Mae boeler cyntaf y byd sy’n defnyddio ager amonia wedi symud i'r cam nesaf o brofi
1 Gorffennaf 2024
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn agor llwybrau newydd ym maes mabwysiadu ynni cynaliadwy a diwydiant gwyrddach.
Mae ymchwilwyr yn y Sefydliad Arloesi Sero Net, mewn cydweithrediad â'r partner diwydiant Flogas, wedi dechrau profi math newydd o foeler amonia carbon isel ar y safle ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ariennir prosiect Amburn gwerth £3.4 miliwn, a lansiwyd y llynedd, gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net drwy'r Gystadleuaeth Newid Tanwydd Diwydiannol. Mae tîm y prosiect wedi dylunio offer cyntaf y byd sy'n ceisio mynd i'r afael ag allyriadau carbon diwydiannol drwy gynnig ateb gwyrddach.
Yn hytrach na defnyddio olew yn danwydd, mae'r boeler newydd yn llosgi amonia gwyrdd sy'n hylifo wrth dymheredd a gwasgedd is a gellir ei storio'n rhad. Ar hyn o bryd mae llawer o safleoedd diwydiannol oddi ar y grid yn cael eu tanio gan olew carbon trwm, gan ddefnyddio 4.5 miliwn tunnell o olew bob blwyddyn sy'n cyfateb i allyriadau gwerth 14 tunnell fetrig.
Dyma a ddywedodd Dr Syed Mashruk, arweinydd thema Tanwyddau Sero Net yn Sefydliad Arloesi Sero Net Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: "Yr arbrofion hyn fydd y cyntaf o'u bath ac mae gan y system hylosgi newydd a yrrir gan amonia a ddyluniwyd gennym ni ym Mhrifysgol Caerdydd y potensial i newid y ffordd rydyn ni’n pweru'r diwydiant.
Yn sgil ein profion, byddwn ni’n deall yn well sut i ddefnyddio’r dechnoleg hon i ddatgarboneiddio byd diwydiant nad oes ganddo fynediad at ynni’r grid. Bydd dysgu yn sgil yr arbrofion hyn yn cyflymu'r cynnydd tuag at sero net."
Yn ddiweddarach yn 2024, bydd Prifysgol Caerdydd a Flogas yn symud ymlaen at brofion Cam Dau pan fydd y llosgwr yn cael ei gynyddu hyd 1MW. Yn olaf yn gynnar yn 2025, bydd y llosgwr sy’n rhan o foeler ager yn gweithio yn unol â 1MW ar safle un o gwsmeriaid Flogas er mwyn dangos sut mae’r dechnoleg yn gweithio yn y byd go iawn. Bydd y tîm yn anelu at baratoi'r dechnoleg at ei chyflwyno’n fasnachol.
Mae'r Sefydliad Arloesi Sero Net yn arwain gweithgareddau ymchwil a datblygu yn y defnydd newydd o amonia yn fector ynni. Mae hyn wedi sefydlu'r Ganolfan Ragoriaeth er Technolegau Amonia (CEAT) sy'n anelu at droi ymchwil labordai yn brofion ar raddfa ddiwydiannol, dod ag arbenigwyr o fyd diwydiant tanwydd glân ynghyd o bob cwr o'r byd, a gwneud amonia yn danwydd allweddol yn yr ymdrechion i ddatgarboneiddio yn yr 21ain ganrif.