Ewch i’r prif gynnwys

Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol yn sbarduno angerdd dros ddysgu ieithoedd

1 Gorffennaf 2024

Mae 3 bachgen sy'n gwisgo gwisg ysgol yn eistedd i lawr ac yn gwrando ar fyfyriwr llysgennad iaith yn siarad.
Un o'r gweithdai iaith a gynhaliwyd fel rhan o'r digwyddiad

Daeth plant ysgol o Dde Cymru am ddiwrnod hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd i ddod yn Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol.

Roedd y cwrs, a gafodd ei gynnal gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar 12 a 14 Mehefin, yn rhoi cyfle i dros 90 o blant ysgol gynradd ym mlwyddyn 5 gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol drwy gydol y dydd, a'r nod oedd sbarduno angerdd dros ddysgu ieithoedd a gwella eu sgiliau iaith.

Cynhaliwyd gweithdai iaith amrywiol drwy gydol y dydd gan staff academaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a Phrifysgol Abertawe, yn ogystal â Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru.

Mae 5 o ferched ac un dyn yn sefyll ac yn gwenu ar y camera. Maen nhw i gyd yn gwisgo crys-t llwyd.
Myfyrwyr Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Cafodd y gweithdai eu llunio i roi cyfle i blant ddysgu am ieithoedd a diwylliannau'r gwledydd lle mae’r ieithoedd dan sylw yn cael eu siarad. Roedd hyn yn cynnwys dysgu am gerddoriaeth Sbaenaidd a Gemau Olympaidd Paris 2024 yn ystod y gweithdai Sbaeneg a Ffrangeg. Yn ogystal â hynny, cafodd y plant gyfle i gael blas ar Almaeneg, Eidaleg a Phortiwgaleg.

Ar ôl treulio'r diwrnod yn ymgolli mewn ieithoedd, rhoddwyd llawlyfr Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol i'r plant i'w cwblhau gyda phlant eraill ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i'w hysgolion.

Mae grŵp o fechgyn a merched sy'n gwisgo gwisg ysgol yn eistedd ar y llawr.
Plant ysgol yn cymryd rhan yn un o'r gweithdai

Nazaret Perez-Nieto yw Cyfarwyddwr Academaidd Llwybrau at Ieithoedd Cymru. Meddai hi: “Cafodd yr Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol hwyl a sbri yn dysgu llawer o ffeithiau diddorol am ieithoedd a diwylliannau. Maen nhw wedi cymryd eu rôl o ddifrif ac maen nhw’n edrych ymlaen at gael annog plant eraill yn eu hysgolion a'u cymunedau i ddysgu ieithoedd.

"Mae'r digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y syniadau a'r mentrau gwych y bydd yr archarwyr bach hyn yn eu creu. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut maen nhw’n cwblhau'r heriau diddorol mae tîm Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi'u paratoi ar eu cyfer."

Mae llwyddiant y digwyddiadau yn mynd ochr yn ochr â’r cyhoeddiad bod Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Rhagoriaeth mewn Cenhadaeth Ddinesig neu Ymgysylltu â'r Cyhoedd 2024 yn rhan o gynllun Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd enillwyr y wobr yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd. Llongyfarchiadau i Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar gael eu henwebu!

Rhannu’r stori hon