i arwain Labordy Ymchwil ar Ddementia Moondance.

Dyma a ddywedodd Rob Buckle, Prif Swyddog Gwyddoniaeth y Cyngor Ymchwil Feddygol: “Hoffai’r Cyngor Ymchwil Feddygol gydnabod a diolch i Julie am ei chyfraniad aruthrol i ymchwil ar ddementia, ac yn arbennig ei heffaith sylweddol wrth helpu i ddatrys y gyrwyr genetig ynghlwm wrth niwroddirywio a seiliau mecanyddol clefyd Alzheimer. Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol yn falch o fod wedi cefnogi rhaglenni ymchwil Julie dros gyfnod hir, ac roedd yn falch iawn o weld Julie yn cymryd yr awenau yn y Ganolfan yng Nghaerdydd pan gafodd ei sefydlu, yn sgil cyfuno ei hymchwil ei hun â datblygiadau cyffrous eraill a phrosiectau rhyngddisgyblaethol, ond hefyd ei phenderfynolrwydd i ehangu sylfaen ragorol yr ymchwil sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae llwyddiant y Ganolfan hyd yma yn dyst i’w harweinyddiaeth.”

Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Julie am ei gweledigaeth a'i harweinyddiaeth wrth sefydlu’r Ganolfan yng Nghaerdydd gan ei bod wedi gwneud camau sylweddol yn y gwaith o ddeall y cymhlethdodau ynghlwm wrth glefyd niwroddirywiol. Rwy'n falch iawn y bydd Julie yn parhau i fod yn rhan o'r Sefydliad yn sgil ei rhaglen wyddonol.
Athro Siddharthan Chandran, Cyfarwyddwr y Ganolfan

Rhannu’r stori hon